Cau ysgolion yng Ngwynedd

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan dewi_o » Sul 18 Tach 2007 9:12 am

Y gwir yw na all unrhyw un gaddo peidio cau ysgolion. Mae'n rhaid i unrhyw plaid gwleidyddol gwneud penderfyniadau pwysig ac weithiau rhai amhoblogaidd. Does neb eisiau geld ysgolion lleol yn cau yn enwedig yng Nghefn Gwlad Cymru, ond weithiau does dim dewis. Os mae penderfyniadau'n cael ei wneud ar sail dyfodol y plant yna weithiau yr unig ateb yw cae ysgolion sy'n rhy fach i gynnal eu hunain.
Gwyn fyd cefnogwyr pel droed Wrecsam a Chymru:
Gwyn eu byd y rhai sy'n disgwyl dim, ni chant eu siomi.
Rhithffurf defnyddiwr
dewi_o
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 213
Ymunwyd: Sul 13 Mai 2007 9:52 am
Lleoliad: Caerffili

Postiogan Tshiffalaffs » Llun 26 Tach 2007 2:00 pm

Allai yn sicr ddim cytuno gyda hynny. Pe tai holl deuluoedd Cymraeg Comins Coch (sef rhyw 5?!) wedi anfon eu plant i Gomins Coch fydde fe ddim mwy na diferyn yn y mor. Os oess fy rhieni am i mi gael addysg Gymraeg roedd yn rhaid iddyn nhw fynd a ni mewn i'r dre - i fy rhieni roedd addysg Gymraeg yn bwysicach, amwni, na bod yn rhan o fywyd cymunedol 'seisnig' Comins Coch. Wrth gwrs mae'r balans dal yn bosib i'w ennill yn Rhydypenau ond erbyn i fy nheulu gyrraedd Comins Coch yn 1989 roedd y balans eisioes wedi ei golli.[/quote]

Un sgil-effaith i hyn, yw'r ghettoisation o'r Gymraeg mewn ardaloedd lle tan yn gymharol ddiweddar, y Gymraeg oedd y brif iaith. Efallai ei bod yn braf cael Ysgol Gymraeg benodol, fel sydd yna yn Aberystwyth, Llanelli a Chaerfyrddin, ond mae'n agor y drws i gadw'r neu droi'r ysgolion cynradd eraill yn y cylch yn Saesneg, gan fod yna 'ddarpariaeth' mewn lle ar gyfer y rhai sy'n teimlo'n ddigon cryf i fynnu addysg Gymraeg i'w plant. A fod yn gwbl onest, sai'n gallu gweld unrhyw gyfiawnhad am ysgolion cynradd Saesneg eu cyfrwng yng Ngheredigion o gwbl. Mae'r holl blant sy'n gadael Ysgol Penglais heb fawr fwy nag ychydig eiriau o Gymraeg yn gywilyddus, ond mae hefyd yn beryglus, gan eu bod wedi cael neges glir nad yw'r Gymraeg yn rhan annatod o hunaniaeth yr ardal, gan nad oedd neb mewn gwirionedd yn disgwyl iddynt ei dysgu. Gwelir yr un peth yn wir mewn ardaloedd sydd ag ysgolion wedi eu ffrydio yn ôl iaith, sef cenedlaeth o blant i fewnfudwyr (gweler Llambed, CNE neu Llandysul) sy'n gweld y Gymraeg fel rhywbeth heb unrhyw berthnasedd iddynt hwy a heb unrhyw 'legitimyddiaeth' (os oes y fath air mewn bod). Efallai yr hyn wi'n ceisio ei ddweud - mewn ffordd hirwyntog - yw bod sefydlu, neu ganiatai bodolaeth ysgolion Saesneg mewn ardaloedd Cymraeg yn ffordd o ddweud mai "cymuned Saesneg yw hon'. Os am y Gymraeg, cerwch rhywle arall."
Twp fel sledj.
Tshiffalaffs
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 24
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 8:45 pm
Lleoliad: Brongwyn

Postiogan Mihangel Macintosh » Iau 29 Tach 2007 9:52 pm

Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan GT » Llun 10 Rhag 2007 11:34 pm

Penfoel a ddywedodd:Mae ail drefni darparith addysg yn ysgolion cynradd Gwyned yn hanfodol, mae yn fater sydd wedi cael ei esgeuluso ers degawdau.

Roedd cynghorwyr Gwynedd ar fin llusgo, yn cicio a sgrechian, yr ysgolion yma i mewn i'r unfed ganrif ar hugain. Ond gan ei bod yn dymor pryni ddyddiaduron fe sylweddolodd rhywun fod yna etholiad ar y gorwel.

Dewis i'r Blaid oedd, ail drefnu addysg Gwynedd nei gohirio'r penderfyniad a safio crwyn cynghorwyr Plaid ar draul addysg y plant.

Cywilydd arnynt.


O diar, un neges yn unig a honno'n nonesns di ystyr o'r dechrau i'r diwedd.

Dechrau hynod o an addawol i yrfa ar faes e.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Iwan Rhys » Maw 11 Rhag 2007 1:16 pm

GT a ddywedodd:O diar, un neges yn unig a honno'n nonesns di ystyr o'r dechrau i'r diwedd.

Dechrau hynod o an addawol i yrfa ar faes e.


Mae sawl un wedi cael gyrfa lewyrchus iawn o wneud hynny, ar faes-e a thu hwnt! :lol:
Fel mollusc yn syrthio i gysgu, neu fel dwy falwen yn caru, siwr o bleser yw blasu'n ara' deg y gwyn a'r du.
Iwan Rhys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 219
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 11:28 pm
Lleoliad: Wellington, Seland Newydd

Postiogan Angharad Clwyd » Maw 11 Rhag 2007 2:51 pm

Dwi'n cytuno gyda nifer o'r cyfranwyr nad yw'n bosib i'r status quo barhau, y brif broblem yn fy marn i yw mai 2 opsiwn yn unig y mae'r Cyngor yn cynnig ar draws y sbectrwm sef 1. Cau Ysgol 2. Un model o Ffedereiddio. Fel y dywed Lleucu mae'r model y mae'r Cyngor yn ei gynnig ddim ond yn caniatau i ysgolion a niferoedd eithaf mawr o blant i ffedereiddio. Nid oes opsiynau i 3 ysgol fach fel yn achos 2 o'r ysgolion yn Ysgol Carreg Hirfaen yn Sir Gar i ffedereiddio.

Dwi'n deall fod yna wendid gyda'r system o ffedereiddio yn gyffredinol - gan fod yna beryg i rai o'r safleoedd gau ar unrhyw adeg. Ond fe fydd, erbyn Haf 2008 ateb i hyn. Mae'r Cynulliad ar hyn o bryd yn edrych ar ffyrdd eraill i ysgolion gydweithio drwy rannu prifathro a chyfleusterau heb orfod ffedereiddio. Gobeithiaf yn fawr y bydd y Cyngor ddydd Iau yn pleidleisio dros beidio a chael ymgynghori statudol mewn unrhyw ysgol tan iddynt dderbyn y canllawiau ar yr opsiwn newydd yma oddi wrth y Cynulliad.

Cofiwch felly am y brotest ddydd Iau am 12pm tu allan i'r Cyngor. Mae'r Cyngor yn amlwg wedi gwrando i raddau drwy leihau nifer yr ymgynghoriadau statudol mewn ysgolion, o 36 ysgol i 7 ysgol ac maent wedi caniatau 4 mis o ymgynghori anstatudol ar yr holl gynllun. Ond mae angen o hyd i ni brotestio ddydd Iau gan ofyn iddynt i nodi'r cynllun ad-drefnu ysgolion yn hytrach na'i dderbyn ac i aros tan Medi 2008 i ddechrau ar yr ymgynghori statudol.


Datganiad i'r Wasg - Cymdeithas yr Iaith

DYFODOL YSGOLION PENTREFOL GWYNEDD
DALIWCH I BWYSO MEDD CYMDEITHAS YR IAITH

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar ymgyrchwyr dros ysgolion pentrefol Cymraeg i ddod yn llu i'r brotest yng Nghaernarfon cyn cyfarfod allweddol Cyngor Sir Gwynedd, am 12 o'r gloch Dydd Iau yma (13/12/07).

Dywed y Gymdeithas fod y pwysau o gymunedau lleol eisioes wedi llwyddo i newid strategaeth y Cyngor Sir ac mai'r werth yw fod angen pwyso o hyd.

Dywed llefarydd y grwp Ffred Fransis,

"Mae'r rhaglen a fydd o flaen y Cyngor Sir ar fore Iau yn hollol wahanol i'r hyn fu o flaen y pwyllgor craffu fis yn ol. Bryd hynny dywedwyd mae'r bwriad oedd cyhoeddi yn Medi nesaf, Rhybyddion Statudol i gau hyd at 36 o ysgolion (Categori A), naill ai ar gyfer cau parhaol, neu ar gyfer ad-drefnu. Fe allai hyn wedi golygu llai na 2 ddiwrnod yr un i ystyried tynged pob ysgol. Mae'r Cyngor wedi cytuno bellach y fe allai hynny fod yn sarhad ar y cymunedau lleol, yn weinyddol amhosibl, ag yn anghyfreithlon, gan na ellid rhoi sylw teilwng i bob ysgol.

"Erbyn hyn mae'r Cyngor wedi cytuno y bydd trafodaeth ar yr holl gynllun am y pedwar mis nesaf, ac mae wedi gostwng o 36 i 7 nifer yr ysgolion y bwriader penderfynnu ar eu tynged erbyn mis Medi nesaf. Mae'r Cyngor hefyd wedi cytuno i ystyried posibiliadau eraill; o ysgolion yn cydweithio gyda'i gilydd lle nad oedd o'r blaen, parodrwydd i ystyried Ysgolion Ardal neu un model craidd o ffederaleiddio"

LLONGYFARCHIADAU

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi llongyfarch ymgyrchwyr am gweithio'n ffyddlon dros eu cymunedau lleol ac yn falch fod y pwysau eisioes wedi dwyn rhywfaint o ffrwyth. Mae'r Gymdeithas hefyd yn llongyfarch Cyngor Sir Gwynedd am y barodrwydd i wrando a newid eu cynlluniau.

GALW AM WELLIANT

Mewn neges i bob gynghorydd sir, mae'r Gymdeithas wedi galw am basio gwelliant 3 chymal yn y cyfarfod Dydd Iau yma,

1. Bod y Cyngor yn 'nodi' yn hytrach na 'cymeradwyo' strategaeth er mwyn dangos bydd trafodaeth deg ag agored a nad oes penderfyniadau wedi eu cymryd o flaen llaw.
2. Na bydd unrhyw ymgynghori statudol am ddyfodol hyd yn oed y 7 ysgol sydd yn wedill yn category A tan yr Hydref nesaf, er mwyn caniatau amser am drafodaeth ar strategaeth cyfan.
3. Bod diwigiad o amserlen ymgynghori statudol ar gyfer 2008-2009, gan na ellid gwneud cyfiawnder ag achosion unigol trwy geisio penderfynu ar ddyfodol dros dau ddwsin o ysgolion mewn blwyddyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Angharad Clwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 125
Ymunwyd: Maw 25 Mai 2004 8:35 am
Lleoliad: Llandysul

Postiogan Garnet Bowen » Iau 13 Rhag 2007 11:59 am

Cath Ddu a ddywedodd:

Na, dadl ffals i drio rhoi rhwysg 'cenedlaetholgar' i benderfyniad gwael gan Gyngor Gwynedd yw'r ddadl yma fod ysgolion bach = gwario ar fewnfudwyr (briadd yn hiliol hefyd a dweud gwir).


Fe fuo 'na drafodaeth faith o hyn yn y gorffennol, ac fe fues i drwy holl adroddiadau Estyn Gwynedd yn ceisio ateb y cwestiwn yn ystadegol. O ddefnyddio canran y plant sydd o gartrefi uniaith Gymraeg fel mesur, mae ysgolion bach a mawr yn rhannu lefel debyg iawn o Gymreictod. Felly mae hi'n amhosib dweud fod ysgolion bach yn fwy Cymraeg nac ysgolion mawr yng Nghwynedd, a vice versa.

Ond dwi'n credu ei bod hi'n annheg beirniadu cefnogwyr cynllun Gwynedd am wneud y ddadl yma. Hynny yw, Cymdeithas yr Iaith sydd wedi penderfynny gwneud hon yn ddadl ieithyddol - dyna pam fod carpetbaggers o Sir Gar yn arwain ymgyrch yng Ngwynedd.

Cath Ddu a ddywedodd:Os am gau ysgolion oherwydd pwysau arian (dyna'r rheswm spin yw'r gweddill) yna beth am ofyn cwestiwn neu ddau sylfaenol am wariant canolog Cyngor Gwynedd?


Ti'n gwybod bod gen i barch mawr ata ti, Gath, ond mae hon yn ddadl gwbl anheilwng ohona ti. Wrth gwrs fod rhaid edrych ar sut mae Cyngor Gwynedd yn gwario gweddill ei chyllideb. Ond dyw'r ffaith fod gwastraff yn bodoli drwy'r cyngor cyfan ddim yn cyfiawnhau gwastraff yn yr adran addysg. Yn ol dy resymeg di, mae hi'n berffaith dderbynniol cynnal y status quo gwarthus ym maes addysg, cyn belled a bod Gwynedd yn dod o hyd i arbedion mewn adrannau eraill. Onid y safbwynt call yw dweud y dyliau ad-drefnu addysg fod yn gam cyntaf mewn ad-drefnu y modd y mae cyllideb Gwynedd yn cael ei wario?

Beth bynnag, mae 'na dro byd ers i mi gyfrannu at y maes, ond dwi'n siwr y byddai yr un mod amhoblogaidd ac erioed wedi'r neges hon.

Mae addysgu rhai o blant Gwynedd yn costio tua £2000 o bunoedd y flwyddyn, tra bo addysg plant eraill yn costio £10,000. Bydd y cynllun hwn yn lleihau'r gwahaniaeth, gan ddod a chost addysgu'r plant drytaf i lawr i £5000. Bydd mwy o gyfartaledd rhwng gwariant, a mwy o arian yn cael ei wario ar addysg y plant sydd, ar hyn o bryd, yn cael bargen wael iawn.

Onid tegwch sylfaenol ydi hyn? Onid yw'r rhan fwyaf o aelodau Cymdeithas yr Iaith yn credu'n gryf mewn brwydro anghyfianwder? Felly beth am yr anghyfiawnder o gymeryd arian o bocedi plant ardal fel yr Hendre - un o ardaloedd mwyaf di-freintedig, a Chymreiciaf Cymru - i gynnal hanner dwsin o blant yn Rhydygwystl?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Lals » Iau 13 Rhag 2007 2:26 pm

Clywch clywch.
"ti'n gwybod be i neud pan dwisio mwytha"
Lals
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 237
Ymunwyd: Mer 08 Maw 2006 9:27 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan garynysmon » Iau 13 Rhag 2007 2:52 pm

Dwi'n lled-gefnogol o'r cynlluniau yma i raddau. Yr unig beth sy'n fy mhoeni ydi'r 'Superschools' newydd yma.

Fel rhywyn aeth i ysgol fechan ei mhaint (tua 40) o blant, dydi'r syniad o fynd i ysgol efo 100 neu fwy o blant ddim yn gwneud i mi deimlo'n gysurus iawn. Fel ag y mae hi, mae na gynlluniau tebyg yn cymryd lle ar yr Ynys. (Er nad oes unrhyw ffys o fath yn y byd yn cymryd lle yma, yn wahanol iawn i Wynedd)

http://www.ynysmon.gov.uk/upload/public ... rwdwin.pdf

Mae fwy na thebyg fod Llanddeusant am gau. Dydi hi ddim yn anodd dadlau yn erbyn pan mae'n debyg mai ond 17 o blant fydd yno yn y blynyddoedd i ddod. Dydi Llanfachraeth ddim yn bell, a fydd rhyw 60-70 o blant mewn Ysgol newydd wedi'i gyfuno, sydd ddim yn broblem.

Ond a ydi hi'n deg gyrru plant i ysgolion enfawr eu mhaint? Fel rhywyn sydd heb arfer a'r ffasiwn beth, dydi hi'm yn brofiad dychrynllyd i blentyn 4 oed?
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan S.W. » Iau 13 Rhag 2007 3:24 pm

garynysmon a ddywedodd:Dwi'n lled-gefnogol o'r cynlluniau yma i raddau. Yr unig beth sy'n fy mhoeni ydi'r 'Superschools' newydd yma.

Fel rhywyn aeth i ysgol fechan ei mhaint (tua 40) o blant, dydi'r syniad o fynd i ysgol efo 100 neu fwy o blant ddim yn gwneud i mi deimlo'n gysurus iawn. Fel ag y mae hi, mae na gynlluniau tebyg yn cymryd lle ar yr Ynys. (Er nad oes unrhyw ffys o fath yn y byd yn cymryd lle yma, yn wahanol iawn i Wynedd)

http://www.ynysmon.gov.uk/upload/public ... rwdwin.pdf

Mae fwy na thebyg fod Llanddeusant am gau. Dydi hi ddim yn anodd dadlau yn erbyn pan mae'n debyg mai ond 17 o blant fydd yno yn y blynyddoedd i ddod. Dydi Llanfachraeth ddim yn bell, a fydd rhyw 60-70 o blant mewn Ysgol newydd wedi'i gyfuno, sydd ddim yn broblem.

Ond a ydi hi'n deg gyrru plant i ysgolion enfawr eu mhaint? Fel rhywyn sydd heb arfer a'r ffasiwn beth, dydi hi'm yn brofiad dychrynllyd i blentyn 4 oed?


Dwi mond erioed di bod mewn ysgolion mawr a nath o'm drwg i fi fel hogyn bach 4 oed yn sicr. Swn i'n meddwl bod mynd i ysgol o unrhyw faint yn brofiad digon cymhleth ac anodd i blentyn 4 oed dim bwys be di'w faint.

Wrth gwrs byddai'n wych cadw ysgolion ar agor a dwi yn credu bod angen bod yn fwy greadigol wrth gadw ysgolion ar agor. yddwn yn mynd mor bell ag ystyried caniatau i'r Awdurdodau Addysg werthu adeiladau a cyfleusterau i gymunedau lleol gan olygu mae'r Gymuned all gymryd cyfrifoldeb dros sicrhau bod yr adeiladau o'r cyflwr gorau er budd yr holl gymuned. Bydd yr Awdurdodau Addysg wedyn yn gyfrifol am y ddarpariaeth addysg yn yr ysgol hwnne - yr athrawon, adnoddau ac ati.

Dwi yn teimlo bod rhai pobl gan gynnwys pobl sy'n postio negeseuon yma sydd yn clywed "ysgol yn cau" ac yn dechre gweiddi heb feddwl be di gwir goblygiadau hyn. Weles i chydig o Taro 9 dechre'r wythnos oedd yn trafod y helynt yma yng Ngwynedd a gofynwyd i un o'r protestwyr am yr opsiwn o ffederaleiddio ysgolion ac a fyddai hyn yn gallu bod yn gyfaddawd derbyniol. Ei hymateb hi oedd rhywbethb fel " na dim o gwbl. Ysgol i'n cymuned ni dan ni isio". Wel, byddai ysgol ffederal byddai
n rhannu pennaeth ond cadw'r ysgolion mewn ardaloedd ddim yn newid hynny.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai