Credo posib i glymblaid enfys?

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

A fydde chi'n derbyn y credo isod fel sail/gweledigaeth i glymblaid enfys?

Byddwn
17
50%
Na Fyddwn
17
50%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 34

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 22 Mai 2007 1:07 pm

Roedd y Pwyllgor Gwaith yn erbyn clymblaid.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Mr Gasyth » Maw 22 Mai 2007 1:15 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Roedd y Pwyllgor Gwaith yn erbyn clymblaid.


Pryd oedd hyn? Yn erbyn clymblaid efo unrhywun neu jest efo'r Toris cyrniog? Dwi'n synny'n fawr os ydi'r trafodaethau yn mynd yn eu blaenau gyda'r Pwyllgor Gwaith (a/neu'r grwp yn y Cynulliad) yn wrthwynebus.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Cymro13 » Maw 22 Mai 2007 1:16 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Roedd y Pwyllgor Gwaith yn erbyn clymblaid.


Ydi hyn wedi ei benderfynnu'n swyddogol ?
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan Cwlcymro » Maw 22 Mai 2007 1:20 pm

Tro cyntaf i fi glwyad hyn. Wti ar y Pwyllgor gwaith? Ta ydi hyn wedi ei reportio yn rwla?

Yn sicr ma'r dewis yn mynd o flaen y grwp Cynulliad pnawn nma, a'r Cyngor Cenedlaethol dydd Sadwrn. Anodd gweld sud ma hunna'n galluogi IWJ i fynd "uwchlaw" ei aelodau a'r Cyngor.

Plis deud mwy am y bleidlais Pwyllgor gwaith ma ddo, dio'm yn edrych fel bod unrhywun arall yn ymwybodol o hyn.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cwlcymro » Maw 22 Mai 2007 1:36 pm

Llafur wedi troi fyny funud olaf efo cynnig 28 tudalen i'r Blaid.

Deadline averted

Plaid wedi gohirio ei cyfarfod aelodau tan hwyrach y pnawn er mwyn darllen y cynnig.

http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/6678101.stm
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cardi Bach » Maw 22 Mai 2007 1:43 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Roedd y Pwyllgor Gwaith yn erbyn clymblaid.


Alla i weud a chryn awdurdod nad yw hyn yn wir. Doth y PG ddim i benderfyniad - mond mynegu barn.

Dyw e ddim yn deg dweud fod IWJ yn mynd dros ben grwp y Cynulliad, y PG a'r Cyngor Cendelaethol. mae e wedi cael sel bendith y PG a'r Grwp i gynnal trafodaethau, a dyna mae'n ei wneud.

hmmm...ai atgasedd at IWJ yn unig yw hyn :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Cymro13 » Maw 22 Mai 2007 1:44 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Cwlcymro a ddywedodd:Fel ma lot wedi ddweud, ma IWJ wedi (hyd yn hyn) gwneud joban wych o'r trafod. Ar y funud mi ellith o, ag fo yn unig, ddweud fod o wedi codi uwchben ffraeo personnol a pleidiol i drio cael y del gorau i Gymru.

Ac fel ma hi wedi gweithio allan mae o wedi ffendio ei ffordd i fod y perso efo'r holl rym yn y delio. Dwi dal i ddweud ddo fod hi wedi bod yn sure bet es dydd Gwener ma yr enfys fydd Plaid a'r Libs yn ei gynnig i'w Cynghorion Cenedlaethol. Ma Rhodri wedi gwneud mes llwyr o betha drwy roi pob wy yn masged y Libs a anwybyddu Plaid tan ei bod hi lot rhy hwyr.


Bolycs. Mae e'n mynd uwchlaw ei gyd-aelodau, y Pwyllgor Gwaith, y Cyngor Cenedlaethol a'r aelodau cyffredin er mwyn cael y gorau iddo fe'i hun, h.y. bod yn Brif Weinidog.


Dyna yw ei swydd sef ARWAIN ei blaid - Oes rhaid iddo fe gael caniatad gan bawb cyn gwneud bob dim

Yn yr achos yma mi fydd yr Aelodau yn cael penderfynu i fynd mewn i lywodraeth neu na

Ma pobl yn cwyno achos fod IWJ yn rhy wan a nawr bo fe'n dechrau ymddwyn fel arweinydd plaid ma pobl o hyd yn cwyno
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan Cwlcymro » Maw 22 Mai 2007 2:06 pm

Am y busnas Pwyllgor Gwaith na, yr unig beth allai feddwl am ydi ei penderfyniad nhw oes yn ol i beidio rhannu pwer a'r Toriaid.

Os na hwnnw wti'n son am, mae'r Pwyllgor Gwaith yn cyfarfod Dydd Iau, lle, os na enfys ydy dewis aelodau'r Cynulliad, ma disgwyl iddy nhw gael gwared o'r rheol yno.

Felly os ydy cytundeb yr Enfys yn cael ei gytuno gan y grwp Cynulliad, y Pwyllgor gwaith a'r Cyngor Cenedlaethol - pwy ma IWJ yn mynd uwchben?
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cwlcymro » Maw 22 Mai 2007 2:11 pm

Ma blogs Vaughan a Betsan yn dweud fod Trish law wedi dweud heddiw ei bod hi'n cefnogi'r enfys dros Lafur, dwi heb weld hyn wedi ei reportio yn nulla ddo, sa unrhywun yn gwybod wbath am y peth?
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 22 Mai 2007 2:12 pm

Cardi Bach a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Roedd y Pwyllgor Gwaith yn erbyn clymblaid.


Alla i weud a chryn awdurdod nad yw hyn yn wir. Doth y PG ddim i benderfyniad - mond mynegu barn.


Nes i ddim dweud bod unrhyw gam ffurfiol wedi'i gymryd, ond yr argraff ges i bod y Pwyllgor Gwaith yn erbyn y peth felly na fyddai'n mynd ymlaen. Dyna pam ei bod yn edrych i fi fel bod IWJ yn mynd yn erbyn dymuniadau ffigurau amlwg yn y Blaid.

Cardi Bach a ddywedodd:hmmm...ai atgasedd at IWJ yn unig yw hyn :winc:


Sai'n hoff ohono fe fel person nac fel gwleidydd. Fi'n credu bod hynna'n eitha' clir ac fy mod i wedi datgan hynny o'r blaen. Mae'n arwain y Blaid ar gyfeiliorn i blaid wleidyddol sy'n gwbl wrthun. Barn bersonol, wrth gwrs.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai

cron