Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Fel llywodraeth? Y Blaid Lafur yn ffurfio llywodraeth leiafrifol, gan gytuno i roi rhai mesurau i Blaid Cymru (refferendwm ar bwerau pellach, addewid i ailgyfrifo Fformiwla Barnett - er bod hynny'n annhebygol o ystyried y sefyllfa wleidyddol ar ochr draw'r ffin) yn gyfnewid am gefnogaeth ar faterion penodol. Neu fel arall, bod y Blaid yn penderfynu o achos i achos ar ba ffordd y bydd ei haelodau'n pleidleisio. Ond nid clymblaid â'r Ceidwadwyr ar unrhyw gyfri.
ar unrhyw gyfri o gwbl yn y byd?
cawn weld pnawn 'ma beth sydd yn y ddogfen 28 tudalen 'ma mae Llafur wedi'i gynnig i Plaid. Ond cyn hynny mae'n debyg nad oedden nhw'n ildio unrhyw beth. Mae Llafur, o be dw i'n ddeall - o'r ychydig sion sy'n ein cyrraedd ni'r trueiniaid cyffredin - wedi byhafio'n ddirmygus iawn trwy gydol y trafodaethau honedig yma. Dydyn nhw wir ddim yn sylweddoli bod eu grym unbeniaethol o dan fygythiad. Ond ta waeth am hynny: onid be sy'n bwysig ydi faint o bolisiau Plaid y mae modd eu gweithredu?
dw i'n gwybod yn iawn mai skin deep ydi Cymreictod y Toriaid Cymraeg. Ond y croen yna fyddai yn y llywodraeth. Mae Llafur llawn mor Thatcheraidd â'r Ceidwadwyr be bynnag.
dw i yn cydymdeimlo â'r pryder am golli'r cymoedd yn sgil cydweithio â'r Toriaid. Ond Llafurwyr ydi'r cymoedd, nid sosialwyr. Dydi Plaid heb gael unrhyw lwc o bwys yno cyn hyn, a dw i wir ddim yn gweld hynny'n newid petaent yn parhau fel gwrthwynebwyr.