Cau ysgolion yng Ngwynedd

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 23 Hyd 2007 10:52 pm

Er gwybodaeth:

Cymuned yn cefnogi galwad Cymdeithas yr Iaith ar ysgolion bychain, cymuned.org
Cau 29 ysgol: Rhieni 'i frwydro', BBC Cymru'r Byd, 20/10/07
Ysgolion: 'Ewch yn ôl at y bobl', BBC Cymru'r Byd, 21/10/07
Keep 29 rural schools, council is urged, Western mail, 20/10/07
Twenty nine Gwynedd schools face closure, Daily Post, 20/10/07
Parents to fight school closures, BBC Wales, 20/10/07
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr

Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan sanddef » Iau 25 Hyd 2007 10:00 pm

Roedd y protest yn un llwyddiannus o ran niferoedd, ond roedd y neges yn un eitha cymysglyd. Er enghraifft, roedd rhai rhieni yn gwrthdystio yn erbyn ffederaleiddio. Hyd y gwn i dydy Cymdeithas na Cymuned o reidrwydd yn erbyn y syniad o ffederaleiddio rhai ysgolion er mwyn eu cadw ar agor...jyst isio chwilio yn fwy manwl am ffyrdd i gadw ysgolion bach ar agor ac hefyd hyrwyddo galwad Cymdeithas am gydweithrediad y Cynulliad. Gwelais Ffredi Eff yn cael ei holi o flaen camera ond doedd o ddim ar y newyddion wedyn felly does gen i'r un syniad beth oedd ganddo i'w ddweud...
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur

Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 25 Hyd 2007 10:23 pm

Tipyn o drafodaeth ar y Post Prynhawn heddiw - Gwrando Eto.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr

Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan chutneyferret » Gwe 26 Hyd 2007 12:20 am

Oes na rhywun wirioneddol o blaid cadw ysgol efo 8 neu 12 o ddisgyblion ar agor? Diom yn deg ar y plant - wnawn nhw byth chwarae peldroed neu netball i'r ysgol. Os di'r athro sy ganddyn nhw'n crap, mae nhw'n styc efo'r athro yna am 7 mlynedd.

Be nath yn haro fi oedd gweld bod chwarter athrawon cynradd Gwynedd yn bennaethiaid ysgol - so talu am bobol i redeg ysgolion yn lle dysgu dan ni yn y bon.

Mae'r ysgolion sy wir angen y pres - ysgolion difreintiedig (a mawr) y trefi a'r pentrefi dosbarth gweithiol - yn cael cam. Nid yr ysgolion bach sy ar fai am hyn - esgeulusdod y swyddogion a gwleidyddion ydio. Ond does na'm pwynt cadw ysgol fach ar agor oherwydd sentimentaliaeth.
chutneyferret
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd

Negeseuon: 146
Ymunwyd: Mer 02 Tach 2005 2:04 pm

Postiogan sanddef » Gwe 26 Hyd 2007 12:31 am

chutneyferret a ddywedodd:Ond does na'm pwynt cadw ysgol fach ar agor oherwydd sentimentaliaeth.

Nid yw'r ddadl yn erbyn cau ysgolion bach yn gyfyngedig i "sentimentaliaeth", nac ychwaith yn gwestiwn o "ysgolion mawr v ysgolion bach". Does dim pwynt gorsymleiddio pethau.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur

Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Darth Sgonsan » Gwe 26 Hyd 2007 10:07 am

chutneyferret a ddywedodd:Oes na rhywun wirioneddol o blaid cadw ysgol efo 8 neu 12 o ddisgyblion ar agor? Diom yn deg ar y plant - wnawn nhw byth chwarae peldroed neu netball i'r ysgol. Os di'r athro sy ganddyn nhw'n crap, mae nhw'n styc efo'r athro yna am 7 mlynedd.

Be nath yn haro fi oedd gweld bod chwarter athrawon cynradd Gwynedd yn bennaethiaid ysgol - so talu am bobol i redeg ysgolion yn lle dysgu dan ni yn y bon.

6 o'r 29 ysgol sydd lawr i gau sy' efo llai nag 20 disgybl

11 arall wedyn efo llai na 50

ma' Prifathrawon ysgolion llai yn dysgu dosbarth o blant a rhedeg yr ysgol
- ma'r Cyngor o'r farn bod hyn yn ormod o waith iddyn nhw, ond dwi eto i glywed Prifathro yn dweud fod angen cau/ffederaleiddio ei ysgol am fod y llwyth gwaith yn ormod!

a son am ormod, dwi'n meddwl fod cyhoeddi bwriad i gau 29 ysgol wedi bod yn ormod mewn un go.
ma' pobol cefn gwlad (fotars Plaid) yn bobol geidwadol sy ddim yn licio newid rwbath sy'n gweithio
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian

Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

Postiogan Rhods » Gwe 26 Hyd 2007 10:41 am

Os ma da chi dwedwch er enghraifft, 15 neu llai (mewn un achos da un ysgol 4 disgybl), faint ma hwnna yn costio???? Oleia £150,000 (a mwy) yn cynnwys cyflog oleia 2/3 athro + costau cynnal - cofiwch jyst ar gyfer 15 neu llai.

Ma hwnna i fi yn hollol hurt ac yn hollol unviable. Wrth gwrs bod costau yn bwysig. A dwi yn iawn i feddwl, bod y sefyllfa bresennol yn costio'r awdurdod hyd at £1miliwm mewn lleoedd gwag???? A byddai yn well buddsoddi yr arian yna yn ol mewn i addysg ? Roedd sefyllfa yn ein sir ni ble odd nas ysgol yn cadw jyst 2 disgybl!!! Hurt! Faint ma hwn yn costio? Os na gyfiawnhad iw chadw?? Wrth gwrs bod dim!!!!!

Da ni yn son am yr elfen gymuendol , ond be am addysg y plant? Ma hwnna yn cael ei golli weithiau yn y drafodaeth yma, a dyna be sydd yn bwysig ar diwedd y dydd.

Gyda adeiladoedd yr ysgol wedi iddi chau- oes, ma angen defnyddio rhain ar gyfer y gymuned yn lle ei jyst adael e - dwi yn cydymdeimlo a cytuno 100% gyda'r pwynt yna.

Y realiti yw os nad oes digon o ddisgyblion i gadw ysgol yn fyw, ac yn stryglo wedyn, o ran rhifau, ma sens yn dweud bod angen ei gau weithiau. Poenus - ond dyna'r byd real sori. Ond wrth gwrs, wedi iddi gau ma angen plan B a plan C, er mwyn cynnal cymuned etc....
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur

Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Postiogan garynysmon » Gwe 26 Hyd 2007 11:34 am

Mae na son fod rhai am gau ar Ynys Mon hefyd, yn cynnwys fy hen Ysgol i.

Gret :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur

Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan sanddef » Gwe 26 Hyd 2007 12:18 pm

Diddorol darllen tudalen 9 Golwg yr wythnos yma. Os nad oes gen ti gopi eto mae 'na ddarn ohono yma
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur

Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Gorwel Roberts » Gwe 26 Hyd 2007 2:34 pm

Be ddaw o hyn i gyd? Bydd etholiadau lleol mis Mai nesaf
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur

Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 23 gwestai

cron