Cabinet Clymblaid Enfys

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Rhys Llwyd » Sul 20 Mai 2007 12:05 pm

Os ydy Plaid yn arwain y llywodraeth a fyddai rhaid i DET a Buttler wneud swap jobs - cyn deddf cymru ddiweddara roedd rhaid i'r Llywydd fod o'r wrthblaid - ydy hyn dal yn wir?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mr Gasyth » Sul 20 Mai 2007 12:27 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Os ydy Plaid yn arwain y llywodraeth a fyddai rhaid i DET a Buttler wneud swap jobs - cyn deddf cymru ddiweddara roedd rhaid i'r Llywydd fod o'r wrthblaid - ydy hyn dal yn wir?


Na dwi ddim yn meddwl - yn wir dwi'n amau a fu'n wir erioed ond ei fod wedi ymddangos felly ella gan mai ond DET sydd wedi bod. Yr unig beth mae'r ddeddf newydd yn ei fynnu hyd y gwn i ydi fod un o'r wrthblaid a llall o'r llywodraeth. O dan glymblaid enfys byddai DET a Butler yn iawn fel ma nhw. Petai clymblaid Llafur/Plaid byddai rhaid i un fynd.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan twpsyn » Sul 20 Mai 2007 7:34 pm

Hedd: Bydden i am weld Plaid Cymru yng ngofal Diwylliant/Iaith ac Addysg, ac unrhywun ond y Ceidwadwyr yng ngofal Iechyd!


Cytuno gyda'r darn cyntaf Hedd - pwysig sortio mas addysg cyfrwng Cymraeg - efallai na chawn ni gyfle arall. Addysg yw'r prif beth + tai - cael gwared ar y system pwyntiau hyrt sy'n rhoi tai i fewnfudgwyr. Ond pam ddim gadael i'r Toris redeg iechyd - does neb byth am fod yn hapus gyda iechyd faint bynnag o arian a deflir ati.

Siarad gyda LibDem amlwg ddoe a'i bryder fawr e oedd a oedd IWJ yn ddigon cryf at y job? Dwi'n cytuno. Bydd angen person carismataidd a chryf i'r job. Fy mhryder y bydd IWJ yn troi'n Alun Michael yr ail. Dwi wir am iddo lwyddo, ond mae gen i fy amheuon - beth am DET fel Prif Weinidog felly? Efallai fyddai'r Libs a'r Toris yn fwy tebyg o wrando arno ac mae'n ddigon hyderus i fyachanu Llafur yn lle bod eu ofn?
rhy dwp i mewngofnodi
twpsyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 24
Ymunwyd: Maw 28 Chw 2006 11:40 am
Lleoliad: stafell oer

Postiogan Dylan » Sul 20 Mai 2007 9:28 pm

dweud gwir dw i'n meddwl mai mewn sefyllfa fel hyn y byddai IWJ ar ei orau. Be bynnag ddywedwch chi am ei ddelwedd, mae o'n wleidydd craff iawn ac yn dda mewn trafodaethau ty ôl y llenni fel petai a ballu.

Portffolio iechyd i Plaid, bendant. I HMJ siwr o fod.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan y mab afradlon » Maw 22 Mai 2007 10:33 am

I dwlid bys (anhebygol iawn) arall i'r botes, tybed pam nad yw'r toriaid yn ail-ddatgan geiriau Nick Bourne (wy'n credu) cyn yr etholiad, taw Llafur yw'r blaid mwyaf tebyg i'r toriaid yn y cynulliad, a chynnig cydweitho 'da Rhodri.

Na chi ddewis - gwrthod, a cholli'i gyfle olaf at bwer, neu dderbyn, cael pwer am 4 blynedd arall, a chwalu'i blaid yn rhacs :lol: :lol: !

Ond o leiaf byse peth onestrwydd yn dod nol i'r ymgyrchu 'unrhywun ond y toriaid' !
y mab afradlon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 224
Ymunwyd: Gwe 25 Chw 2005 2:23 pm
Lleoliad: ymyl mynydd yng nghwm rhymni

Postiogan y mab afradlon » Maw 22 Mai 2007 11:23 am

Wedi meddwl, beth am gynnig swydd i Trish Law yn y cabinet newydd? Byddai Cyfiawnder Cymdeithasol ac adfywiad yr ardaloedd diwydiannol, (gan gynnwys amcan un efallai) yn ei siwtio i'r dim.

Er iddi ddatgan ei chefnogaeth i'r Blaid Lafur ( ac o bosib y bysai'n anhapus cydweithio gyda'r toriaid) mae rhyw deimlad 'da fi y byddai'n gyndyn iawn gwrthod cyfle i wneud lles i'w phobl trwy gymryd y fath swydd.

Yn ol Vaughan Roderick, mae'n bosib y bydd hi'n allweddol i unrhyw lywodraeth: http://www.bbc.co.uk/blogs/cymraeg/2007 ... wodau.html
y mab afradlon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 224
Ymunwyd: Gwe 25 Chw 2005 2:23 pm
Lleoliad: ymyl mynydd yng nghwm rhymni

Nôl

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 41 gwestai