Mr Gasyth a ddywedodd:Tydw i ddim yn gweld felly sut mae posib cyhuddo Ieuan Wyn yn bersonnol o ymddwyn fel rhwy fath o 'loose cannon' - yn wahanol i arweinwyr Llafur a'r Ceidwadwyr mae'n gwybod na all gytuno i unrhwybeth sy'n wrthun i aelodaeth y Blaid.
Dau bwynt fan hyn;
Yn gyntaf, dwi'n cytuno nad yw IWJ yn gweithredu fel petai uchelgais bersonnol yn bwysicach na dim iddo - am y tro cyntaf ers dod yn arweinydd Plaid y mae'r boi yn edrych fel gwleidydd. Un ail reng efallai ond gwleidydd serch hynny. O ystyried fy marn am allu IWJ fel arweinydd mae hyn yn ganmoliaeth rhyfeddol
Yn ail, dwi'n credu fod dy ergyd tuag at y Ceidwadwyr yn sicr yn anheg yn achos Cymru. Yn y gynhadledd yng Nghaerdydd cyn etholiadau'r Cynulliad Llafur oedd yr unig blaid oedd y tu hwnt i afael Nick Bourne o ran cyd-weithio. Mae barn yr aelodau yn weddol gyson - os am lais Ceidwadol o fewn llywodraeth yma yng Nghymru y mae'n RHAID cyd-weithio. Tydi safbwynt y grŵp Ceidwadol yn y Bae yn gwneud fawr mwy na adlewyrchu y sefyllfa ar lawr gwlad ac ymhlith yr aelodau.
Mr Gasyth a ddywedodd:Mae'n rhaid wrth bwer i newid pethau, nid pwer er mwyn pwer yw nod neb o fewn y Blaid, ond pwer er mwyn gwireddu eu agenda. Hawdd iawn bod yn bur, ond all gwrthbleidiau newid dim.
Spoken like a tory Mr Gasyth. Unwaith yn rhagor ti'n llygad dy le. Er fod pleidlais y Ceidwadwyr yn hollol gyfartal a Plaid (wel ychydig yn uwch o ystyried y bleidlais rhanbarthol) Plaid yw ail blaid y Cynulliad felly gan y Blaid mae'r cyfle i arwain llywodraeth yr Enfys. Beth fydd hyn yn olygu? Gweithredu 50/60% o agenda Plaid? Bydd, fe fydd yna syniadau o du'r Ciedwadwyr yn rhan o'r cytundeb ac yn naturiol fe fydd yna gyfaddawdu ond mae yna gymaint yn gyffredin o ran blaenoriaethau gwario y dair Plaid (a chorff dosbarthu arian yw'r Cynulliad i raddau helaeth) yna hurt fyddai colli'r cyfle.
Ar nodyn personnol - dwi'n credu y byddai clymblaid yn dysteb i aeddfedrwydd fy mhenderfyniad i flaenaru'r tir yn 2001 ac ymuno gyda'r Ceidwadwyr
Ar y llaw arall, os caiff Plaid eu hudo gan Lafur yna dwi hefyd yn fodlon gan y bydd etholiad Aberconwy 2009 gymaint a hynny'n haws.
Ta waeth, dyddiau da - dyddiau difyr