Credo posib i glymblaid enfys?

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

A fydde chi'n derbyn y credo isod fel sail/gweledigaeth i glymblaid enfys?

Byddwn
17
50%
Na Fyddwn
17
50%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 34

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Mer 16 Mai 2007 4:31 pm

Clebryn a ddywedodd:Ac faint o bleidleisiau sydd iw hennill yn y cymoedd tabeth?


Cyfran go sylweddol o boblogaeth Cymru.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Credo posib i glymblaid enfys?

Postiogan Chwadan » Mer 16 Mai 2007 4:33 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Dyfyniad yw hwn gan R. Tudur Jones o ddechrau'r 80au, dwi'n meddwl ei fod yn coleddu'r gorau o wleidyddiaeth canol chwith a chanol dde i fod yn gredo a sail posib i glymblaid enfys.

"I mi mae'r hen bwyslais ar gydweithrediad, ar gryfhau cyfrifoldeb bro ac ardal, ar geisio creu cymdeithas aml ganolog, gyda'r Wladwriaeth yn cymryd ei lle fel ffurf gymdeithasol ymhlith llawer o ffurfiau cymdeithasol eraill, a'r cwbwl trwy ei gilydd a chyda'i gilydd yn galluogi pobl i fyw'n rhydd a ffyniannus – i mi, mae'r athrawiaeth hon yn dal yn berthnasol. "

A fydde chi'n cytuno gyda'r fath gredo?

Mae neo-ryddfrydwyr yn arddel credo tebyg - heb son am One-Nation Tories, fel mae Clebryn wedi dweud. Os dwi'n cofio'n iawn, mae E.H.H.Green yn Ideologies of Conservatism yn portreadu Ceidwadaeth Brydeinig mewn modd tebyg hefyd. Be wyt ti'n weld yn chwithig(!) am y dyfyniad?
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Credo posib i glymblaid enfys?

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 16 Mai 2007 4:47 pm

Chwadan a ddywedodd:Mae neo-ryddfrydwyr yn arddel credo tebyg - heb son am One-Nation Tories, fel mae Clebryn wedi dweud. Os dwi'n cofio'n iawn, mae E.H.H.Green yn Ideologies of Conservatism yn portreadu Ceidwadaeth Brydeinig mewn modd tebyg hefyd. Be wyt ti'n weld yn chwithig(!) am y dyfyniad?


Mae'n gymhleth yn dydy. Wel dyma fy stori i.

Mi ydw i wedi galw fy hun yn Sosialydd (o ryw fath) ers pan o ni tua 15, ac rhwng yr oedran o 15-18 roeddwn ni'n mynd mor bell a dweud mod i'n sosialydd o arlliw Marcsaidd. Roedd llun Che Guvera gyda mi ar y wâl, chi'n gwybod y math maen si?r. Yr hyn a berodd i mi golli ysbryd sosialaeth galed i ddechrau oedd darganfod fod sosialaeth galed wedi, ac yn, wrth Gristnogol ac dan faner sosialaeth a comiwnyddiaeth y mae Cristnogion wedi eu erlid waethaf yn hanes yr Ugeinfed Ganrif. Nawr, rwy'n gwybod nad ydw i'n debygol o gael fy erlid gan Leanne Wood, Adam Price a Bethan Jenkins am fy Nghristnogaeth, fodd bynnag roedd y syniad yma o ddyrchafu ideoleg wleidyddol fel petae yn ddwyfol ac i gymryd lle Duw fel y dwyfol yn codi braw arnaf.

Yn ogystal a hyn roedd fy nghred yn y dyn syrthiedig yn peri cymhlethdod gyda credu mewn sosialaeth gomiwnyddol lwyr. Dwi'n cofio darllen pan oeddwn tua 18 fod sosialwyr yn credu fod modd dileu trachwant, cenfigen ac uchelgais bersonol drwy'r drefn addysg. Yn ogystal ag ymylu ar senario Orwell yn '1984' dwi ddim yn credu fod y peth yn bosib beth bynnag – canlyniad a cyflwr y dyn syrthiedig yw trachwant a cenfigen ac ni all addysg byth dynnu rheini allan o galon pob dyn yn llwyr. Rhaid oedd trefn sosialaidd felly oedd yn cymryd i gyfri cyflwr naturiol farus dyn. Problem arall sosialaeth lwyr i mi oedd lle mae lle creadigrwydd a menter? Efallai fod gan y chwith galed atebion i hyn ond methais i a canfod rhai call.

Fodd bynnag 'toedd troi i'r dde ddim yn opsiwn – roeddwn ni, oherwydd fy Nghristnogaeth, yn credu fod dyn yn syrthiedig ond roeddwn ni dal yn Gristion oedd yn credu fod adferiad yng Nghrist yn bodoli nid yn unig ar y lefel ysbrydol ond ar lefel cyfiawnder yn y byd. Wedi'r cyfan sosialaidd i raddau yw'r senario yn yr hanesyn yma am sut oedd Cristnogion yr eglwys fore yn cyd-fyw:

"Roedd undod go iawn ymhlith y credinwyr i gyd. Doedd neb yn dweud “Fi biau hwnna!”. Roedden nhw’n rhannu popeth gyda'i gilydd. Roedd cynrychiolwyr Iesu yn cael rhyw nerth rhyfedd i dystio’n glir fod yr Arglwydd Iesu wedi dod yn ôl yn fyw, ac roedden nhw i gyd yn teimlo fod Duw mor dda tuag atyn nhw. Doedd neb ohonyn nhw mewn angen, am fod pobl oedd yn berchen tir neu dai yn eu gwerthu, ac yn rhoi’r arian i’r apostolion i’w rannu i bwy bynnag oedd mewn angen. Er enghraifft, Joseff, y dyn roedd yr apostolion yn ei alw’n Barnabas (sy’n golygu ‘yr anogwr’). Iddew o dras llwyth Lefi yn byw yn Cyprus. Gwerthodd hwnnw dir oedd ganddo a rhoi'r arian i'r apostolion." (Actau 4:32-37)

Mae'r hanesyn uchod yn seiliedig ar y ffaith fod pawb o'r gymuned wedi penderfynu cyfranogi i'r fenter, heb i bawb gyfranogi ni fuasai'r peth yn bosib. Nes ymlaen yn llyfr yr Actau mae son am griw wnaeth dorri cwys a pheidio cyfrannogi'n deg:

"Roedd dyn arall o'r enw Ananias, a'i wraig Saffeira, wedi gwerthu peth o'u heiddo. Ond dyma Ananias yn cadw peth o’r arian iddo’i hun a mynd â’r gweddill i’r apostolion gan honni mai dyna’r cwbl oedd wedi ei gael. Roedd e a'i wraig wedi cytuno mai dyna fydden nhw’n ei wneud. ?Pan ddaeth at yr apostolion dyma Pedr yn dweud wrtho, "Ananias, pam rwyt ti wedi gadael i Satan gael gafael ynot ti? Rwyt ti wedi dweud celwydd wrth yr Ysbryd Glân trwy gadw peth o'r arian gest ti am y tir i ti dy hun! Ti oedd biau’r tir, ac roedd gen ti hawl i wneud beth fynnet ti â'r arian. Beth wnaeth i ti feddwl gwneud y fath beth? Dim wrthon ni rwyt ti wedi dweud celwydd, ond wrth Dduw!"" (Actau 5:1-4)


Felly lle i droi? 'Centre left' dwi wedi bod yn galw fy hun ers rhyw dair mlynedd bellach ond os nad yw'r gredo uchod dwi wedi dweud mod i'n cytuno gyda hi yn centre-left yna beth yn union yw centre left?! :?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Credo posib i glymblaid enfys?

Postiogan krustysnaks » Mer 16 Mai 2007 6:05 pm

Chwadan a ddywedodd:Os dwi'n cofio'n iawn, mae E.H.H.Green yn Ideologies of Conservatism yn portreadu Ceidwadaeth Brydeinig mewn modd tebyg hefyd.

Fues i'n darllen hwn wythnos dwetha a ti'n cofio'n iawn.

Doeddwn i ddim yn gweld cymaint â hynny'n wahanol yn maniffestoau'r pleidiau yn ystod yr etholiad (heblaw am eu freebies) a roedd hyd yn oed llai rhwng y pleidiau yn eu hatebion ar Wales Decides a Pawb a'i Farn. Oes angen cael "credo" o'r fath i'w ddilyn? Dyw'r mwyafrif o bleidiau ddim yn cadw at y "credo" sydd yn eu cyfansoddiad. Os bydd llywodraeth enfys, un bragmataidd iawn bydd hi, fasen i'n dweud.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 16 Mai 2007 6:48 pm

Clebryn a ddywedodd:Ac faint o bleidleisiau sydd iw hennill yn y cymoedd tabeth?

Fel y profodd canlyniadau mis mai roedd y cymoedd yn fangre etholiadol siomedig i Blaid Cymru.


Mae Plaid Cymru wedi gwneud yn dda iawn yn draddodiadol yn y Fro Gymraeg, ac wedi gwneud yn dda yn achlysurol yn 'Welsh Wales'. Nid yw'r blaid erioed wedi gwneud yn dda yn 'British Wales' - h.y. yr ardaloedd yn y Dwyrain sydd yn draddodiadol wedi pleidleisio dros y Ceidwadwyr.

Os yw Plaid Cymru am fod y blaid fwyaf yn y Cynulliad wedi 2011, bydd angen iddi ennill 2 sedd Sir Benfro + Gorllewin Clwyd, Castell Nedd, Gorllewin Abertawe, a nifer fawr o seddi yn y Cymoedd.

Mae canran enfawr o bobl Cymru yn byw yn y cymoedd, ac mae'r ardal yn holl bwysig i ddyfodol Cymru ac i Blaid Cymru.

Dyw hyn ddim yn golygu fod angen i Blaid Cymru fynd fwy, fwy i'r chwith o reidrwydd. Mae gan bobl y cymoedd ymwybyddiaeth mawr o Gymreictod, a dylid hyrwyddo'r elfen hyn a dangos mae Pleidiau Seisnig/Prydeinig yw'r pleidiau eraill.

Ond mae un peth yn sicr, pe byddai Plaid Cymru yn mynd i glymblaid ffurfiol gyda'r Toriaid, byddai dim gobaith ganddi yn y cymoedd am oleiaf cenhedlaeth. Efallai byddai modd cael dêl mwy llac, gyda'r Blaid, Trish Law a'r rhyddfrydwyr yn llywodraethu, gyda chefnogaeth y Ceidwadwyr o du allan y cabinet - ond dwi ddim yn siwr... :?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Lals » Mer 16 Mai 2007 7:09 pm

Llafurwyr yw pobol y Cymoedd nid sosialwyr.
"ti'n gwybod be i neud pan dwisio mwytha"
Lals
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 237
Ymunwyd: Mer 08 Maw 2006 9:27 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 16 Mai 2007 8:33 pm

Pwynt diddorol byddai Trish Law yn hyn o beth - pe byddai hi'n rhoi ei chefnogaeth i glymblaid enfys yna, posib iawn, y gallai hynny roi mwy o hygrededd iddi yn y Cymoedd (fy marn i yw hyn).

Ond, gan ddweud hynny, yn bersonol mae gen i gasineb diddiwedd at Llafur a'r Toriaid. Dw i byth isio gweld y Toriaid mewn grym yng Nghymru, a byddwn i byth am i Blaid Cymru roi hynny iddi - ond eto mae Llafur yn mwy na haeddu pydru am y pedair blynedd nesaf, a byddai'n troi fy stumog yn ein gweld ni'n clymbleidio gyda phlaid mor wrth-Gymraeg a Llafur.

Ond, dw i'n meddwl mai'r unig ffordd realistig o gael Senedd yw i Blaid Cymru a Llafur taro bargen. Pe byddai llywodraeth enfys prin y byddai Llafur yn cefnogi unrhyw fesur pellach ar ddatganoli, ac mae angen ei chefnogaeth er mwyn gwneud hynny.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 16 Mai 2007 11:57 pm

Lals a ddywedodd:Llafurwyr yw pobol y Cymoedd nid sosialwyr.


Clywch clywch. Mae ymchwil gan Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru wedi profi hyn. Nid pleidlais sosialaidd sydd yn y cymoedd ond pleidlais am y status quo.

Fe ymddengys nad oes yna lawer o gefnogwyr i fy safbwynt bellach - os felly pa fath o sosialwyr ydych chi?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Credo posib i glymblaid enfys?

Postiogan Huw T » Iau 17 Mai 2007 1:42 am

Chwadan a ddywedodd:
Rhys Llwyd a ddywedodd:Dyfyniad yw hwn gan R. Tudur Jones o ddechrau'r 80au, dwi'n meddwl ei fod yn coleddu'r gorau o wleidyddiaeth canol chwith a chanol dde i fod yn gredo a sail posib i glymblaid enfys.

"I mi mae'r hen bwyslais ar gydweithrediad, ar gryfhau cyfrifoldeb bro ac ardal, ar geisio creu cymdeithas aml ganolog, gyda'r Wladwriaeth yn cymryd ei lle fel ffurf gymdeithasol ymhlith llawer o ffurfiau cymdeithasol eraill, a'r cwbwl trwy ei gilydd a chyda'i gilydd yn galluogi pobl i fyw'n rhydd a ffyniannus – i mi, mae'r athrawiaeth hon yn dal yn berthnasol. "

A fydde chi'n cytuno gyda'r fath gredo?

Mae neo-ryddfrydwyr yn arddel credo tebyg - heb son am One-Nation Tories, fel mae Clebryn wedi dweud. Os dwi'n cofio'n iawn, mae E.H.H.Green yn Ideologies of Conservatism yn portreadu Ceidwadaeth Brydeinig mewn modd tebyg hefyd. Be wyt ti'n weld yn chwithig(!) am y dyfyniad?


Rhys, ti ddim yn ateb y cwestiwn. Nid holi am dy argyhoeddiade di ar Sosialaeth oedd Chwadan (fi'n cymryd) ond holi beth yw cysylltiad dyfyniad R Tudur Jones a'r chwith ganol? Fel eraill fi'n credu, mae'r dyfyniad, yn enwedig y darn am "fyw'n rhydd a ffyniannus" yn swnio free market capitalaidd iawn i fi. Fine if that's what you want yn dyfe, ond cyn i ti awgrymu'r uchod fel mesur ennill pleidleisau i PC, byddwn i'n awgrymu i ti edrych ar gyfraniad free market capitalism i gymoedd De Cymru yn yr 80au! Dwi ddim yn ymosod ar y gosodiad yn ei hunan Rhys. Yn hytrach ar dy ddewis di i'w label i fel centre left. Neu oes yna ddehongliad gwahanol?
(ON Rhys, nes ti ffonio fi dydd Sadwrn?)

Ar nodyn fwy cyffredinol, allai ddim mewn gwirionedd hyd yn oed amgyffred fod Plaid yn ystyried clymblaid sy'n cynnwys y blaid Geidwadol. Yw cofau'r Cymry cenedlaethafol wirioneddol mor fyr a hynny, neu ai eu hawch am bwer gwleidyddol sy'n eu gyrru?

A chyn i hyd yn oed fwy o bobl ddilorni'r Blaid Lafur, cofier taw dyma'r Blaid, er gwaethaf ei gwendidau, a roddodd ddatganoli i Gymru.
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Re: Credo posib i glymblaid enfys?

Postiogan Nanog » Iau 17 Mai 2007 6:41 am

Huw T a ddywedodd:
A chyn i hyd yn oed fwy o bobl ddilorni'r Blaid Lafur, cofier taw dyma'r Blaid, er gwaethaf ei gwendidau, a roddodd ddatganoli i Gymru.


A finne yn meddwl taw'r bobl wnaeth mewn refferendwm. Dysgu rhywbeth bob dydd. Gyda llaw, y Blaid Lafur sydd yn bennaf gyfrifol am fynd a ni i ryfel lle mae degau o filoedd wedi/yn marw. Er mor drist oedd cau'r holl byllau glo ar frys heb ddim i gymeryd eu lle, does dim cymhariaeth rhwng y ddau beth. Mae gwaed ar ddwylo'r Blaid Lafur a pan roedd ganddynt gyfle i olchi'r gwaed drwy gefnogi'r ymchwiliad i mewn i'r rhyfel, gwrthod wnaethant.
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron