Cau ysgolion yng Ngwynedd

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan sian » Gwe 14 Rhag 2007 1:18 pm

Ond beth bynnag yw cymhellion y Gath (a pwy ydw i i'w hamau :winc: ) , mae'n rhaid cyfaddef ei fod yn codi pwyntiau dilys iawn ac oni fyse hi'n well treio'u hateb na jest ymosod arno?

Onid bodau dynol yw Toriaid?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan S.W. » Gwe 14 Rhag 2007 1:23 pm

sian a ddywedodd:
Onid bodau dynol yw Toriaid?


Cwestiwn da. Dwi'n cynnig "Na".

:D
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 14 Rhag 2007 1:29 pm

sian a ddywedodd:Ond beth bynnag yw cymhellion y Gath (a pwy ydw i i'w hamau :winc: ) , mae'n rhaid cyfaddef ei fod yn codi pwyntiau dilys iawn ac oni fyse hi'n well treio'u hateb na jest ymosod arno?


Dwi'n cytuno'n llwyr (ond yn anffodus dw i'm y person i gynnal dadl bywiog a doeth!), er yr oll dw i'n ei ddweud ydi bod y Blaid yn cymryd penderfyniad dewr, a bod y sefyllfa bresennol yn anghynaliadwy. Mae 'na gymunedau bywiog yng Ngwynedd sydd heb ysgolion, wedi'r cwbl.

Os bydd pobl am gynnal yr ymdeimlad o gymuned, mi allant; mae'n drist, bron, bod pobl o'r farn na ellid gwneud hynny heb ysgol leol. Dw i'n dallt y pwynt bod rhai pentrefi wedi colli popeth a'r ysgol ydi'r un beth ar ôl, ond pobl leol yn dod at ei gilydd ydi cymuned, nid un adeilad.

O ran yr agwedd gymdeithasol, mae gan y gymuned ei hun gyfrifoldeb i'w cynnal.

Y peth ydi dadl am addysg ac arian a chynaliadwyedd ydi hyn (yn bersonol dw i 'di ffieiddio at Gymdeithas yr Iaith yn troi hon yn ddadl ieithyddol). Yn anffodus, mae'n rhaid cynilo, a lleihau ar aneffeithlonrwydd, ac mae nifer o'r ysgolion hyn, yn ariannol aneffeithiol i'w cynnal.

Er, yn bersonol, hoffwn i weld y newid i ysgolion ardal mwy (sydd wedi digwydd yn llwyddiannus iawn yn Sir Benfro) yn un graddol yn hytrach na chau 29 ar yr un pryd.

Ac onid ydw i'n iawn i ddweud mai'r ymgynghori a fydd yn mynd rhagddi rwan yn hytrach na chau ysgolion? Os nad ydw, dyna ni, ond os felly mae cyfle i wneud y broses yn un raddol o hyd.

sian a ddywedodd:Onid bodau dynol yw Toriaid?


Dw i'm yn gymryd y bachyn :winc:
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Cath Ddu » Gwe 14 Rhag 2007 5:16 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Mae'n rhaid dweud dydi beth mae'r Gath yn ei ddweud ddim yn swnio fel beth y byddai rhywun yn disgwyl gan y Torïaid o gwbl, yr oll mae'n ei wneud ydi achub ar y cyfle i ennill pwyntiau dros Blaid Cymru (ni ellir ei feio am hynny!!).


Mae hyn yn dangos dy ragfarn di Hogyn.

Cymer olwg ar y modd y mae y Toriaid yn trafod y pwnc hwn mewn sir megis Mynwy a hefyd cymer olwg ar safbwynt y Blaid Geidwadol ynghylch hawl rhieni i ddewis torri trywydd eu hunain yn rhydd o ddylanwad yr Awdurdod Addysg (Gwastraffud) yn lleol.

O ystyried ffeithiau yn hytrach na rhagfarn fe fyddet yn gweld fod yna gysondeb rhwng yr hyn dwi'n ddweud a pholisi canolog y Blaid Geidwadol o ran amddiffyn ysgolion gwledig lle bo hynny'n ddymuniad y rhieni.

O ran Sian, diolch am ymateb i Pigog ond wir yr does dim angen fy amddiffyn rhag sylwadau cradur bach sy'n byw am y cyfle i fy ngwawdio yma ar Maes E. Mae ei flaenoriaethau o ran cyfraniadau yn dweud mwy am Pigog nac y mae amdanaf i.

Ar fater arall - swadan i'r Blaid, fi? :rolio:
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Lleucu Roberts » Gwe 14 Rhag 2007 7:18 pm

Siom o'r mwyaf oedd eistedd yng nghyfarfod y Cyngor ddoe a gweld dros ddwy ran o dair o gynghorwyr Gwynedd yn pleidleisio dros newidiadau ysgubol i addysg gynradd y sir, addysg nad oedd dim ond gair da i'w ddweud amdani ychydig flynyddoedd yn ol cyn i ystyriaethau ariannol ddod yn bwysicach na safon addysg a gwerth cymuned.

Cynigiodd Penri Jones welliant doeth a synhwyrol, a alwai ar y gweithgor i gynnwys y dadleuon a leisiwyd yn ystod yr ymgynghoriad (yn cynnwys 50 cyfarfod ledled y sir) cyn llunio'r ddogfen a roddwyd gerbron i'w derbyn neu ei gwrthod ddoe. Golygai y byddai llais gwrthwynebwyr y fath newidiadau eithafol o leia'n cael ei gydnabod wrth fwrw ati i ymgynghori eto, gan roi ychydig bach o hyder y byddai'r gweithgor yn dechrau gwrando ar ambell ddadl yn hytrach na'i diystyru heb ei hystyried o gwbl fel a ddigwyddodd y tro diwethaf. Gwrthodwyd y gwelliant gan ddwy ran o dair o'r cynghorwyr. Roedd eu gwrthodiad yn gyfystyr a gwrthod hyd yn oed gwrando ar lais eu hetholwyr eu hunain - a rhy hawdd yw dweud na fydd eu hetholwyr eu hunain yn barod i wrando ar eu ple nhw am bleidlais pan ddaw Mai, ond mae hynny'n fwy a mwy tebygol, ymddengys.

Pregethodd Dafydd Iwan lawer o eiriau am 'her' a 'newid' ond o geisio crafu'r wyneb, buan iawn y gwelwch nad oedd unrhyw sybstans i eiriau gwag o'r fath. Mae brefu am 'fod yn barod i newid' a 'gofalu rhag ofn newid ar gyfer yr 21ain ganrif' yn iawn os oes angen newid. Byddai cael fy nharo'n ddall ac yn fyddar fory yn newid, ond alla i ddim dweud fy mod yn croesawu hynny i mi fy hun na Dafydd Iwan. Fel dwedais i, doedd dim o'i le ar addysg yr ysgolion llai tan i Gwynedd sylweddoli fod y pwrs yn gwacau - maen nhw wedi cyfaddef hyn eu hunain ar fwy nag un achlysur bellach. Arolygon Estyn sy'n canmol yr addysg, nid fi. O edrych drwyddynt, ni ellir gwahaniaethu rhwng ysgolion ar sail maint / rhagoriaeth. PAM NEWID RHYWBETH SY'N GWEITHIO?

Pres, ynde - a chaued cegau sy'n ceisio rhoi unrhyw reswm arall dros newidiadau mor ysgubol. Ond mae ffederaleiddio'n mynd i gostio bron filiwn o bunnoedd yn fwy i'w weithredu na'r drefn bresennol. Bydd cau'r 29 ysgol yn cyllido hyn ac yn gadael hanner miliwn. Nid plant yr ysgolion mwy fydd yn gweld yr hanner miliwn: bydd yn mynd yn syth at y 30 miliwn - dychmygol ar hyn o bryd gan nad oes grantiau wedi'u cyflwyno amdano eto heb son am gael addewid arno - er mwyn codi 8 ysgol ardal YN Y TREFI A'R PENTREFI MWY O FAINT. Mil a hanner (tua 15%) o blant y sir fydd yn elwa o'r holl newidiadau hyn ar ffurf yr ysgolion newydd sbon hynny. Ni fydd neb eisiau byw yn yr ardaloedd pellennig lle na fydd ysgol yn galon cymunedau - dim ond mewnfudwyr yn chwilio am lonydd a phensiynwyr. Pa wallgofrwydd sy'n cymell Richard Parry Hughes i ddweud felly y gallant ddefnyddio hen adeiladau ysgolion i ddatblygu tai fforddiadwy i deuluoedd ifainc?! Pa deuluoedd ifainc fydd ishe byw mewn pentrefi heb ysgol? Lle mae'r 'joined up thinking'?? A dyna hi ar nifer o gymunedau cefn gwlad. Mae'n ddychryn meddwl mai un gymuned ddinistrwyd gan Gyngor Tref Lerpwl, ond mae Cyngor Sir Gwynedd yn barod i ddinistrio degau.

Mae arolygon wedi dangos fod ffederaleiddio'n system salach - a hyd yn oed y rhai sy'n gefnogol iddi yn sir Benfro yn son am rywbeth pur wahanol i'r hyn mae Gwynedd yn ei argymell. Bydd yr ysgol lle mae fy mhlentyn yn mynd iddi'n ffederaleiddio'n ysgol ag ynddi bron iawn 300 o blant os caiff y gweithgor ei ffordd. Son am ysgolion o rownd yr hanner cant 'ma roedd cefnogwyr y system yn siroedd y de. Alla i ddim gweld bai ar ardal am ddewis ffederaleiddio dwy neu dair o ysgolion a llai na 30 o blant ynddynt - yn wir, mae'n siwr o fod yn ddewis doeth mewn achosion o'r fath. Ond ysgolion o 60, 70, 80 a mwy o blant...? Pedair ysgol? Pa synnwyr?

Wna i ddim mynd yn ol at yr un hen ddadleuon - ond mae'n anodd, achos mae cefnogwyr y newidiadau'n dal i raffu'r un hen ddadleuon o'u hochr hwythau, dadleuon y dangoswyd eu bod yn aml iawn yn gamarweiniol os nad yn gwbl groes i'r gwir.

Yn y bon, mae Gwynedd wedi dewis cau'r drws ar gefn gwlad, yn amharod i weld bod y Gymraeg yn rhan o'r darlun yn hyn o beth ac am droi llygad dall at unrhyw ragoriaethau mewn addysg o'r fath am eu bod am arbed pres.

Wna i ddim gwadu nad yw cynnal adeiladau'n gostus: anfoesoldeb gwario 30m ar wyth ysgol newydd i fil a hanner o blant trefol neu bentrefi mwy yn hytrach na gwario lawer iawn yn llai ar gynnal a chadw sy'n troi fy stumog ac mae llawer iawn o'r bai am system o'r fath ar y Cynulliad wrth gwrs. Dylai Gwynedd wasgu ar y Cynulliad i fynnu fod peth o'r arian yn cael ei roi at gynnal adeiladau sy'n bodoli'n barod - dyna sy'n amgylcheddol gywir - a sylweddoli fod adeiladau fictorianaidd yn aml iawn yn well nag adeiladau'r 60au a'r 70au. Pa synnwyr cael pot o arian ar gyfer adeiladau newydd sbon a chyfyngu hyd at grogi ar yr arian i gynnal yr addysg sy'n bodoli'n barod? Lle Gwynedd yw dadlau hyn gyda'r Cynulliad.

Yn y Cynulliad mae gwreiddyn y drwg - gyda'r blaid Lafur yn fanno'n gwrthod cydnabod bodolaeth cefn gwlad Cymru a'r Gymru Gymraeg ei hiaith. Mae'n gas gen i feddwl fod fy mhlaid (rwy'n dal yn aelod o'r Blaid, ond yn ansicr am ba hyd) wedi mynd i 'rannu awenau grym' a'r fath haid o asynod - ond fedra i ddim meddwl am Blaid Cymru fel fy mhlaid i bellach chwaith: mae'n rhy debyg i Lafur, yn cachu am ben bob dim a oedd unwaith yn bwysig yn ei llygaid, yn rhy ofnus i ddweud wrth y bwli Llafur fod rhai pethau sy'n rhaid eu gwarchod, ac yn llyfu ei din bob gafael. Mae Plaid Cymru yng Ngwynedd - ac eithrio ambell gynghorydd sy'n dal i wybod y gwahaniaeth rhwng pris a gwerth - yn ei dyddiau tywyllaf, a'i hysfa i gadw rhag troi'r drol yng Nghaerdydd yn drewi. Mae hi wedi mynd i ystyried hi'i hun yn bwysicach na'r Gymraeg. Mi wnaiff ei harweinwyr ddal i gredu celwyddau a'r chamarwain uwchgynghorwyr a swyddogion Gwynedd yn wyneb pob gwrthwynebiad - ac mi welan nhw, yn rhy hwyr, fod 'na ben draw i faint o frad all ei phobl hi ei hunan ei oddef.

Mae'n bryd iddynt ddod allan a dweud nad ydynt yn credu fod 'na werth i gymunedau cefn gwlad bellach na'r warchodaeth mae ardaloedd o'r fath wedi'i rhoi i'r Gymraeg, na'r gwerthoedd sydd ynghlwm wrth fywyd y tu allan i'r trefi. O ddilyn eu dadl i'r pen, creu llond llaw o ysgolion enfawr yn nhrefi Gwynedd yw pen draw hyn, un i Ben LLyn, un ym Mhenygroes, un yn Nolgellau, un yn Bala, dwy neu dair yng Nghaernarfon a Bangor a rhyw un neu ddwy arall - dyna fyddai'n dedelfrydol. Ysgolion newydd sbon danlli grai ag ynddynt gyfrifiadur yr un i bob plentyn, athrawes i bob 30 a phennaeth i bob 700 na fydd ganddo affliw o syniad pwy yw neb o'r plant.
Lleucu Roberts
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 10
Ymunwyd: Sad 27 Hyd 2007 5:35 pm

Postiogan Mihangel Macintosh » Sad 15 Rhag 2007 5:31 pm

Clywch clywch Lleucu.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Waen » Sad 15 Rhag 2007 5:44 pm

Gwir pob gair - Lleucu
diwrnod trist

ysgol.co.uk
Rhithffurf defnyddiwr
Waen
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 227
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 2:45 am

Postiogan GT » Sad 15 Rhag 2007 9:55 pm

'Dwi wedi osgoi cymryd rhan yn y drafodaeth yma hyd yn hyn oherwydd fy mod yn broffesiynol gysylltiedig a'r datblygiadau. Serch hynny efallai ei bod yn bryd i mi ddweud gair neu ddau.

I ddechrau, fodd bynnag, dyliwn ddatgan buddiant - 'dwi'n bennaeth mewn ysgol gynradd yng Ngwynedd fydd yn cael ei ffederaleiddio tuag at ddiwedd y broses - os yn wir y bydd y broses yn cyrraedd ei therfyn.

O ddarllen neges Lleucu, mae'n un anarferol yn y ffaith bod ei hawdur yn deall y cynllun yn iawn. At ei gilydd dydi pobl ddim - gan gynnwys rhai sydd wedi dadlau'n groch o'i blaid ac yn ei erbyn ar y cyfryngau. Mae hyn yn rhyfedd braidd gan fod y ddogfen yn ei hanfod yn un syml iawn.

Un neu ddau o bwyntiau cyffredinol i ddechrau:

(1) Dydi hi ddim yn bosibl i pob ysgol yng Ngwynedd (nag yn yr un sir arall) aros ar agor am byth. Mae Cyngor Gwynedd yn gywir pan maent yn dweud bod llai o lawer o blant mewn ysgolion a bod y ffaith bod cymaint o'r ysgolion bellach yn syrthio i'r 'rhwyd diogelu' nes peri straen gwirioneddol oddi mewn i'r gyfundrefn cyllido ysgolion. Mae yna ysgol yng Ngwynedd ar hyn o bryd gyda phedwar o blant, un athrawes a thua dwsin o lywodraethwyr.

(2) Mae'r hyn sydd yn digwydd yng Ngwynedd yn mynd rhagddo mewn cyd destun ehangach. Mae ysgolion yn cau ar hyd a lled Cymru - mewn ardaloedd trefol yn ogystal a rhai gwledig. Yn rhai o gymoedd y De mae'r newidiadau demograffig ar eu mwyaf ysgytwol. Mae'n digwydd hefyd yn rhai o ardaloedd cyfoethocaf Cymru. Fis diwethaf clywodd rhieni Sandy Lane Infants ym Mynwy bod eu hysgol yn cau a bod eu plant am orfod symud i St Mary's Junior.

(3) Byddai peidio a newid y ddarpariaeth a gwrthod ymateb i ganfyddiadau ESTYN a'r Comisiwn Archwilio yn ol pob tebyg yn arwain at golli rheolaeth ar y sector gynradd, a gadael yr holl ddarpariaeth ar drugaredd biwrocratiaid yn Cathays Park.

Felly a derbyn bod rhywfaint o newid yn anochel, y ddau gwestiwn sy'n codi ydi Faint o newid? a Sut fath o newid?

Yn bersonol, byddwn wedi gobeithio y byddai'r Cyngor yn minimeiddio'r cau ac yn ceisio bod mor gost effeithlon a phosibl wrth wneud hynny. Wedi'r cwbl mae'r sector addysg yn bwysig o safbwynt cymdeithasol, ieithyddol ac economaidd. Ysgolion hefyd ydi unig fuddsoddiad y Cyngor mewn llawer o'i chymunedau gwledig. Ceir buddsoddiad anferth mewn trefi, a buddsoddiad aneffeithiol iawn o safbwynt ariannol yn aml. Mae'r colledion a wneir yng Nghanolfan Denis Arfon yng Nghaernarfon a Phwll Nofio Bangor yn ddigon a chodi gwallt dyn.

Yn anffodus mae'r cynllun a gafodd ei fabwysiadu ddydd Iau yn dod yn agos at facsimeiddio'r cau, ac yn gwneud hynny mewn ffordd a allai fod yn hynod o aneffeithiol o safbwynt ariannol.

Gan osgoi mynd i mewn i ffigyrau gormod dyma ar ei symlaf sut y bydd y cynllun yn gweithio.

Cau 29 ysgol.

Agor 8.

Gwario tros i ddwy draean o'r arian a arbedir trwy gau i greu haenen newydd o benaethiaid nad ydynt yn dysgu i reoli dwy, tair neu bedair safle oddi mewn i ysgol ffederal, neu i reoli ysgolion ardal. Nid yw'r cynllun yn manylu ar beth fydd yn digwydd i'r draean arall mwy nag i nodi y bydd yn cael ei wario yn rhywle yn y gyfundrefn addysg.

Rwan, mae problemau gwirioneddol yn codi o hyn, nodaf y rhai amlycaf:

(1) Does yna ddim lle o gwbl i dybio bod yr haenen newydd reolaethol am fod yn ddefnydd effeithiol o adnoddau. I'r gwrthwyneb, mae'r dystiolaeth sydd ar gael (sydd yn brin rhaid cyfaddef) yn awgrymu bod uno ysgolion yn erbyn eu hewyllys yn gyrru safonau addysgol i lawr. Mae swydd ddisgrifiadau'r swyddi newydd arfaethiedig yn wirioneddol broblematig. Ymddengys bod disgwyl i ddeiliaid y swyddi newydd 'arwain yn gymunedol a ieithyddol'. Dydi hyn ddim yn rhan o swydd pennaeth yn ol diffiniad statudol y swydd honno. Mewn geiriau eraill bydd deiliaid y swyddi newydd yn cael eu talu am gyflawni tasgau nad oes unrhyw ffordd o'u gorfodi i'w cyflawni.

(2) Er mwyn talu am yr haenen hon (ac mae'n rhyfeddol o ddrud - yn ddrytach na Chanolfan Denis Arfon a Phwll Nofio Bangor efo'i gilydd) ni fydd llawer o adnoddau i'w dosbarthu i ysgolion mawr trefol, lle mae gwariant y pen y plentyn yn isel. Er enghraifft yn Ysgol yr Hendre - ysgol fwyaf y sir o ddigon mae'r cynllun hwn fel mae'n sefyll yn gwarantu cynnydd o £60 y plentyn y flwyddyn. Piso dryw yn y mor ydi hyn - digon i gyflogi un gweinyddes - ar y gorau. Neu i edrych arno mewn ffordd arall mae'n bosibl dadlau mai cau fydd Ysgol Llanystumdwy er mwyn cyflogi gweinyddes ychwanegol yn yr Hendre.

(3) Nid ydi'r cynllun mewn gwirionedd yn delio efo'r gwahaniaeth mewn gwariant y pen - ond bydd yn ei guddio. O osod cyllid ysgol fechan iawn mewn cyfundrefn ffederal yna mae'r gwariant yn ymddangos yn is gan bod nifer y plant yn y tair neu bedair ysgol yn cael ei rannu efo cyfanswm cyllid y dair neu bedair ysgol. Ond, os ydi'r safle fechan yno o hyd mae'r gwariant y plentyn ar y safle honno yr un mor uchel ag erioed - ond gyda dau wahaniaeth - nid oes rhaid cyhoeddi'r ffigwr a bydd y faich o gynnal yr ysgol yn cael ei drosglwyddo oddi wrth y gyfundrefn yn ei chyfanrwydd i ddwy neu dair uned arall yr ysgol ffederal.

Rwan, 'dwi'n digwydd adnabod y swyddogion a'r cynghorwyr sy'n bennaf gyfrifol am y cynllun - ac mae gen i gryn barch at y rhan fwyaf ohonynt. Mae'n fater o ofid i mi bod cymaint o wawd a sen wedi ei daflu i'w cyfeiriad. Mae arweinydd y cyngor yn wr boneddigaidd a didwyll sydd wedi dangos cryn ddewrder wrth 'werthu'r' cynllun arbennig yma. Er gwaethaf hynny mae gen i ofn bod y cynllun hwn yn sylfaenol wallus. Mae'n cau llawer mwy o ysgolion na sydd rhaid ac yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n hynod o aneffeithiol yn gyllidol.

Byddai cau llai o lawer o ysgolion a dosbarthu'r arian fydd yn deillio o'r cau hwnnw i gyllidebau ysgolion er mwyn creu swyddi i athrawesau a gweinyddesau yn hytrach nag i greu haenen reolaethol NHSaidd yn ddefnydd llawer callach o adnoddau prin.
Golygwyd diwethaf gan GT ar Maw 18 Rhag 2007 6:53 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cath Ddu » Llun 17 Rhag 2007 12:43 am

Y mae DI yn gwadu iddo ddefnyddio'r term 'bradwr'. Mae unigolioin eraill oedd yn y cyfarfod yn datgan fod ei sylwadau'n awgrymu fod safbwynt Penri yn frad i fuddiannau'r Cyngor. Fel y bu i mi nodi - 'bradychu pwy yn union'? Ymddengys i mi ddisgrifio'r sylwadau yn gywir ond fod y defnydd o un gair yn amwys.

Yn dilyn derbyn llythyr digon bygythiol gan DI :crio: dyma ddileu y neges wreiddiol. Nid oherwydd fy mod o'r farn i mi ddweud dim oedd yn sylfaenol anghywir ond oherwydd fy mod yn llawn ymwybodol mai Nic fyddai mewn trafferthion pe byddai DI am wneud cwyn swyddogol am gynnwys Maes E.
Golygwyd diwethaf gan Cath Ddu ar Iau 20 Rhag 2007 1:10 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Darth Sgonsan » Llun 17 Rhag 2007 11:25 am

Hogyn o Rachub a ddywedodd: mae'n benderfyniad sy'n rhaid ei wneud, ac mae Plaid Cymru wedi bod yn ddigon dewr i gymryd y penderfyniad hwnnw, a mae ymgynghori wedi ei chynnal, sy'n rhywbeth nad oes yr un awrdod lleol wedi gwneud.


oes yma ddewrder mewn gwirionedd ar ran Plaid Cymru Gwynedd?
ddydd Mercher fydd Cynghorwyr Mon, Conwy a Phowys lawr yn y Cynulliad yn cwyno am setliadau ariannol gwarthus.
mae'n od a dweud y lleiaf nad ydi Gwynedd yno yn gofyn am fwy o gelc i gadw ysgolion ar agor - ond mae'n wleidyddol hwylus i'r Blaid gadw draw a pheidio troi'r gwch glymbleidiol - ond ai er mwyn peth fely hyn mae pobol Gwynedd wedi foio dros y Blaid?

o ran yr ymgynghori, mae eraill wedi nodi ei fod yn wastraff amser. felly fedri di ddim brolio rwbath oedd yn crap!

o ran Penaethiaid Arweiniol Ysgolion Ffederal - yn ol y swydd ddisgrifiad, mae disgwyl i'r rhain ddysgu pan mae hynny'n ymarferol - felly pan fydd yr esgid ariannol yn gwasgu, fydd Syr yn dysgu ar Safle A pan mae o fod yn Safle B ers tridiau, a does neb wedi ei weld o ar Safle C ers wsos. A lle mae Safle D eto hefyd?!

cytuno efo GT - parch i'r Arweinydd. gyno fo cojones mawr.
ond mae o'n gwerthu dyd

pam ddim rhoi pwll nofio Bangor dan ofalaeth Adran Chwaraeon y Brifysgol, a throi Canolfan Denis Arfon yn Ysgol Denis Arfon?
He who makes a beast of himself gets rid of the pain of being a man
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron