Dyfyniad yw hwn gan R. Tudur Jones o ddechrau'r 80au, dwi'n meddwl ei fod yn coleddu'r gorau o wleidyddiaeth canol chwith a chanol dde i fod yn gredo a sail posib i glymblaid enfys.
"I mi mae'r hen bwyslais ar gydweithrediad, ar gryfhau cyfrifoldeb bro ac ardal, ar geisio creu cymdeithas aml ganolog, gyda'r Wladwriaeth yn cymryd ei lle fel ffurf gymdeithasol ymhlith llawer o ffurfiau cymdeithasol eraill, a'r cwbwl trwy ei gilydd a chyda'i gilydd yn galluogi pobl i fyw'n rhydd a ffyniannus – i mi, mae'r athrawiaeth hon yn dal yn berthnasol. "
A fydde chi'n cytuno gyda'r fath gredo?