gan Lleucu Roberts » Sul 28 Hyd 2007 12:08 pm
I ddechrau, does neb, wrth gwrs, yn honni y dylid cadw ysgol ag ynddi un disgybl yn unig ar agor.
Yr hyn sy'n fy mhoeni'n bennaf yw y GELLID cau safleoedd, a hynny'n hawdd. Yn wreiddiol, roedd y Cyngor yn son am glystyrru. Mae'n debyg nad yw hi'n hawdd cau safle sydd mewn clwstwr, ond - am resymau cyfreithiol - mae'n hawdd iawn cau safle ffederal. Does dim son bellach am glystyru.
Nid am ysgolion eithafol o fach y sonir - ond llu (55) o ysgolion sydd, y rhan fwyaf ohonyn nhw, o faint sylweddol, does bosib. Roedd yr ysgolion hyn yn llwyddo'n iawn (edrychwch ar yr arolygon os nad ydych chi'n 'y nghredu i) cyn y son am newid. Dydi'r ysgolion bach lleiaf ar y rhestr ddim yn cymharu o ran maint ag ysgolion eithafol o fach a gaewyd mewn siroedd eraill.
Ac wrth gwrs, yr ysgolion hynny y bygythir eu cau ddylai fod ar flaen ein meddyliau (niferoedd: 23, 13, 28, 40, 40, 19, 26, 9, 17, 4, 31, 23, 19, 80, 58, 27, 35, 27, 51, 27 - ysgolion mawr yw'r gweddill, sy'n cael eu cau er mwyn codi safleoedd newydd ac ati 179, 189, 165, 120, 131, 121. 122, 200, 90).
Nawr, mae'r ysgol leiaf (4 - Rhydyclafdy) gyda llaw wedi gweld gostwng ei niferoedd i'r fath raddau yn sgil yr holl siarad sydd wedi bod yn y ddwy flynedd ddiwethaf am newid trefniadaeth. Mae'n ffaith fod nifer yn yr ardal (a nifer fawr drwy'r sir) wedi ailystyried mynd a'u plant i'r ysgolion bach yma am eu bod yn gweld eisoes pa ffordd mae'r gwynt yn chwythu. (Enghraifft o'r Cyngor yn creu'r sefyllfa mae hi'n darogan gwae yn ei chylch... ond ta waeth).
Does na ddim gwerth i fi bwyntio bys at y Cyngor am yr holl bethau ddwedwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf sy'n haeddu'r label 'camarweiniol' (spin yw'r gair Saesneg). Rhaid brwydro o'r fan yma ymlaen. Ond rwy'n bryderus fod pobl yn cymryd y Cyngor ar eu gair yn gwbl ddigwestiwn hefyd. Mae nifer fawr o rieni a llywodraethwyr Gwynedd wedi cwestiynu llawer ar y cynlluniau, wedi cynnig awgrymiadau adeiladol am newid sydd yn ein barn ni yn arbed pres mewn ffyrdd llai peryglus i ddyfodol ein cymunedau a'r Gymraeg yng nghefn gwlad Gwynedd na'r hyn mae'r cyngor yn ei awgrymu, wedi trafod a mynegi barn - ac eto ymddengys na wrandawyd ar air o'r gwrthwynebiad. Roedd yr 'ymgynghori'n costio - miloedd ar filoedd (a glywais i'r ffigur 30 mil? mi fetia i 'mhen ei fod yn deirgwaith hynny) - ac eto ni adlewyrchwyd DIM o'r 'ymgynghori' hwnnw.
Mae'n gwestiwn hefyd sut allan nhw son am ddefnyddio 30 miliwn i godi safleoedd newydd, gwario mwy ar sefydlu ysgolion ffederal na'r drefn bresennol a dal i arbed arian.
Un peth sy'n amlwg: 'dyw cymunedau naturiol Gymraeg cefn gwlad Gwynedd ddim yn werth ceiniog o'r 30 miliwn yna. Ysgolion ardal i'r pentrefi mawr a'r trefi fyddan nhw.
(Gyda llaw - Eu dadl fawr oedd fod dyraniad pres y pen disgyblion ysgolion llai cymaint uwch na dyraniad pres y pen yr ysgolion mwy. Os yw'n syms i'n gywir, mae rhannu 30 miliwn gyda'r nifer o blant fydd yn cael ysgol newydd sbon danlli - yn y pentrefi mawr a'r trefi - yn rhywbeth tebyg i ugain mil y disgybl!)
Ymddengys mai neges y Cyngor yw - dympiwch y pentrefi bach, heidiwch i'r trefi.