GT a ddywedodd:
Rwan, mae problemau gwirioneddol yn codi o hyn [y drefn newydd] nodaf y rhai amlycaf:
(1) Does yna ddim lle o gwbl i dybio bod yr haenen newydd reolaethol am fod yn ddefnydd effeithiol o adnoddau. I'r gwrthwyneb, mae'r dystiolaeth sydd ar gael (sydd yn brin rhaid cyfaddef) yn awgrymu bod uno ysgolion yn erbyn eu hewyllys yn gyrru safonau addysgol i lawr. Mae swydd ddisgrifiadau'r swyddi newydd arfaethiedig yn wirioneddol broblematig. Ymddengys bod disgwyl i ddeiliaid y swyddi newydd 'arwain yn gymunedol a ieithyddol'. Dydi hyn ddim yn rhan o swydd pennaeth yn ol diffiniad statudol y swydd honno. Mewn geiriau eraill bydd deiliaid y swyddi newydd yn cael eu talu am gyflawni tasgau nad oes unrhyw ffordd o'u gorfodi i'w cyflawni.
Mae'r pwynt ynglyn a effaith ffederaleiddio ar safonau yn un y gellir ei ddadlau hyd Sul y Pys, ac yn abesnoldeb tystiolaeth ddigamsyniol, gwell fyddai cytuno i anghytuno, dwi'n credu.
O ran yr "arwain cymunedol a ieithyddol", mae'r peth yn amlwg yn ffwlbri. Yn bersonol, dwi'n credu mai sop i'r gwrthwynebwyr yw hyn, er mwyn ceisio ail-feddianu'r rhethreg "cymunedol". Hynny yw, gweithred wleidyddol, hen unrhyw bwrpas ymarferol, yw cynnwys y cymal hwn.
GT a ddywedodd:(2) Er mwyn talu am yr haenen hon (ac mae'n rhyfeddol o ddrud - yn ddrytach na Chanolfan Denis Arfon a Phwll Nofio Bangor efo'i gilydd) ni fydd llawer o adnoddau i'w dosbarthu i ysgolion mawr trefol, lle mae gwariant y pen y plentyn yn isel. Er enghraifft yn Ysgol yr Hendre - ysgol fwyaf y sir o ddigon mae'r cynllun hwn fel mae'n sefyll yn gwarantu cynnydd o £60 y plentyn y flwyddyn. Piso dryw yn y mor ydi hyn - digon i gyflogi un gweinyddes - ar y gorau. Neu i edrych arno mewn ffordd arall mae'n bosibl dadlau mai cau fydd Ysgol Llanystumdwy er mwyn cyflogi gweinyddes ychwanegol yn yr Hendre.
Neu ffordd arall o edrych ar y peth yw fod Ysgol Llanystumdwy yn cau er mwyn adeiladu Ysgol Ardal yng Nghricieth?
Y pwynt dwi'n ei wneud yw bod y newidiadau arfaethedig yn digwydd er mwyn creu trefn gyllidol sydd yn fwy cynaladwy a theg yn y tymor hir, nid er mwyn symyd arian o'r wlad i'r dre yn y tymor byr. Ti'n iawn i nodi y bydd costau gweinyddol y cynllun yn y blynyddoedd cyntaf yn uchel, ond dwi'n tybio mai dyma'r pris sy'n rhaid ei dalu am system hir-hoedlog.
GT a ddywedodd:(3) Nid ydi'r cynllun mewn gwirionedd yn delio efo'r gwahaniaeth mewn gwariant y pen - ond bydd yn ei guddio. O osod cyllid ysgol fechan iawn mewn cyfundrefn ffederal yna mae'r gwariant yn ymddangos yn is gan bod nifer y plant yn y tair neu bedair ysgol yn cael ei rannu efo cyfanswm cyllid y dair neu bedair ysgol. Ond, os ydi'r safle fechan yno o hyd mae'r gwariant y plentyn ar y safle honno yr un mor uchel ag erioed - ond gyda dau wahaniaeth - nid oes rhaid cyhoeddi'r ffigwr a bydd y faich o gynnal yr ysgol yn cael ei drosglwyddo oddi wrth y gyfundrefn yn ei chyfanrwydd i ddwy neu dair uned arall yr ysgol ffederal.
Ti'n dewis disgrifio'r hyn sydd yn digwydd fel "cuddio" y gwariant y pen. Ond dwi'n credu mai'r hyn a ddigwyddith o dan y drefn newydd yw y bydd cyfrifoldeb dros y gwariant uchel yn cael ei drosglwyddo i lywodraethwyr yr ysgolion ffederal - a felly ei ddatganoli i lawr i lefel leol. Fydd y gwahaniaeth cyllidol ddim yn diflannu, ond yr hyn a ddigwyddith yw y bydd yn rhaid i'r gymuned leol benderfynnu ar werth cynnal safle gyda nifer fach iawn o blant, yn hytrach na dibynnu ar Gyngor Gwynedd i benderfynnu ffawd y lle.
Yn hyn o beth, mae Cymdeithas yr Iaith, a nifer o'r rhieni, wedi deallt peryglon ffederaleiddio i ysgolion bychain. O dan y drefn bresennol, arian o'r gyllideb addysg ganolog sydd yn cynnal ysgolion bach gwledig. Mewn ysgol ffederal, bydd y safleoedd mwyaf yn gorfod cynnal y safleoedd llai, gan olygu y bydd pwysau yn dod o du'r safleoedd mawr i gau y rhai bychain. Byddai rhieni mewn ardaloedd gwledig yn gorfod wynebu cost cynnal ysgolion bychain. Fy hun, dwi ddim yn gweld bod hyn yn ddrwg o beth, gan ei fod yn gorfodi rhieni i wynebu realiti llywodraeth leol.
GT a ddywedodd: Byddai cau llai o lawer o ysgolion a dosbarthu'r arian fydd yn deillio o'r cau hwnnw i gyllidebau ysgolion er mwyn creu swyddi i athrawesau a gweinyddesau yn hytrach nag i greu haenen reolaethol NHSaidd yn ddefnydd llawer callach o adnoddau prin.
Dwi ddim yn siwr os yw hi'n deg ceisio troi'r penaethiaid ffederal newydd yn rhyw fath o fwystfilod biwrocrataidd. Mewn ysgol fach, mae'r baich o orfod gweinyddu ysgol yn golygu bod y penaeth yn aml yn gorfod dewis rhwng y gwaith papur a'r disgyblion. O dan y drefn newydd, mae'r penaethiaid safle yn cael eu rhyddhau i dreulio llawer iawn mwy o amser yn gweithredu fel athrawon, yn hytrach na rheolwyr.
Wedi'r cyfan, mae ein hysgolion uwchradd ni wedi mynd i lawr y trywydd hwn - y penaeth fel rheolwr, gyda'r dirprwyon yn gweithredu fel prifathrawon traddodiadol - ers blynyddoedd lawer, a hynny yn llwyddianus.