Credo posib i glymblaid enfys?

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

A fydde chi'n derbyn y credo isod fel sail/gweledigaeth i glymblaid enfys?

Byddwn
17
50%
Na Fyddwn
17
50%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 34

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Iau 17 Mai 2007 1:02 pm

Cymro13 a ddywedodd:Jyst i gael y pwynt yma allan o'r ffordd
Glanhau mes Llafur Sosialaidd wnaeth y Toriaid yn yr Wythdegau - Os na fyddai Llafur di gor wario gymaint a'r Lo a Haearn o 1945-1979 nes fod y wlad bron yn bancrupt byddai dim rhaid i'r Toriaid fod mor galed ar Gymru


Gan fod dirywiad y diwydiant glo yn broses a ddechreuodd o gwmpas y rhyfel byd cyntaf (e.e. pan aeth y llynges drosodd i nwy, ac felly dinistrio marchnad cartref mwyaf sefydlog y diwydiant) ac wedi esblygu o dan (ac weithiau er) llywodraethau gwahanol dros y degawdau, tydi pwyntiau at y naill blaid na'r llall fel y grwp ar fai ddim yn gwneud llawer o synnwyr.

Mae safbwynt R. Tudur yn cynnwys elfennau sy'n debyg iawn i "Communitarianism" yr UDA - mi faswn i'n dweud mai safiad Ryddfrydol, tipyn bach i'r dde, ydi o, nid sosialaeth.

Oes raid i Gymreictod fod yn Sosialaidd?
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Postiogan jac » Iau 17 Mai 2007 2:13 pm

Gorwel Roberts a ddywedodd:Faint bynnag neith y Ceidwadwyr newid neu honni eu bod nhw wedi newid, eu greddf naturiol yw torri trethi a gwariant cyhoeddus, beth bynnag yw delwedd gyhoeddus Cameron a'i debyg. Eniwe dwi ddim yn meddwl bod pobl Cymru wedi pleidleisio dros glymblaid o'r fath. Byddai'n drychinebus i Blaid Cymru dwi'n meddwl. Yn gam neu'n gymwys, fel y blaid fwyaf o bell ffordd, bydd yn rhaid i Lafur fod yn rhan o lywodraeth nesaf y Cynulliad sut bynnag mae'n cael ei ffurfio.


Mae'n digon posib dy fod yn iawn am reddf naturiol y Toriaid - ond dydy hyn ddim yn berthnasol yng nghyd-destun y Cynulliad. Gan nad oes modd newid y swm o arian sydd ar gael i'r Cynulliad ei wario does yna ddim cyfle i'r Toriaid gweithredu ar sail y reddf yma. A dwi'n sicr fod y Toriaid wedi newid i'r graddau na fyddant yn dychwelyd arian i'r Trysorlys - megis Redwood! Realti sefyllfa'r Cynulliad yw mae hanfod ei swyddogaeth yw penderfynnu ar y blaenoriaethau a dos-rannu'r Gyllideb yn unol a'r blaenoriathau, ac hefyd rheoli gwariant yn effeithiol. Dwi'n ffyddiog y gall clymblaid enfys gwneud tipyn yn well na Llafur yn hyn o beth.

Dwi'n anghytuno bod yna unrhyw reidrwydd moesol i Lafur fod yn rhan o'r llywodraeth nesaf. Maent ond yn cynrychioli 32% o'r bleidlais, a dim ond 47% ynghlwm a'r Rh Cym. Mae'r glymblaid enfys yn cynrychioli 60% o bleidleiswyr Cymru - sef y mwyafrif. Mae yna llawn cymaint o mandad gyda'r glymblaid yma ag unrhyw un arall.

Yn y pen draw yr unig beth sy'n cyfri yw pa ffurf o lywodraeth all gwneud y daioni mwyaf i Gymru yn ystod y 4 mlynedd nesaf. Does gen i ddim diddordeb yn y darlun strategol. Mae'n digon posib mae Plaid Cymru fydd yn colli fwyaf allan o'r berthynas, a'r Toriaid yn elwa fwyaf. Dyna'r peryg - ond dylid canolbwyntio yn hytrach ar y cyfle - a'r cyfrifoldeb o manteisio ar y cyfle i arwain y genedl.
Rhithffurf defnyddiwr
jac
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 171
Ymunwyd: Iau 14 Hyd 2004 2:29 pm

Postiogan Gorwel Roberts » Iau 17 Mai 2007 2:27 pm

Ia, mae dy bwyntiau'n rhai teg ond a ydi etholwyr Cymru rili wedi pleidleisio dros Ieuan Wyn Jones yn Brif Weinidog a Bourne a German yn weinidogion yn ei gabinet?
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan jac » Iau 17 Mai 2007 4:05 pm

Na, ti'n iawn. Ond mae'r un peth yn wir am Rhodri Morgan - gyda llai na traean o'r bleidlais.

Yr unig beth o bwys yn y pen draw yw cael llywodraeth sefydlog all greu dyfodol mwy ffyniannus i Gymru. Dydw i ddim yn gweld Llafur yn y rol yma. Yn eironig, dwi'n credu y byddai cael Llafur yn wrthblaid yn dda i'r blaid Lafur yn ogystal a Chymru yn y tymor hir. Fel wrthblaid byddai yna gyfnod o pwyso a mesur y ffordd ymlaen, a dwi'n gweld y 'cenedlaetholwyr' mwy blaengar fel Carwyn Jones yn ennill dylanwad ar draul y deinosoriaid llwythol megis Irene James a Huw Lewis - oherwydd does gan y rhain ddim gweledigaeth positif, ffyniannus i Gymru.
Rhithffurf defnyddiwr
jac
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 171
Ymunwyd: Iau 14 Hyd 2004 2:29 pm

Postiogan dewi_o » Iau 17 Mai 2007 9:00 pm

Fedra'i ddim credu bod Plaid Cymru o ddifri am ffurfiuo clymblaid gyda'r Toriaid. Cofiwch enw llawn y Ceidwadwyr yw "The Conservative and Unionist Party". Ydy pobl yn cofio'r tro diwethaf roedd y Toriaid yn rheoli dros Gymru, ydych chi'n cofio y Toriaid yn gwrthwynebu datganoli. Mae yna lawer o bobl yng Nghymru'n cofio ac nid yn unig yn y Cymoedd ond ar draws Cymru gyfan.
Rhithffurf defnyddiwr
dewi_o
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 213
Ymunwyd: Sul 13 Mai 2007 9:52 am
Lleoliad: Caerffili

Postiogan Griff-Waunfach » Iau 17 Mai 2007 9:24 pm

Cymro13 a ddywedodd:Jyst i gael y pwynt yma allan o'r ffordd
Glanhau mes Llafur Sosialaidd wnaeth y Toriaid yn yr Wythdegau - Os na fyddai Llafur di gor wario gymaint a'r Lo a Haearn o 1945-1979 nes fod y wlad bron yn bancrupt byddai dim rhaid i'r Toriaid fod mor galed ar Gymru



Ti'n siarad fel bod llafur wedi llywodraethu non stop o 1945 i 1979. :?
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Cwlcymro » Iau 17 Mai 2007 9:29 pm

Ma'r Lib Dems newydd bledleisio i sdopio trafodaethau a Llafur ac ond i siarad a Plaid a'r Toriaid
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Clebryn » Iau 17 Mai 2007 10:05 pm

un o ddau opsiwn yw hi felly

Llywodraeth Lafur leiafrifol, yn cael ei gynnal gan bleidleisiau hyder Plaid Cymru ar yr addewid o bwerau cyffelyb i Senedd yr Alban

neu

Clymblaid Enfys rhwng y dair gwrthblaid

Mae sicrhau clymblalid serch hynny yn ddibynnol ar gyngor cenedlaethol PC yn gwneud tro pedol ac yn diddymu eu gwrthwynebiad cyfansoddiadol i glymbleidio gyda'r blaid geidwadol.

Pa mor debygol yw hi o sicrhau newid polisi yn ei chyfarfod yn Aberystwyth wythnos nesaf?

Ac hyd yma roedd llawer son o glymbleidio, ond y byddai'r toriaid ond yn cefnogi'r glymblaid oddi tu allan. Mae Nick Bourne yn mynnu erbyn heddiw dim llai na phresenoldeb ffurfiol ar ffurf Gweindiogion yn y Cabinet. Sut mae disgwyl i Leanne Woods a Bethan Jenkins y byd yn PC i gyfaddawdu ar hyn?

Amseroedd cyffrous i'r anoraks yn ein plith!
Am Gymrawd, Ew am Gymro
Clebryn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 498
Ymunwyd: Gwe 13 Mai 2005 5:42 pm

Postiogan jac » Gwe 18 Mai 2007 8:24 am

Mae'n naturiol fod y Toriaid eisiau llefydd yn y cabinet. Ond o ran dylanwad ar bolisiau unrhyw glymblaid byddai ganddynt law bargeinio cryfach o fod y tu allan i'r cabinet.

Petai Plaid Cymru yn fodlon derbyn Toriaid i'r cabinet tybed pa portffolio (beth yw lluosog portffolio?) y gellir cynnig i'r Toriaid? Byddai Amaethyddiaeth a Trafnidiaeth ddim yn broblem, na'r Dirpwy Arweinyddiaeth. Ond fase hyn ddim yn ddigonol - yn enwedig o ystyried y byddai angen diwallu gofynion y Rh Cym hefyd. Dwi'n siwr na fyddai PC yn fodlon o gwbl cynnig Iechyd, Addysg, Diwylliant na Nawdd Cymdeithasol i'r Toriaid. Efallai y gellir cynnig Addysg i'r Rh Cym - yn enwedig o ystyried ei pwyslais ar leihau maint dosbarthiadau i 25.
Rhithffurf defnyddiwr
jac
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 171
Ymunwyd: Iau 14 Hyd 2004 2:29 pm

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 18 Mai 2007 8:27 am

Beth fydd yn ddiddorol yw a fydd y Democratiaid Rhyddfrydol o hyd yn mynnu PR mewn etholiadau cyngor.

Fe fyddai hynny wirioneddol yn gallu llacio gafael Llafur ar lywodraeth leol, ac agor drysau bendant i'r pleidiau eraill.

Ond ni fydd refferenwm ar Senedd rwan: bydd Llafur yn gwneud popeth i rwystro'r glymblaid, ac os mae angen 40 i gefnogi refferendwm mi gewch chi roi bet rwan na fydd y glymblaid yn llwyddo i gael yr aelodau Llafur i fynd gyda hwy amdani.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron