Tudalen 15 o 16

Re: Cau ysgolion yng Ngwynedd

PostioPostiwyd: Iau 05 Meh 2008 6:23 pm
gan GT
Mi fyddwn i'n rhyfeddu petai'r bleidlais yma'n arwain at gau dwsinau o ysgolion.

Re: Cau ysgolion yng Ngwynedd

PostioPostiwyd: Gwe 11 Gor 2008 6:08 pm
gan BOT
Sylwer ar yr adroddiad isod.
Dyma union ddadl gwrthwynebwyr ffedraleiddio yng Ngwynedd.
Gobeithio y bydd y gweithgor newydd yn edrych i gefndir hanes Ysgol Carrreg Hirfaen cyn awgrymu dim i'r dyfodol.

Os ydi rhywun yn adnabod Richard Parry Hughes neu Dafydd Iwan gadewch iddyn nhw wybod.....

SAFLE NEWYDDION BBC 11/7/08
Mae un o ysgolion ffederal Sir Gaerfyrddin yn gorfod cau dau allan o'r tri safle oherwydd strwythur ariannu newydd.
Nos Fercher clywodd rhieni Ysgol Carreg Hirfaen y byddai newid yn y drefn ar ôl y Nadolig oherwydd gostyngiad mawr yn yr arian ar gael oddi wrth y cyngor sir.
Ar hyn o bryd mae'r ysgol ar dri safle gwahanol ym mhentrefi gwledig Ffaldybrenin, Farmers a Chwmann.
Nos Fercher clywodd rhieni y byddai safleoedd Ffaldybrenin a Farmers yn cau.
Mae llywodraethwyr yr ysgol yn disgwyl derbyn rhyw £50,000 yn llai o fis Ebrill nesaf ymlaen.
Dywedodd Gwyneth Richards, cadeirydd y llywodraethwyr: "Ry'n ni wedi bod yn dadlau gyda'r cyngor am dros flwyddyn ynglŷn â'r sefyllfa hollol annheg yma".
Mewn datganiad dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin: "Mae llywodraethwyr Carreg Hirfaen, fel ym mhob ysgol arall, wedi wynebu penderfyniad anodd - cynnig yr addysg orau bosib i'r disgyblion ond hefyd aros o fewn y gyllideb."

Re: Cau ysgolion yng Ngwynedd

PostioPostiwyd: Sad 12 Gor 2008 6:28 pm
gan Cilan
Dyma union ddadl gwrthwynebwyr ffedraleiddio yng Ngwynedd.
Gobeithio y bydd y gweithgor newydd yn edrych i gefndir hanes Ysgol Carrreg Hirfaen cyn awgrymu dim i'r dyfodol.


Yn union - mi fydd yn wylio mawr ar be sy'n digwydd i Garreg Hirfaen. Ond rydan ni angen gwybod mwy o ffeithiau cyn dod i unrhyw gasgliad. Faint o ddisgyblion sy ym mhob safle? Ydi'r niferoedd wedi gostwng, ac ai dyma pam fod y gyllideb £50,000 yn llai? Hefyd, ers pryd mae hi'n ysgol ffederal - fyddai un neu fwy o'r safleoedd wedi cau flynyddoedd yn ol petai nhw heb ffederaleiddio?

Re: Cau ysgolion yng Ngwynedd

PostioPostiwyd: Sad 12 Gor 2008 11:56 pm
gan CapS
BOT a ddywedodd:Sylwer ar yr adroddiad isod.
Dyma union ddadl gwrthwynebwyr ffedraleiddio yng Ngwynedd.
Gobeithio y bydd y gweithgor newydd yn edrych i gefndir hanes Ysgol Carrreg Hirfaen cyn awgrymu dim i'r dyfodol.

Os ydi rhywun yn adnabod Richard Parry Hughes neu Dafydd Iwan gadewch iddyn nhw wybod.....

SAFLE NEWYDDION BBC 11/7/08
Mae un o ysgolion ffederal Sir Gaerfyrddin yn gorfod cau dau allan o'r tri safle oherwydd strwythur ariannu newydd.
Nos Fercher clywodd rhieni Ysgol Carreg Hirfaen y byddai newid yn y drefn ar ôl y Nadolig oherwydd gostyngiad mawr yn yr arian ar gael oddi wrth y cyngor sir.
Ar hyn o bryd mae'r ysgol ar dri safle gwahanol ym mhentrefi gwledig Ffaldybrenin, Farmers a Chwmann.
Nos Fercher clywodd rhieni y byddai safleoedd Ffaldybrenin a Farmers yn cau.
Mae llywodraethwyr yr ysgol yn disgwyl derbyn rhyw £50,000 yn llai o fis Ebrill nesaf ymlaen.
Dywedodd Gwyneth Richards, cadeirydd y llywodraethwyr: "Ry'n ni wedi bod yn dadlau gyda'r cyngor am dros flwyddyn ynglŷn â'r sefyllfa hollol annheg yma".
Mewn datganiad dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin: "Mae llywodraethwyr Carreg Hirfaen, fel ym mhob ysgol arall, wedi wynebu penderfyniad anodd - cynnig yr addysg orau bosib i'r disgyblion ond hefyd aros o fewn y gyllideb."
Tra bod Cymdeithas yr Iaith yn datgan - yn achos ysgol Carreg Hirfaen yn SIr Gar - "...dyma fodel o ysgol ffedereiddiedig sy wedi cynnal presenoldeb mewn nifer o gymunedau bach Cymraeg. Bu'r ysgol mor lwyddiannus yn addysgol fel bod nifer y disgyblion wedi cynyddu'n sylweddol dros y ddegawd ddiwethaf".

Re: Cau ysgolion yng Ngwynedd

PostioPostiwyd: Sul 13 Gor 2008 12:44 pm
gan Hedd Gwynfor
Mae CapS yn iawn wrth gwrs, dyma'r broblem gyda'r model o ysgol ffederal sydd yn bodoli ar hyn o bryd, ac mae consyrn rhieni yng Ngwynedd ynglyn a'r dull yma o ffederaleiddio yn hollol synhwyrol.

Gobeithio y bydd rheoliadau newydd yn dod gan y Cynulliad yn ystod y misoedd nesaf, a fydd yn atal rhywbeth fel hyn rhag digwydd yn y dyfodol. h.y. cyn cau unrhyw safle oddi fewn i ysgol ffederal, bydd rhaid mynd trwy'r un broses o ymgynghori ag sydd gyda cau ysgol cyffredin. Ni fyddai modd i'r Llywodraethwyr (dan bwysau aruthrol gan y sir) gau 'safle' heb unrhyw ymgynghori. Gyda model o'r fath, bydd y ddadl dros ysgolion ffederal yn un llawer cryfach!

Gyda enghraifft Carreg Hirfaen yn benodol, mae Cyngor Sir Gâr wedi newid y drefn gyllido ar gyfer ysgolion, fel bod ysgolion bach yn cael lot llai o arian, ond hefyd maent wedi dileu y cymhorthdal ar gyfer ysgolion Ffederal. Mae hyn yn golygu nad oes unrhyw ffordd yn y byd y gall y Llywodraethwyr gadw'r 3 safle ar agor, er fod nifer y disgyblion rhwng y tair ysgol yn tyfu! Yn ogystal, mae'r Cyngor wedi clustnodi tua £50,000 ar gyfer cario'r disgyblion o'r ddau safle sy'n cau i'r unig ysgol fydd dal ar agor. Byddai £50,000 yn ddigon i sicrhau fod y 3 safle yn aros ar agor. Yn waeth byth, does dim digon o le yn yr un ysgol fydd ar ôl ar gyfer yr holl blant, felly mae'r Cyngor yn bwriadu gwario £200,000 ar 'glorified-portacabin'. :rolio:

Re: Cau ysgolion yng Ngwynedd

PostioPostiwyd: Llun 14 Gor 2008 11:09 am
gan CapS
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Mae CapS yn iawn wrth gwrs, dyma'r broblem gyda'r model o ysgol ffederal sydd yn bodoli ar hyn o bryd, ac mae consyrn rhieni yng Ngwynedd ynglyn a'r dull yma o ffederaleiddio yn hollol synhwyrol.

Gobeithio y bydd rheoliadau newydd yn dod gan y Cynulliad yn ystod y misoedd nesaf, a fydd yn atal rhywbeth fel hyn rhag digwydd yn y dyfodol. h.y. cyn cau unrhyw safle oddi fewn i ysgol ffederal, bydd rhaid mynd trwy'r un broses o ymgynghori ag sydd gyda cau ysgol cyffredin. Ni fyddai modd i'r Llywodraethwyr (dan bwysau aruthrol gan y sir) gau 'safle' heb unrhyw ymgynghori. Gyda model o'r fath, bydd y ddadl dros ysgolion ffederal yn un llawer cryfach!

Gyda enghraifft Carreg Hirfaen yn benodol, mae Cyngor Sir Gâr wedi newid y drefn gyllido ar gyfer ysgolion, fel bod ysgolion bach yn cael lot llai o arian, ond hefyd maent wedi dileu y cymhorthdal ar gyfer ysgolion Ffederal. Mae hyn yn golygu nad oes unrhyw ffordd yn y byd y gall y Llywodraethwyr gadw'r 3 safle ar agor, er fod nifer y disgyblion rhwng y tair ysgol yn tyfu! Yn ogystal, mae'r Cyngor wedi clustnodi tua £50,000 ar gyfer cario'r disgyblion o'r ddau safle sy'n cau i'r unig ysgol fydd dal ar agor. Byddai £50,000 yn ddigon i sicrhau fod y 3 safle yn aros ar agor. Yn waeth byth, does dim digon o le yn yr un ysgol fydd ar ôl ar gyfer yr holl blant, felly mae'r Cyngor yn bwriadu gwario £200,000 ar 'glorified-portacabin'. :rolio:
Dwi ddim yn gwybod yr union sefyllfa yn Ysgol Carreg Hirfaen, ond dyw £50K ddim yn ddigon i rhedeg dwy ysgol. Mae'r ysgolion lleiaf yn tueddu i dderbyn cyllideb refeniw o dros £100K yn flynyddol i staffio a phrynu nwyddau/deunyddiau, heb son am unrhyw gostau cludiant, arlwyo, cynnal a chadw, darpariaeth anghenion arbennig. Mae £50K yn agosach at gost cyflogi un athro hŷn neu brifathro.

Ti'n iawn am y rheoliadau newydd, wrth gwrs. Os ydy'r synnau sy'n dod o'r Cynulliad ar hyn o bryd yn gywir, bydd modd ffederaleiddio ysgolion heb eu cau yn statudol, ac felly byddai'r gwarchodaeth yna'n parhau iddynt.

Re: Cau ysgolion yng Ngwynedd

PostioPostiwyd: Sul 15 Maw 2009 8:05 pm
gan BOT
"Bump"

Dim ond codi'r edefyn yma i fyny i'r top eto, dwi'n amau y bydd cryn drafodaeth eto'n fuan.... :rolio:

Re: Cau ysgolion yng Ngwynedd

PostioPostiwyd: Mer 18 Maw 2009 2:35 pm
gan Lorn
Pam?

Re: Cau ysgolion yng Ngwynedd

PostioPostiwyd: Gwe 20 Maw 2009 9:23 pm
gan Josgin
Mae yna hysbysebion am ddwy brifathrawiaeth wedi ymddangos yr wythnos yma, sef Ysgol y Parc ( 14 plentyn ), ac Ysgol Llanuwchllyn ( 50 disgybl) .
Bydd cyflog y ddau brifathro'n o leiaf £40 ,000 . Ar y llaw arall, mae Ysgol Syr Hugh Owen yn cael ei hamddifadu o athrawon , oherwydd prinder arian.
Mae hi'n anodd dal hi'n bob man , yn tydi hi ?

Re: Cau ysgolion yng Ngwynedd

PostioPostiwyd: Gwe 20 Maw 2009 10:28 pm
gan osian
Josgin a ddywedodd:Mae yna hysbysebion am ddwy brifathrawiaeth wedi ymddangos yr wythnos yma, sef Ysgol y Parc ( 14 plentyn ), ac Ysgol Llanuwchllyn ( 50 disgybl)

Dipyn mwy na dwy dwi meddwl oes?