Tudalen 5 o 15

PostioPostiwyd: Gwe 18 Mai 2007 8:56 am
gan ceribethlem
O'n i'n gwrando ar rhyw fenyw Lib Dem ar y radio bore 'ma, odd yn gweud bod nhw wedi stopio trafod gyda Llafur achos odd Llafur ddim ishe rhoi gormod o bolisiau Lib Dem mewn i bwer, felly odd y Lib Dems yn dechre trafod gyda Plaid/Tori. Nath hwn hala fi braidd yn grac, achos odd dim lot o bobl Cymru ishe polisie Lib Dem, achos odd dim lot wedi pleidleisio iddyn nhw. Bydde well gyda fi gweld Plaid a Llafur yn dod i rhyw fath o gytundeb (dim clymblaid) na bod y Blaid yn fodlon troi cefnau ar bopeth drwy uno a'r toried a'r Lib Dems.
Fi'n cytuno gyda beth wedodd Gwahanglwyf yn gynharach, mae'r toried yn wrthyn i bopeth ma'r Blaid yn credu ynddo fe, a nath y toris shit loads mwy o niwed dan Thatcher na ma Llafur weriod wedi neud.

PostioPostiwyd: Gwe 18 Mai 2007 9:24 am
gan Hogyn o Rachub
Gan ddweud hynny, yn wahanol i Lafur dydi'r Toriaid ddim yn wrthyn i Ddeddf Iaith Newydd na Senedd i Gymru, yn wahanol i'r Blaid Lafur.

Y gwir ydi yn y pen draw mae Llafur a'r Toriaid yr un mor wrthyn i'r Blaid a'i gilydd (mae nhw i mi yn bendant): dydi hyd yn oed y Toriaid ddim yn matshio sdrîc gwrth-Gymraeg ffiaidd Llafur. Ond byddwn i'n fodlon o leiaf cymryd y risg ar y Toriaid os am weld newid yng Nghymru - a chofier y bydd hynny ar delerau Plaid Cymru, nid telerau'r Toriaid.

Ac os mai'r unig gyfaddawd y mae'r DemRhydds isio ydi STV byddai hynny'n gret. Dw i'n fwyfwy gweld hynny yn ffordd bendant o dorri teyrnasiaeth Llafur o Gymru unwaith ac am byth, megis o'i gwreiddiau y mae Llafur yn ennyn ei grym yng Nghymru.

Ond gan ddweud hynny, os mae Plaid yn clymbleidio gyda'r Toriaid mae'n bosib y cant eu niweidio cymaint fel na fyddant yn gallu cryhau hyd yn oedd drwy STV.

PostioPostiwyd: Gwe 18 Mai 2007 3:02 pm
gan Rhods
O ganlyniad i benderfyniad y Rhyddfrydwyr i stopio siarad da Llafur am deal/clymblaid ma pethe di newid nawr yn y trafodaethau i ffurfio'r llywodraeth nesa.

Yr opisynau nawr?

Opsiwn 1 -Clymblaid Llafur/Plaid - anhebygol iawn iawn iawn.

Opsiwn 2-Deal Plaid/Llafur (hy deal rhwng y 2, ond llafur i lywodraethu fel llywodraeth lleiafrifol) - posib....er ddim mor debygol a wythnos yn ol - yn enwedig ar ol i AC llafur penderfynnu yn reit bendant, bo nhw ddim am neud deal da Plaid. (er wrth gwrs ma pethe di newid gyda'r Lib.Dems yn stopio siarad gyda Llafur)...hefyd, ma da chi ochr Plaid gyda Gareth Jones/Helen Mary ac Elin Jones yn seilio ei hymgyrch ar ticed gwrth-lafur (yn enwedig yng Ngheredigion ble odd un o prif arfau ymgyrch Plaid odd bod y Rhyddfrydwyr yn mynd i fynd mewn i lywodraeth gyda Llafur sydd ddim nawr yn mynd i ddigwydd wrth gwrs- )

Opsiwn 3- Clymblaid enfys - ma'r Ceidwadwyr o blaid, Dem.Rhydd nawr o blaid... dim ond Plaid sydd i'w fynd - pa gyfeiriad yr awn nhw?

Opsiwn 4 - etholiad arall!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!! :? :? :ofn: :drwg: :winc:

credo i Glymblaid

PostioPostiwyd: Gwe 18 Mai 2007 3:07 pm
gan aled g job
Mae yna un elfen strategol bwysig i'w hystyried os digwydd Clymblaid yr Enfys. Pe bai Llafur yn gorfod bod yn wrthblaid, go brin bod Rodders yn mynd i hongian o gwmpas fel arweinydd ac yntau'n 67 yn barod. Dwi'n rhagweld hynny'n arwain at chwalfa mewnol yn hanes Llafur wrth i'r garfan Gymreig a'r garfan brydeinig fynd ben-ben a'i gilydd, nid yn unig dros arweinyddiaeth y blaid ond hefyd dros gyfeiriad y Blaid i'r dyfodol. Bydd y cecru mewnol hyn ymhlith yr aelodau Llafur yn fanteisiol iawn i bleidiau'r glymblaid wrth baratoi ar gyfer etholiadau 2011 os galla nhw wneud job go lew ohoni dros y 4 blynedd nesaf.
O ran galw refferendwm, mae'n wir mai dim ond 33 pleidlais sydd gan y glymblaid, sydd yn 7 yn brin o'r 2/3 o'r aelodau sydd ei angen i alw am fesur fel hyn. Ond, mae'n ddigon posib rhagweld sefyllfa lle y byddai o leiaf 7 aelod Llafur yn penderfynu cefnogi'r syniad: un ai y byddent wedi eu gyrru i wneud hyn gan ogwydd "Prydeinig" pobl fel Leighton Andrews ac Andrew Davies, ac/neu bydd yr ymchwydd cyhoeddus o blaid bod yn gyfartal a'r Alban mor gryf fel nad oes fiw iddynt wrthwynebu'r syniad( yn enwedig o gofio cymaint o seddi ymylol iawn fydd gan Lafur i'w amddiffyn yn 2011). Yr unig gwestiwn ydi pryd y dylid cynnal refferendwm o'r fath? Mae Dafydd El wedi awgrymu ei gynnal yr un adeg a'r etholiadau lleol y flwyddyn nesaf, sef 2008, ac efallai'n wir bod yna achos cryf dros fwrw mlaen yn gynt yn hytrach nag hwyrach. Yn sicr bydd angen ei gynnal cyn refferendwm yr Alban yn 2010, neu fe allai hynny ddrysu'r etholwyr yn llwyr.

PostioPostiwyd: Gwe 18 Mai 2007 4:31 pm
gan ceribethlem
Rhods a ddywedodd: OOpsiwn 3- Clymblaid enfys - ma'r Ceidwadwyr o blaid, Dem.Rhydd nawr o blaid... dim ond Plaid sydd i'w fynd - pa gyfeiriad yr awn nhw?
Sai'n gweld hwn yn gweithio. Mae gormod o wahaniaethau rhwng y Blaid a'r Toried. Mae egwyddorion y ddau blaid yn wrthyn i'w gilydd.
Wrth edrych ar toriaid (Rhods a'r Gath Ddu :winc: ) ni'n gweld fod y toried yn casau'r Blaid cymaint, a'r Blaid (pawb arall :winc: ) yn casau'r toried cymaint na fydd y peth yn gweithio.

Ymdrech i gael Llafur mas o bwer bydde clymblaid enfys, wedyn bydde'r fath lefel o gwmpo mas bydd angen etholiad arall o fewn blwyddyn, bydd yr etholwyr yn credu odd pethe'n fwy sefydlog dan LLafur, a byddan nhw nol mewn grym.

Bydde well gyda fi gweld Llafur yn rheoli fel lleiafrif, a manteisio'n wleidyddol ar y trad moch pellach fydd yn digwydd.

PostioPostiwyd: Gwe 18 Mai 2007 9:01 pm
gan jac
Felly wyt ti isio gweld Cymru'n methu o dan Llafur, ceribethlem, yn hytrach na'r posiblrwydd o lwyddiant dan glymblaid enfys?

Ystyriwch am eiliad bod Plaid Cymru yn cefnogi llywodraeth leiafrifol Llafur am ychydig o ddylanwad ar bolisiau'r llywodraeth. Yna, yn 2011 efallai y gallai Blaid Cymru gwneud yn arbennig o dda, a cipio dyweder 18 sedd - mwy nag yn 1999. Perfformiad campus. Efallai hefyd y gallai'r Rh Cym gwnued yn arbennig o dda gan ennill tair sedd yn ychwaneg - cyfanswm o 9. Felly hyd yn oed ar ol etholiad gwych i Blaid Cymru ni fyddent mewn sefyllfa i ffurfio naill ai llywodraeth mwyafrifol na chwaith clymblaid gyda'r Rh Cym yn unig.

Felly does dim osgoi'r peth - os ydy Plaid Cymru eisiau arwain y Cynulliad nawr, neu unrhyw bryd yn ystof y degawd nesaf fe fydd RHAID iddynt cael y Toriaid yn y cabinet. Felly pam aros am union yr un sefyllfa ymhen 4 mlynedd?? Neu a ydynt am fod ar y gorau yn 'bit part players' i lywodraeth difflach Lafur?

Un peth arall. Os gall Paisley ac Adams cyd-weithio yn yr un cabinet yna dwi ddim yn gweld fawr o broblem cael Nick Bourne a Ieuan Wyn Jones yn yr un cabinet.

PostioPostiwyd: Sad 19 Mai 2007 10:25 am
gan Glanyrafon
I fi mae hwn yn rhwydd - ac rwy'n siarad fel aelod o'r Blaid.

Prif mantais democratiaeth dros ffurfiau eraill o lywodraeth yw bod hi'n bosib newid llywodraeth heb orford gael chwyldro gwaedlyd. Pwy ffordd bynnag mae dyn yn disgw'l ar ganlyniadau'r etholiad, mae'n eithaf amlwg bod pleidlais wedi bod dros newid llywodraeth. Cafodd y llywodraeth ddim mwyafrif a dim ond rhyw 33% o'r bleidlais. Felly mae angen cael llywodraeth newydd. Cale gwared Rhodri Morgan yn arbennig. Felly mae'n ddyletswydd ar y pleidiau eraill ceisio ffurfio llywodraeth i ddiwallu penderfyniad y pleidleiswyr. Er mwyn democratiaeth. Os na chawn newid llywodraeth nawr gwelwn gwymp sylweddol yn "turnout" tro nesaf.

Ar ran y Blaid mae risg y gall pethau fynd o chiwth tra yn llywodraethu ac yn achosi cwymp cefnogaeth tro nesa. Ond os nag y'n ni'n bodlon cymeryd y risg yna ddylen ni ddim bod yn sefyll mewn etholiadau o gwbl. Allwn ni ddim gadael i'r presennol fynd er mwyn rhyw lwyddiant hollol ansicr yn y dyfodol.

Yn yr un modd dylen ni fod yn hyderus i fabwysiadu polisiau sy'n gwneud gwahaniaeth i'n cymunedau, i'n hiaith ac i'n heconomi. Does dim i'w golli i gymharu a beth sydd i ennill.

jac a ddywedodd:Os gall Paisley ac Adams cyd-weithio yn yr un cabinet yna dwi ddim yn gweld fawr o broblem cael Nick Bourne a Ieuan Wyn Jones yn yr un cabinet.


Cweit

PostioPostiwyd: Sad 19 Mai 2007 12:14 pm
gan Hedd Gwynfor
jac a ddywedodd:Felly does dim osgoi'r peth - os ydy Plaid Cymru eisiau arwain y Cynulliad nawr, neu unrhyw bryd yn ystof y degawd nesaf fe fydd RHAID iddynt cael y Toriaid yn y cabinet.


Does dim modd osgoi'r ffaith chwaeth, fod rhaid cael cefnogaeth y Blaid Lafur er mwyn sicrhau refferendwm ar bwerau llawn i'r Cynulliad.

Sicrhau'r refferendwm yw prif nód Plaid Cymru, felly a fyddai cydweithio gyda'r Blaid Lafur o du allan i'r Cabinet yn fwy cynhyrchiol yn yr hir dymor na chlymblaid enfys?

PostioPostiwyd: Sad 19 Mai 2007 12:18 pm
gan GT
Hedd Gwynfor a ddywedodd:
jac a ddywedodd:Felly does dim osgoi'r peth - os ydy Plaid Cymru eisiau arwain y Cynulliad nawr, neu unrhyw bryd yn ystof y degawd nesaf fe fydd RHAID iddynt cael y Toriaid yn y cabinet.


Does dim modd osgoi'r ffaith chwaeth, fod rhaid cael cefnogaeth y Blaid Lafur er mwyn sicrhau refferendwm ar bwerau llawn i'r Cynulliad.

Sicrhau'r refferendwm yw prif nód Plaid Cymru, felly a fyddai cydweithio gyda'r Blaid Lafur o du allan i'r Cabinet yn fwy cynhyrchiol yn yr hir dymor na chlymblaid enfys?


Fyddwn i ddim yn gwerthu fy enaid am refferendwm a dweud y gwir - mi ddaw hwnnw beth bynnag - gyda y bydd Llafur yn colli grym yn Llundain.

PostioPostiwyd: Sad 19 Mai 2007 12:27 pm
gan Gwerinwr
jac a ddywedodd:Mae'n naturiol fod y Toriaid eisiau llefydd yn y cabinet. Ond o ran dylanwad ar bolisiau unrhyw glymblaid byddai ganddynt law bargeinio cryfach o fod y tu allan i'r cabinet.

Petai Plaid Cymru yn fodlon derbyn Toriaid i'r cabinet tybed pa portffolio (beth yw lluosog portffolio?) y gellir cynnig i'r Toriaid? Byddai Amaethyddiaeth a Trafnidiaeth ddim yn broblem, na'r Dirpwy Arweinyddiaeth. Ond fase hyn ddim yn ddigonol - yn enwedig o ystyried y byddai angen diwallu gofynion y Rh Cym hefyd. Dwi'n siwr na fyddai PC yn fodlon o gwbl cynnig Iechyd, Addysg, Diwylliant na Nawdd Cymdeithasol i'r Toriaid. Efallai y gellir cynnig Addysg i'r Rh Cym - yn enwedig o ystyried ei pwyslais ar leihau maint dosbarthiadau i 25.


Mae hwn yn bwynt hynod o bwysig yn fy marn i Beth pe tai'r Toriaid yn mynnu ei bod yn cael gafael ar y pwrs arian - dyna fyddai eu prif ddiddordeb a gallai hynny wedyn gael pob math o oblygiadau i ariannu addysg, iechyd ac ati. Tra bod IWJ wedi gwella yn enfawr dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, ofnaf y byddai Nick Bourne yn troi IWJ rownd ei fys bach. Ac nid mater o gynnig yw hi - bur debyg mai mater o fynnu porffolio yw hi