Nanog a ddywedodd:Huw T a ddywedodd:
A chyn i hyd yn oed fwy o bobl ddilorni'r Blaid Lafur, cofier taw dyma'r Blaid, er gwaethaf ei gwendidau, a roddodd ddatganoli i Gymru.
A finne yn meddwl taw'r bobl wnaeth mewn refferendwm. Dysgu rhywbeth bob dydd. Gyda llaw, y Blaid Lafur sydd yn bennaf gyfrifol am fynd a ni i ryfel lle mae degau o filoedd wedi/yn marw. Er mor drist oedd cau'r holl byllau glo ar frys heb ddim i gymeryd eu lle, does dim cymhariaeth rhwng y ddau beth. Mae gwaed ar ddwylo'r Blaid Lafur a pan roedd ganddynt gyfle i olchi'r gwaed drwy gefnogi'r ymchwiliad i mewn i'r rhyfel, gwrthod wnaethant.
Rwyt ti'n hollol iawn Nanog, does dim cymhariaeth rhwng y ddau beth, felly pam wyt ti'n gwnued y gymhariaeth! Mae'r hyn sydd yn digwydd yn Iraq yn drasiedi, ond does gan y peth ddim i'w wneud a chymhariaethau rhwng y blaid Lafur a'r Ceidwadwyr. Os wyt ti am fynd lawr y ffordd yna, yna fe ellir dadlau i'r Toriaid gyfranu at sefydlu 'sanctions regime' yn Iraq yn y 90au a laddodd gannoedd o filoedd os nad miliynnau. Ond fel ddwedes i, dadl wan iawn yw ceisio cymharu un polisi domestig gyda pholisi tramor arall, yn enwedig ar lefel moral (sori, ddim yn cofio'r gair Cymraeg). Ac rwy ti'n gwbod yn iawn beth o ni'n meddwl pan ddwedes i mai Llafur a roddodd ddatganoli i Gymru. Ie, pobl Cymru bleidleisiodd amdano (jyst) ond penderfyniad y Blaid Lafur oedd cynnal y refferendwm.
Cardi - rwy dal yn teimlo fod na elfennau 'de-aidd' i'r dyfyniad, er o bosibl yn anfwriadol neu yn coincidental - yr awgrymiad o wladwriaeth wan fel rhan o nifer o ffurfiau cymdeithasol eraill. Mewn gwirionedd, mae interpretation fel yma yn cefnogi gosodiad Rhys y gallai'r dyfyniad ffurfio sail ar gyfer clymblaid amryliw, ond yn fy marn i, clymblaid ganol dde nid canol chwith fyddai honno - mae hynny yn anochel mewn unhryw glymblaid sy'n cynnwys y toriaid, onid yw hi?
Fi'n credu mod i'n anghytuno'n ffwndamentalaidd gyda dy awgrymiad am wahniaethu rhwng buddiannau Cymru a Lloegr (sori Cardi
). Yn dilyn o Marx, byddwn i'n dadlau fod patrymau economi Cymru bron yn debyg iawn i batrymau economi Lloegr a'r Alban - ardaloedd amaethyddol ee Gwynedd, Cumbria a'r Highlands; ardaloedd diwydiannol - y cymoedd, y Midlands a Glasgow; a chanolfannau llywodraeth/ariannol - Caerdydd, Caeredin a Llundain. Os wyt ti'n siarad yn economaidd, mae gan yr ardaloedd yma fwy yn gyffredin a'i counterparts ar draws Prydain nag a'r ardaloedd eraill o fewn Cymru, Lloegr a'r Alban. Fe alle ti ffeindio'r un trawsdoriade mewn pob gwlad yn Ewrop, felly dwi ddim yn prynnu'r ddadl fod economi Cymru yn cael ei rhedeg yn anaddas oherwydd rhyw 'overriding concern' gyda economi Lloegr, ond dadl arall hollol yw honno.
I ddychwelyd rhywfaint at y pwynt - fel ddwedes i yn fy mhost cyntaf, dwi'n methu dirnad ambition PC i ffurfio clymblaid gyda'r Toriaid. Oes neb yn cofio'r dathlu a fu yn 1997 pan gafon nhw ei taflu allan o Gymru? All rhywun esbonio'r agwedd yma, neu (fel rwy'n dechre meddwl) ysfa Faciafelaidd am bwer sy'n ei gyrru? Os taw e, digon teg, ond oleia dylai hynny gael ei gydnabod, gan y byddai hynny'n galluogi'r drafodaeth ai dyma'r ffordd orau i ddod i bwer.