Rhywyn wedi darllen blog Vaughan heddiw? Mae posibiliad y bydd cynhadledd y Rhyddfrydwyr Dydd Sadwrn yn gwrthod cydweithio ag unrhyw un a'n mynnu fod y Rhyddfrydwyr yn aros yn wrth-blaid am y 4 mlynedd nesaf.
Os bydd hyn yn digwydd, mae'n debygol y bydd Llafur yn enwebu Rhodri Morgan fel Prif Weinidog, a'r Blaid yn enwebu IWJ dydd Mercher nesaf. Os bydd y Ceidwadwyr yn cytuno cefnogi IWJ bydd yn golygu:
Rhodri Morgan = 26 (Llafur)
IWJ = 27 (15 Plaid + 12 Ceidwadwyr)
Os bydd y Rhyddfrydwyr yn ymatal felly, mae i gyd yn dibynnu ar bleidlais Trish Law. Yn yr adran sylwadau, mae Vaughan yn honni fod Trish wedi awgrymu y byddai hi'n cefnogi IWJ mewn pleidlais o'r fath - felly mae posibilrwydd gweld Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr yn Llywodraethu mewn Llywodraeth leiafrifol