Credo posib i glymblaid enfys?

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

A fydde chi'n derbyn y credo isod fel sail/gweledigaeth i glymblaid enfys?

Byddwn
17
50%
Na Fyddwn
17
50%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 34

Postiogan Cymro13 » Iau 02 Awst 2007 8:14 am

SbecsPeledrX a ddywedodd:Ella bo'r diwydiant cyfa. Er dwi'm yn siwr os di o'n neud mwy o colled na jest talu dol i'r glowyr i gyd am neud byggar all.

Ond y pwynt ydi doedd Cortonwood, y glofa y gwnaeth Thatcher penderfyniad gwleidyddol i'w cau, y glofa a arweiniodd at y streic, ddim yn gneud colled.

Dyna holl pwynt y streic. Os oedd Thatcher yn cael cau pwll oedd yn gneud elw, doedd dim un swydd yn y diwydiant yn saff.

Paid Llyncu propaganda du'r Toriaid.


A phaid llyncu propaganga sosialaidd chwaith

Mae'n ffaith mi oedd y diweydiant glo yn gwneud colled - Mi oedd y wlad wedi gor-fuddsoddi mewn glo a haearn ac yn or ddibynnol arno lle roedd ynnu olew yn cael ei ddefnyddio llawer mwy

(os chi'n meddwl amdano fe mae e fel cael miloedd o weithwyr yn gweithio yn y diwydiant LPs heddiw a gwneud colled a'r boblogaidd gyfan yn defnyddio MP3 )
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan Nanog » Iau 02 Awst 2007 8:55 am

Cymro13 a ddywedodd:A phaid llyncu propaganga sosialaidd chwaith

Mae'n ffaith mi oedd y diweydiant glo yn gwneud colled - Mi oedd y wlad wedi gor-fuddsoddi mewn glo a haearn ac yn or ddibynnol arno lle roedd ynnu olew yn cael ei ddefnyddio llawer mwy

(os chi'n meddwl amdano fe mae e fel cael miloedd o weithwyr yn gweithio yn y diwydiant LPs heddiw a gwneud colled a'r boblogaidd gyfan yn defnyddio MP3 )


Mi wnaeth Prydain dal i ddefnyddio glo ar ol cau'r pyllau. Roedd y cyflenwad yn dod o wledydd arall.....o leia un ohonynt yn defnyddio plant fel Llafur. OK os yw'r ddadl fod y pyllau glo yn colli arian yn gywir......er hynny, na ddylid wedi eu cau yn raddol yn lle'r cau dros nos a'r holl broblemau wnaeth hynny adael yn ei sgil.

Gyda llaw, mae son nawr am ail agor rhai byllau glo yng Nghymru. Mi fydd un yn agor 2008.....ond glowyr o wlad Pwyl fydd yn cloddio 'na.
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Nôl

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron