A oes dyfodol i Gymru?

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: A oes dyfodol i Gymru?

Postiogan celt86 » Maw 10 Meh 2008 7:37 pm

Lle di Penllyn ta? ochra Bala ia? Saffach deud 'Lleyn Peninsula' felly..
Rhithffurf defnyddiwr
celt86
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 71
Ymunwyd: Llun 24 Rhag 2007 8:30 pm
Lleoliad: Cymru...Ta Solihull ydi o?

Re: A oes dyfodol i Gymru?

Postiogan osian » Maw 10 Meh 2008 8:59 pm

celt86 a ddywedodd:Lle di Penllyn ta? ochra Bala ia? Saffach deud 'Lleyn Peninsula' felly..

neu llyn wrth gwrs (os mai am yr ardal o pwllheli ymlaen ti'n son).

ma'n well byth efo ^, sut uffar mae ca'l hwnnw?
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: A oes dyfodol i Gymru?

Postiogan Prysor » Maw 10 Meh 2008 9:36 pm

Penllyn sydd ochra Bala. Un gair, efo'r acen ar yr 'e'.

Pen Llŷn - dau air - ydi penrhyn Llŷn.

Dio'm yn rocet saiyns.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: A oes dyfodol i Gymru?

Postiogan osian » Maw 10 Meh 2008 9:42 pm

yn union, jysd bod pobl yn dueddol o son am Lyn fel Pen Llyn.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: A oes dyfodol i Gymru?

Postiogan sian » Maw 10 Meh 2008 9:51 pm

osian a ddywedodd:yn union, jysd bod pobl yn dueddol o son am Lyn fel Pen Llyn.


Aha! Lle mae Llŷn felly? a lle mae Pen Llŷn yn dechrau?
Llithfaen a Phwllheli yn Llŷn?
Aberdaron ym Mhen Llŷn?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: A oes dyfodol i Gymru?

Postiogan osian » Maw 10 Meh 2008 10:03 pm

sian a ddywedodd:
osian a ddywedodd:yn union, jysd bod pobl yn dueddol o son am Lyn fel Pen Llyn.


Aha! Lle mae Llŷn felly? a lle mae Pen Llŷn yn dechrau?
Llithfaen a Phwllheli yn Llŷn?
Aberdaron ym Mhen Llŷn?

Pen Llŷn = Penrhyn Llŷn. Sef y penrhyn sy'n sticio allan i'r mor o ochra' Porthmadog ymlaen. Llŷn ydi'r ardal, fatha Eifionydd ac Arfon ayb.
Ma' Pwllheli yn Llŷn, o ran Llithfaen, dwi wastad 'di cymryd fod y ffin rwla tua'r Eifl, rhwng Pwllheli ac Abererch, ond dadl arall 'di honno mewn gwirionedd.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: A oes dyfodol i Gymru?

Postiogan Muralitharan » Maw 10 Meh 2008 10:44 pm

osian a ddywedodd:yn union, jysd bod pobl yn dueddol o son am Lyn fel Pen Llyn.


Nid dyna'r pwynt. Be' sy'n fy ngwylltio i ydi anwybodaeth petha' ifanc Radio Cymru (a'u cyflogau mawr am wn i) nad ydyn nhw'n gwybod y gwahaniaeth rhwng Pen Llŷn a Phenllyn. Ond wedyn, fe glywais i un ohonyn nhw rywdro yn sôn am "Farblis Elgin"...!!
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: A oes dyfodol i Gymru?

Postiogan osian » Mer 11 Meh 2008 1:16 pm

Muralitharan a ddywedodd:
osian a ddywedodd:yn union, jysd bod pobl yn dueddol o son am Lyn fel Pen Llyn.

Nid dyna'r pwynt.

Wel, ia... ond nid dyna bwynt yr edefyn yma.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: A oes dyfodol i Gymru?

Postiogan Macsen » Mer 11 Meh 2008 1:29 pm

Muralitharan a ddywedodd:Ond wedyn, fe glywais i un ohonyn nhw rywdro yn sôn am "Farblis Elgin"...!!

:lol:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: A oes dyfodol i Gymru?

Postiogan gogogasnewydd » Mer 11 Meh 2008 5:26 pm

Rhaid i fi ddweud fy mod i'n cytuno'n llwyr efo rhai sy'n trio bod yn bositif ynghlyn a cwestiwn 'ma. Mae dyfodol i Gymru ond mae rhaid i ni fel cymry cadw'r fflam yn tanio. Wrth gwrs mae 'na gwendidau a'r dylanwadau cryfion sy'n effeithio ni ond mae hynny yn wir dros y byd. Mi oedd na lawer iawn o achlysuron dros y blynyddoedd pan mi allai Cymru wedi marw ond nawr, am y tro cyntaf ers Owain Glyndwr, mae gynnon ni gyfle i ail adeiladu'r cenedl a chreu dyfodol i'n pobl. Mae rhaid i ni symud 'mlaen a mae hynny'n golygu bod rhaid i ni ymdopi i'r dyfodol yn hytrach na rhoi gorau i'r ymdrechion sy wedi cael eu gwneud dros y ddeugain blynedd diwetha.
Dw i'n gwybod bod 'na lot o bwys ar yr iaith yn y fro, ond mae'r iaith yn tyfu mewn ardaloedd eraill a mi ddylwn ni adeiladu ar y cynyddau sy wedi bod yn hytrach na phoeni trwy'r amser am y dyfodol. Fel arall, mae 'na beryg bod yr holl beth yn dod rhywfath o 'self fulfilling prophecy' os ydy'r prophets of doom yn domindeiddio'r dadl.
gogogasnewydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Maw 29 Ebr 2008 8:29 pm
Lleoliad: Casnewydd, Cymru

Nôl

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron