Wel, o'm rhan i rwy wedi cefnogi pob un o'r opsiynau yn eu tro, ac wedi dod i'r casgliad, ar ol trafodaethau maith, a meddwl hirfaeth, mae clymblaid gyda'r Ceids a Libs yw'r opsiwn gorau i Blaid Cymru, a dyna y byddaf i yn eu gefnogi.
Mi wnes i siarad yn gryf o blaid statws gwrthblaid gref o'r blaen, gan gynnig rhoi 'rhestr siopa' faith o bwyntiau maniffesto y byddwn ni'n gallu eu ennill o du llywodraeth LLafur, a'r pwysicaf ohonynt oedd adolygaid o fformiwla barnet, refferendwm ar senedd i Gymru, a deddf iaith newydd.
Serch hynny, ers hynny wy ddim yn argyhoeddiedig y byddai Llafur yn gallu 'delivero' ar y rhain (2/3 beth bynnag) hyd yn oed petai yna gytundeb rhwng Llafur a Phlaid. Mae fformiwl Barnett yn effeithio ar bob rhan o 'Brydain' nid Cymru yn unig, felly mae newidiadau a phebderfyniadau ar hyn y tu hwnt i rym Rhodri Morgan, ac angen cefnogaeth cabinet San steffan, sydd yn anhebygol.
O ran refferendwm, nid dim ond cefnogaeth pleidlais aelodau cynulliad Llafur sydd eu angen, ond ymgyrch gan y Blaid hefyd i gael Senedd i Gymru. Dwy ddim yn gweld y mwyafrif o aelodau cynulliad Llafur yn ymgyrchu i wireddu rhan greiddiol o faniffesto Plaid Cymru. Byddai'n llawer mwy buddiol cael cytundeb hir dymor rhwng y Blaid, Ceid a Libs a chefnogaeth adain mwy cenedlaetholgar Llafur i wireddu hyn na dibynnu ar Lafur yn unig.
Hefyd, ar lefel bersonol, rwy wedi bod yn dadlau ers tro fod angen i'r Blaid ganolbwyntio yn fwy ar lawr gwlad ar bolisiau bara menyn - dydd i ddydd - y gall yr etholwyr uniaethu a hwy yn hytrach na syniadaethau haniaethol. Bu i'r Blaid wneud hynny yn arbennig o effeithiol eleni diolch i faniffesto oedd yn cydio yn y dychymyg ac oedd yn mynd i'r afael a bywyd baenyddiol trigolion Cymru. Am y tro cyntaf i mi gofio roedd pobl yn trafod polisiau Plaid Cymru ar y stepen drws (laptops, grantiau prynnu tai), ac yn arbennig iechyd - boed yn bositif neu negyddol - yn hytrach na chyhuddo'r Blaid o fethu a rhoi syniadau real i'r etholwyr a ishe 'rhwygo'r deyrnas unedig' (
). Cam mawr ymlaen. Nawr byddai'n anghyfrifol, ac yn anghywir ohonom ni fel Plaid nawr i droi rownd, a dweud wrth yr etholwyr hynny oedd wedi credu yn y Blaid ein bod ni am anwybyddu ein maniffesto, a'r addewidion y rhoddwyd ar ei stepen drws, ac yn hytrach am fynd mewn i bartneriaeth a'r Blaid Lafur - yr union Blaid sydd wedi troi eu cefnau ar bobl Cymru - ermwyn ambell i addewid nad oes sicrwydd y caiff eu gwireddu. Hyd yn oed o gael adolygiad o fformiwla Barnett, rhaid ond edrych ar y ffordd y bu i'r blaid Lafur drin comisiwn Richard i'n hatgoffa o 'fform' LLafur yn hyn o beth.
Ac yn olaf am nawr, mae yna bryder y byddwn ni yn colli pleidlais sosialwyr y cymoedd. Mae'r Blaid wedi bod yn aros am chwyldro mawr y cymoedd ers is-etholiad Caerffili yn 1958, ac does dim wedi digwydd. Mae rhywun eisioes wedi dweud hyn yn rhywle ar y Maes yma, ond nid pleidlais Sosialaiss mo pleidlais y cymoedd, ond yn hytrach pleidlais i Lafur. mae Llafur wedi bradychu eu sosialaeth. Roedd yna dwr o bleidiau sosialaidd yn sefyll yn y cymoedd yn yr etholiad diwethaf, a nemor un ohonyn nhw wedi cadw eu hernes. Roedd y dewis sosialaidd brydeinig yno i'r etholwyr, ond dewis rhoi pleidlais i Lafur neu PC/Annibynwyr (ar y cyfan) wnaeth yr etholwyr. felly rhaid i ni beidio a gadael i'r ddadl o ofni colli pleidleisiau sosialaidd i'n cam-arwain ni.