Cabinet Clymblaid Enfys

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Geraint Edwards » Gwe 18 Mai 2007 6:18 pm

Ger27, cyfrifydd yw Dafydd Wigley o ran galwedigaeth, nid twrnai/cyfreithiwr/bargyfreithiwr. Fodd bynnag, mae yna ddigon o gyfreithwyr profiadol yng Nghymru a all ddiwallu dyletswyddau'r Cwnsler Cyffredinnol.

Beth fyddai'n sicr o fynd o dan groen y Llafur gwrth-Gymreig fyddai rhoi Robyn Lewis yn y swydd (ie, if only)!! :D :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint Edwards
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 660
Ymunwyd: Sul 19 Ion 2003 10:39 pm
Lleoliad: Llanddeiniolen / Caerdydd

Postiogan Mici » Gwe 18 Mai 2007 6:36 pm

Fedrai ddeall rhai o'r dadleuon ynglyn a Plaid a Toris yn gwbwl wahanol o rhan polisiau ond dwi'n cytuno mae hwn yn ddwrnod hanesyddol yng Nghymru.

Oce dan i ddim cweit wedi gyraedd nod SNP yr Alban gyda Alex Salmond yn cael cryn rhyddid i osod polisiau er lles yr Alban gyntaf(Prif newyddion BBC1 un o'r gloch dydd Mercher). Ond mae'n ddechrau dydi, fydd na rhai pynciau y bydd y pleidiau yn gytun, ac eraill fydd na gryn drafod arnynt.

Mae'n anorfod fydd un neu ddau o bolisiau gan y tri plaid na fydd yn mynd lawr yn dda, ond os fedrith Plaid lwyddo i wireddu hanner beth wnaethon addo yn y maniffesto fyddai ddigon hapus.

Chydig yn well na dim dydi, a dim faswn wedi cael rhoi drwodd os buasai Llafur dal mewn grym
Rhithffurf defnyddiwr
Mici
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 846
Ymunwyd: Gwe 21 Ion 2005 11:47 am
Lleoliad: Galway

Postiogan Clebryn » Gwe 18 Mai 2007 9:34 pm

Beth am chwarae i gryfderau y pleidiau wrth benni cyfrifoldebau yn y cabinet?

Yn draddodiadol mae'r Blaid yn gryf ar iaith a diwylliant, yn ogystal a gwasanaethau cyhoeddus. Gan taw PC ywr blaid fwyaf mae'n gwneud synnwyr bod Ieuan Wyn yn brif weinidog a bod y gweinidog iechyd, addysg a diwylliant yn cael eu penodi o rengoedd y blaid

Mae yna ddrwgdybiaeth dwfn o allu y toriaid i redeg ein gwasnaaethau cymdeithasol, megis iechyd ac addysg. Felly beth am chwarae i gryfderau traddodiadol y blaid honno a rhoi'r brif economaidd ac amaeth iddi.

Dyw'r Democratiaid Rhyddfrydol erioed wedi rhagori mewn unrhyw faes. Mae nhw serch hynny yn obsesd gyda PR yn llywodraeth leol, ac yn gwneud job reit dda o shifftio bagiau sbwriel yn ein cynghorau lleol. Rhowch y briff llywodraeth leol a chyfiawnder cymdeithasol (maes digon wishi washi) iddynt!
Am Gymrawd, Ew am Gymro
Clebryn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 498
Ymunwyd: Gwe 13 Mai 2005 5:42 pm

Postiogan Clebryn » Gwe 18 Mai 2007 9:36 pm

O ran personoliaethau yn y cabinet peidiwch ac edrych ymhellach na "big wigs" y dair plaid

PC- Ieuan Wyn, ei ddirwpy Rhodri Glyn, cyn ymgeisydd am yr arweinyddiaeth Helen Mary Jones, ac o bosib Alun Ffred er budd balans daearyddol a'i brofiad gwerthfawr o lywodraeth leol

Lib Dems- Mike German gan taw fe ywr arweinydd! A dwin disgwyl Jenny Randerson hefyd yn sgil ei phrofiad cabinet yn y gorffennol. Kirsty i gadw pellter ac i gipio arweinyddiaeth y grwp pe bydd y glymblaid yn dymchwell

Toriaid- Nick Bourne, Jonathan Morgan ac Alun Cairns

Diddorol nad yw Trish Law wedi cal unrhyw mensh yn y sylwebaeth sydd wedi bod ar y glymblaid enfys
Am Gymrawd, Ew am Gymro
Clebryn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 498
Ymunwyd: Gwe 13 Mai 2005 5:42 pm

Postiogan Tegwared ap Seion » Sad 19 Mai 2007 12:22 am

Oni wnaeth hi ddweud ar noson yr etholiad y byddai'n cefnogi Llafur yn y Cynulliad?!
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Clebryn » Sad 19 Mai 2007 3:59 pm

Mae deddf llywodraeth cymru 2006 yn caniatau i Lywodraeth y Cynulliad benodi Cwnsler Cyffredinol o blith aelodau y cynulliad fel cyflawn-aelod o'r cabinet.

Ar y llaw arall mae'r ddeddf hefyd yn caniatau i'r Cynulliad benodi gwas sifil neu unrhyw bersonoliaeth cyhoeddus i fod yn ddeiliad y swydd ac yn aelod ex officio o'r Llywodraeth, heb bleidlais ar lawr siambr y Cynulliad.

Nid oes rhaid i ddeiliad y swydd fod yn gyfreithiwr na chwaith yn fargyfreithiwr.

Mae yna gyfle yma felly i IWJ benodi Dafydd Wigley i Gabinet Llywodraeth Glymblaid Enfys. A fyddai Wigley yn derbyn cynnig o'r math yma?

Loophole difyr i fwydo rhagor o drafod a gossipo ar y maes
Am Gymrawd, Ew am Gymro
Clebryn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 498
Ymunwyd: Gwe 13 Mai 2005 5:42 pm

Postiogan Clebryn » Sad 19 Mai 2007 4:02 pm

Clebryn a ddywedodd:Mae deddf llywodraeth cymru 2006 yn caniatau i Lywodraeth y Cynulliad benodi Cwnsler Cyffredinol o blith aelodau y cynulliad fel cyflawn-aelod o'r cabinet.

Ar y llaw arall mae'r ddeddf hefyd yn caniatau i'r Cynulliad benodi gwas sifil neu unrhyw bersonoliaeth cyhoeddus i fod yn ddeiliad y swydd ac yn aelod ex officio o'r Llywodraeth, heb bleidlais ar lawr siambr y Cynulliad.

Nid oes rhaid i ddeiliad y swydd fod yn gyfreithiwr na chwaith yn fargyfreithiwr.

Mae yna gyfle yma felly i IWJ benodi Dafydd Wigley i Gabinet Llywodraeth Glymblaid Enfys. A fyddai Wigley yn derbyn cynnig o'r math yma?

Loophole difyr i fwydo rhagor o drafod a gossipo ar y maes


Heb sylwi fod rhwyun wedi gwneud y pwynt yma eisoes! :wps:

Ond i bwysleiesio elwaith nid oes rhaid i ddeiliad y swydd fod yn gyfreithiwr felly mae sgop i Wigley chwarae rol mewn unrhwy ddarpar lywodraeth.

Beth am DET? Mae yntau wedi cyfrannu yn sylweddol dros y 8 ml dwethaf i ddatblygiad pensaerniaeth cyfansoddiadol Cymru. Mi fyddai yn "ideal" ar gyfer y swydd, er y byddain demotion sylweddol ar ei gyrfifoldebau presenol
Am Gymrawd, Ew am Gymro
Clebryn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 498
Ymunwyd: Gwe 13 Mai 2005 5:42 pm

Postiogan Gwerinwr » Sad 19 Mai 2007 5:26 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Dyma farn Glyn Davies:

Ieuan Wyn Jones - First Mimister
Nick Bourne - Deputy First Minister and Finance Spokesman
Mike German - Deputy First Minister and Local Government Spokesman
Rhodri Glyn Thomas - Health Spokesman
Helen Mary Jones - Social Justice Spokesperson and Business Manager
Elin Jones - Environment and Countrtyside Spokesperson
Jonathon Morgan - Education Spokesman
Alun Cairns - Ecomomy Spokesman
Jenny Randerson - Culture Spokesperson


Dyma gadarnhau beth dw i wedi ddweud mewn edefyn arall - Mae y Toriaid a'i llygad ar y pwrs arian. Ac wedyn gofalu am ei seddau targed ar gyfer etholiadau 2009. Ac roeddwn i'n meddwl eu bod yn erbyn biwrocratiaeth gwastraffus. Dau ddirprwy brif weinidog!!

Y dewis gorau i Blaid Cymru yw cadw draw o'r swyddi Cabinet a bod yn wrthblaid effeithiol. Wedyn gallwn o ddifri feddwl am enillion yn etholiadau San Steffan ac ennill grym yn 2011. Amynedd bois bach
Rhithffurf defnyddiwr
Gwerinwr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 85
Ymunwyd: Iau 05 Meh 2003 3:09 pm
Lleoliad: Llanelli

Postiogan Cwlcymro » Sad 19 Mai 2007 11:51 pm

Gwerinwr a ddywedodd:Y dewis gorau i Blaid Cymru yw cadw draw o'r swyddi Cabinet a bod yn wrthblaid effeithiol. Wedyn gallwn o ddifri feddwl am enillion yn etholiadau San Steffan ac ennill grym yn 2011. Amynedd bois bach


Amhosib. Rwan fod y Libs wedi gwrthod Llafur ma'n rhaid im Plaid fod yn nfolfd un ffor neu llall. Unai efo Llafur, neu efor enfys.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Gwerinwr » Sul 20 Mai 2007 8:46 am

Cwlcymro a ddywedodd:
Gwerinwr a ddywedodd:Y dewis gorau i Blaid Cymru yw cadw draw o'r swyddi Cabinet a bod yn wrthblaid effeithiol. Wedyn gallwn o ddifri feddwl am enillion yn etholiadau San Steffan ac ennill grym yn 2011. Amynedd bois bach


Amhosib. Rwan fod y Libs wedi gwrthod Llafur ma'n rhaid im Plaid fod yn nfolfd un ffor neu llall. Unai efo Llafur, neu efor enfys.


Pam amhosibl. Dyn ni ddim yn ddibynnol ar beth mae'r Libs yn wneud. Rydym ni mae'n debyg wedi rhoi ein rhestr siopa i Rhodri. Os ydy e'n gwrthod rheini oherwydd fod ei blaid yn ranedig ei gyfrofoldeb e yw hynny
Rhithffurf defnyddiwr
Gwerinwr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 85
Ymunwyd: Iau 05 Meh 2003 3:09 pm
Lleoliad: Llanelli

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 22 gwestai

cron