nes di amddiffyn y syniad o ysgol ffederal mewn termau llac.
nes di ddim egluro sut fydd ysgol ffedral ar 4safle/300 plant yn GWELLA ADDYSG! (dal i aros esiamplau)
dwi'n gweld synnwyr mewn cyfuno 2/3 ysgol efo rhwng 75-100 o blant, ond mae unrhywbeth uwchlaw hyn yn taro fi fel arbed arian end of, ag wffd i safonau addysg
Dwi'n cytuno'n llwyr Darth. 'Dan ni yn gwrthwynebu argyhellion ar gyfer yr ysgol yma ar y sail yma'n benodol. Mae'r addysg yn y bedair safle ar hyn o bryd yn addysg dda - does dim tystiolaeth o gwbl y bydd system ffederal gyda bedair safle a bron i 300 o blant yn gwella dim mymryn ar addysg y plant. Ymhellach na hyn mi fyddwn i'n dadle mai andwyo addysg y plant wnaiff o yn enwedig ym mlynyddoedd cyntaf y cynllun.
Dwi'n cytuno a thi mae ysgolion bach sy'n neud fwyaf synnwyr. Dyna yw fy mhrofiadau i. Tair ysgol fechan, ysgolion a fyddai petaent wedi aros ar eu ben eu hunain wedi cau yn sicr. Os byddant yn agor ni fyddai'r plant wedi cael nesa beth at ddim profiadau gwerthfawr ychwanegol - chwarae peldroed yn erbyn timau eraill ac ati. Drwy ffederaleiddio galluogwyd i'r ysgolion barhau i gadw safleoedd mewn tair pentref bach, ac yn bwysicach oll, galluogwyd i blant gael profiadau megis tripiau a chwarae i dimau peldroed/pelrwyd ayyb na fyddant wedi gallu gwneud.
Fyddwn inne ddim yn dadle yn erbyn ysgolion ffederal ar y sail yma. Mae yna dystiolaeth gadarn eu bod yn gweithio - ac yn gwella addysg y plant. OND mae cynllun Gwynedd yn mynd ymhell, bell y tu hwnt i hyn...
Dim ond enghreifftiau o ysgolion ffederal gyda uchafswm o oddeutu 130 (ish dwi'm yn cofio'n union!) sydd yn y ddogfen a mae yna fyd o wahaniaeth rhwng hynny a'r hyn sy'n cael ei gynnig.
Problem arall ydi nad oes yna unrhyw fanylion ymarferol o sut mae'n mynd i weithio heblaw am yr ochr reolaethol. Does yna ddim sôn am blant yn swydd ddisgrifiad y pennaeth arweiniol, dim ond polisïau a chyllidebu. Mi fyddwn i'n dadle na ellid di paratoi polisïau effeithiol os nad wyt ti'n adnabod y plant y byddan nhw'n effeithio arnyn nhw - a bydd dim adnabyddiaeth o'r plant os oes yna bron i 300 ar 4 safle.
Mewn ysgol ar un safle o'r maint yma y pennaeth sy'n disgyblu, cymyd gwasanaethau ac ati - yn ôl y swydd ddisgrifiad engreifftiol does dim disgwyl i bennaeth arweiniol wneud hyn - mae'n debyg y byddai'n ymarferol amhosib iddo wneud beth bynnag. Y pennaeth safle fydd yn gorfod gwneud y pethe yma o ddydd i ddydd - a hynny am gyflog dirprwy ar y gore.
Oes mae angen newid, ond mae angen i swyddogion y Cyngor a Chynghorwyr gymyd pilsen synnwyr cyffredin cyn dod a'r argymhellion terfynol yn ôl o flaen y Cyngor fis Mai/Mehefin nesa...