Garnet Bowen a ddywedodd:Ond dwi'n credu ei bod hi'n annheg beirniadu cefnogwyr cynllun Gwynedd am wneud y ddadl yma. Hynny yw, Cymdeithas yr Iaith sydd wedi penderfynny gwneud hon yn ddadl ieithyddol - dyna pam fod carpetbaggers o Sir Gar yn arwain ymgyrch yng Ngwynedd.
Wel Garnet, digon hawdd fydde dadlau mae pobl ddwad ydi'r prif gynghorwyr sy'n gwthio'r cynlluniau. Serch hynny, dwi'n credu fod y brotest heddiw yn profi i raddau helaeth mae nid pobl ddwad sy'n arwain y brotest yng Ngwynedd.
Garnet a ddywedodd:
Ti'n gwybod bod gen i barch mawr ata ti, Gath, ond mae hon yn ddadl gwbl anheilwng ohona ti.
Pam?
Garnet a ddywedodd:Wrth gwrs fod rhaid edrych ar sut mae Cyngor Gwynedd yn gwario gweddill ei chyllideb. Ond dyw'r ffaith fod gwastraff yn bodoli drwy'r cyngor cyfan ddim yn cyfiawnhau gwastraff yn yr adran addysg.
Nac ydi, ond mae addysg yn wasanaeth o bwys, yn wahanol i'r llu swyddig gwneud yn y pencadlys. Y mae'r gyllideb addysg yng Ngwynedd yn llai na'r hyn y dyla fod yn unol a setlad y Cynulliad (tua 96% dwi'n credu o gymharu a 102% yn sir Conwy) felly mae'r ddadl yn deilwng ac yn sefyll.
Garnet a ddywedodd:Yn ol dy resymeg di, mae hi'n berffaith dderbynniol cynnal y status quo gwarthus
Wel dy ddisgrifiad di ydi gwarthus Garnet
O ran gweddill dy bwynt dwi ddim yn credu i mi ddweud dim o'r fath ons os mae arbed arian ydi'r rheswm dros y newidiadau yna mae angen ystyried gwariant y Cyngor yn ei gyfanrwydd.
Garnet a ddywedodd:
Mae addysgu rhai o blant Gwynedd yn costio tua £2000 o bunoedd y flwyddyn, tra bo addysg plant eraill yn costio £10,000. Bydd y cynllun hwn yn lleihau'r gwahaniaeth, gan ddod a chost addysgu'r plant drytaf i lawr i £5000. Bydd mwy o gyfartaledd rhwng gwariant, a mwy o arian yn cael ei wario ar addysg y plant sydd, ar hyn o bryd, yn cael bargen wael iawn.
Mae hon yn ddadl sy'n boblogaidd iawn ymysg cenedlaetholwyr yn Lloegr sy'n gweld dim rheswm i gael gwariant uwch yng Nghymru neu'r Alban heb dderbyn y ffaith fod darparu gwasanaethau mewn ardaloedd o boblogaeth wasgaredig yn ddrud. O ddilyn dy ddadl i'r eithaf fe fydd yn rhaid cau pob gwasanaeth cyhoeddus mewn ardal wledig er mwyn arbed costau. Rwan pwy yw'r tori asgell dde Garnet? Chdi ta fi?
Garnet a ddywedodd:Onid tegwch sylfaenol ydi hyn?
Na, ddim o gwbwl. Ti'n anwybyddu'r ffaith fod costau darparu gwasanaethau yn ddrytach mewn ardaloedd gwledig. Dyna pam fod banciau wedi cau, siopau wedi cau ayb. Os mae gwasanaeth masnachol ydi addysg yna mae dy ddadl yn sefyll ond gan mae gwasanaeth cyhoeddus sy'n dod o goffrau'r pwrs cyhoeddus ydi addysg mae dy ddadl yn rhyfeddol o simplistig a dwi'n dweud hynny er fod gennyf barch mawr i ti!
Garnet a ddywedodd:Felly beth am yr anghyfiawnder o gymeryd arian o bocedi plant ardal fel yr Hendre - un o ardaloedd mwyaf di-freintedig, a Chymreiciaf Cymru - i gynnal hanner dwsin o blant yn Rhydygwystl?
Mae Hendre yn bell o fod yn ward ddi-freintiedig ac mae'r ysgol er yn derbyn cyllid isel o ran cyfanswm y pen yn perfformio'n wych. Serch hynny, fy mhryder am y ddadl yma yw'r modd y mae'r rhai hynny sy'n cefnogi bwriad Gwynedd yn rhoi rhyw spin gwlad v tref i'r ddadl. Hyll iawn a dweud gwir.
Ta waeth, nmae'n debyg fod y penderfyniad wedi ei wneud bellach - wn io ddim ond dwi off i weld cyngerdd Nadolig y plant (sy'n mynychu ysgol na fydd yn cael ei effeithio gan y newidiadau).