Wy'n cytuno'n llwyr na ddylid neidio am rym ar y cyfle cyntaf posib jest ermwyn cael grym. Dyna pam wy wedi trilio bron pob munud o bob dydd yn meddwl am hyn, ac yn trafod y peth (hyd syrffed). Om rhan i gobeithio alla i eich argyhoeddi chi nad grym er lles grym yw e - does dim byd personol gyda fi i elwa allan o'r peth.
serch hynny, yn un peth mae'r Blaid Lafur yn blaid pwdwr sydd yn colli cefnogaeth, ac wedi hen golli eu egwyddorion. O ran gwahaniaethau sylfaenol rhwng Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr, bron gellir dweud mae'r un yw'r gwahaniaethau gyda Llafur - o ran gadael i'r farchnad rydd reoli gwasanaethau. Ond mae'r blaid Geidwadol yn blaid llawer mwy Cymreig na Llafur bellach, ac wedi datgan ambell i bolisi fyddai'n cefnogi y broses o adeiladu cenedl Gymreig. 'Lesser of two evils' chwedl y Sais.
Yn yr un modd, tra efallai fod y 'chwith' a'r 'dde' traddodiadol yn dal i gael ei drafod yn San Steffan, does dim yr un sgop i hynny yng Nghymru. Yr un bloc grant y mae'r cynulliad yn ei dderbyn pwy bynnag yw'r blaid sydd mewn grym. Does dim lle i godi neu ostwng trethi. Yn wir dyna pam fod yr etholwyr yn cyhuddo'r holl bleidiau o gael maniffestos tebyg iw gilydd, achos y gwir amdani yw does dim lot o bethau yn wahanol y gellir ei wneud - gwahaniaethau ar flaenoriaethau. Mewn perthynas goalishwn o'r fath rhaid cofio mai y Blaid fydd yn arwain.
Hefyd, fel y soniodd aelod i mi, mae hyn am fod yn hanesyddol. Am y tro cyntaf erioed bydd yna brifweinidog cenedlaetholgar yn yr Alban, Cymru, a dirprwy brif-weinidog cenedlaetholgar yng ngogledd Iwerddon. Bydd hyn yn rhoi'r wasgfa ar Lafur. A bydd dwy Blaid unoliaethol (ar hynaf ohonyn nhw i gyd, y Ceidwadwyr) yn cefnogi plaid genedlaetholgar sydd o blaid annibyniaeth i Gymru! Cwbwl hanesyddol.
Bydd hefyd yn rhoi Rhodri Morgan mewn sefyllfa amhosib. A fydd e'n gallu parhau AC? Byddai'n gosod 'wedge' yn y Blaid Lafur, gyda'r adain genedlaetholgar yn pwyso am rhagor o ddatganoli a'r adain unoliaethol yn dadlau yn erbyn, ac, o bosib, yn gosod rhwyg fydd yn cymryd hydoedd i ail uno yn y Blaid Lafur. Mae mawr angen hyn, ma rhaid dysgu gwers i Lafur a dangos fod yna olternatif iddyn nhw.
Yn ychwanegol at hynny, fel sydd hefyd wedi cael ei ddweud yn barod yma, y tebygrwydd cryf yw y byddwn ni yn union yr un sefyllfa eto ymhen pedair mlynedd, ac yn gorfod dewis rhwng clymbleidio a Llafur neu Tori&Libs. Yn wir, gyda Cameron Bounce posib ystyriwch senario gyda'r Ceidwadwyr yn cael fwy na Phlaid Cymru yn yr etholiad nesaf! Ble fyddai hynny yn gadael y Blaid wedyn? Byddai hynny yn rhoi Llafur a'r Toris mewn sefyllfa dipyn cryfach na'r Blaid.
Ma 'da fi hyder yng ngallu aelodau etholedig y Blaid i wneud Cymru yn Gymru gwell, i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl Cymru. Pwy ddadl gwell o blaid annibyniaeth i Gymru sydd yna na dangos i bobl Cymru fod y Blaid yn gallu llywodraethu. Fydd yr hen ddadl fytholegol Lafuraidd ac Unoliaethol yna fod Cymru yn methu rheoli ei hun - ac fod Plaid Cymru yn cyflwyno breuddwyd gwrach, yn cael ei chwalu yn llwyr. Mae'n rhaid i ni gael hyder yn ein pobol ein hunen. Mae'r holl bleidiau eraill yn cymryd eu arweiniad o Lunden, ac yn seicolegol mae hynny wedi bod ergyd drom i'n hyder ni fel cenedl. Plaid Cymru yw'r unig blaid sydd yn rhoi buddianau Cymru yn flaenaf ac wedi dadlau dros y degawdau ein bod ni yn GALLU rhedeg ein gwlad ein hunain, a hynny yn llwyddianus. Os ydyn ni wedi dweud hynny dros y degawdau, pwy neges byddai gwrthod llywodraethu yn ei roi mas i bobl Cymru? 'Do as I say don't do as I do'?
Mae'r broses o greu cenedl newydd, cenedl well, ac un fydd yn gallu yn ei thro cymryd ei lle ymhlith cenhedloedd eraill y byd o fewn gafael, ac mae'n rhaid i Blaid Cymru arwain.
Dyna marn i beth bynnag.