A oes dyfodol i Gymru?
Mi roedd boddi Tryweryn yn y 60'au wedi datgelu y nerth ar grym oedd gan Lloger dros Cymru. Erbyn heddiw ni fyddach yn disgwyl i drychineb o'i fath ddigwydd eto...wel, mae Cymru dal o dan rheolaeth y Saeson, ac maen't gyda puppet yn y Cynulliad, Peter Hain. Mae Lloegr yn sychedig am fwy o ddwr Cymru, ac mae yna cynlluniau i foddi mwy o gymoedd er mwyn i'w drosglwyddo i dde-ddwyrain Lloegr. Wel, mi wnaeth y Cynulliad gwych ma sydd genom ni rhwystro y fath beth...reit? wel, NA! Mae Peter Hain wedi ysgrifennu 'clause' mewn 'future bill' sydd yn gwneud yn siwr na fyddai'r cynulliad efo'r grym i wneud pendefyrniadau dros dwr Cymru. Mae'r grym hyn yn aros yn Llundain, gyda'r Saeson. Felly, os fyddai'r cynulliad ar Cymry yn erbyn y fath gynllun, mae'n debyg fyddai'r Saeson yn bwrw mlaen gyda boddi cwm oherwydd, 'Its only Wales isn't it!' A yw Cymru dal yn Coloni Lloegr?
Erbyn heddiw, mae'r Saeson wedi ail-ddarganfod eu hunaniaeth Saesnigaidd. Mae'r St Geroge's cross wedi cymryd drosodd o'r Union Jack, ac mae llawer mwy o Saeson yn awr yn gweld eu hunain yn fel Saeson yn unig, yn hytrach na fel Prydeinwyr. Mae hyn y dda o beth wrth gwrs, gan ei fod yn gwanhau'r syniad yma o Brydain ac i fod yn Prydeiniwr, sydd yn nawr yn marw allan. Ond, ar y llaw arall, mae'n afiach o beth gweld yr holl fflagiau Lloegr yng Nhgymru a'r holl bobl sydd yn mynd o gwmpas yn gwysgo crysau Lloegr. Yn wir, mae nifer
o'r Saeson sydd yn dod yma i fyw yn dysgu yr iaith, rhaid cofio hyny, ond mae'n wir dweud eu bod yn y lleiafrif. Mae rhan helaeth o Saeson syn dod yma i fyw yn hiliol ac yn 'little Englanders.' Mae'r mewnfudwyr yma yn cynnwys Hippies: Ewch i CAT-Centre for Alternative Technology ger Machynlleth, Hippies Saesnig yw 98-99% or staff, sydd ddim eisiau
gwneud dim byd efo'r Cymru ond byw bywyd 'alternative' gydai 'clique' Seisnigaidd. Mi wnaeth S4C gwnued rhaglen ar CAT rhyw cwpwl o flynyddoedd yn ol, a dim ond 1!ia, 1! aeolod o staff a oedd yn medru siarad Cymraeg allan o staff o bron i 80, ac yn y caffi oedd
y person yna yn gweithio. Mae CAT di bod yna ers bron i 30 mlynedd, eto mae'r sefydliad yn gwbl Seisnigaidd. Ac wrth gwrs, ni allwn anghofio am yr henoed ceidwadol sydd wedi dod yma 'for a quite retirment.' Y mewnfydwyr hen yma sydd yn debygol o edrych yn flin arnoch
pan rydych yn siarad Cymraeg, ac yn debygol o ddweud 'Don't speak that language here.' Ar y bws unwiath, mi glywais dau hen ddynas Saesneg yn siarad am y Cymru. Mi roeddynt yn trafod faint o Gymraeg oedd yn cael ei siarad mewn trefi, ac yn cymryd balchder or ffaith bod
y Gymraeg yn diflanu mewn ambell i lefydd, "There is a lot of English in Dolgellau now, it's not that Welsh, not like 'Portmadoc', I think that's quite Welsh still..." Er bod Porthmadog yn eitha Saesnigaidd erbyn heddiw. Agwedd fel hyn mae nifer or Saeson yn ei gario, 'Love the scenary and landscsape, but hate the Welsh languageand people.' Maen't yn dod i 'Waiws' (fel maen't yn ei alw) a'i droi yn rhan o Loegr gan nad ydynt eisau mabwysiadu yr iaith na'r diwylliant Gymraeg. Mae'r 'problem families' yma sydd wedi cael eu 're-locatio' o Loegr i trefi bach Cymru yn cael effaith mawr ar y gymuned. Mae nhw'n Saeson rhonc, ac mae'r Chavs Saesnig yma wedi creu hollt yn y gymdeithas, ac maen't yn
hollol wrth-Gymreig. Yn Aberystywth unwaith mi roedd fi an ffrindiau yn siarad Cymraeg, nes i'r Chav Sais ma dod a dweud, "What's with all the Welsh!" Fel Cymro Cymraeg, mae siarad Cymraeg wedi dod a fi mwen ambell i helynt gyda Sais. Pam?! Fy Nhgwlad i ydi Cymru, pam
ddyla fi deimlo'n anifir bob tro dwi'n siarad Cymraeg! Pam rhaid i fi fod yn atebol i rhyw Sais hiliol?
Mae Saeson sydd yn dod yma ar wylia yn disgwyl Cymru i fod yn llawn o bobl Cymraeg. Fel person sydd wedi gweithio tu ol i bar mewn tafarn/hotel prysyr, mi roedd hi'n rhyfedd clywad ymwelwyr yn deud petha fel, "Every hotel I have stayed in so far in Wales were owned by English people" a gan mae Saeson, suprise suprise, oedd yn berchen ar y dafarn oeddwn i yn gweithio ynddo, mi roedd ymwelwyr Saesneg yn dweud, "Oh, not ran by Welsh people then?" Roeddwn i yn cael yr argraff bod nifer o Saeson eisiau clywed a gweld pobl Cymraeg, ac roedd nifer yn siomedig gweld a chlywed mor gymaint o Saeson yn y wlad. Mae'n
amlwg bod mewnfudwyr wedi cymryd drosodd y sector twristiaeth yng Nghymru. Faint o dafarndai, Swyddfeydd Bost, Gwestai, B+B ac ati sydd yn cael ei rhedeg gan Saeson? Nifer fawr ohonynt o be dwi di glywed a gweld. Ble mae'r Cymry? Pam nad ydi'r Cymry mor niferus yn y sector twristiaeth? Rydym yn eithaf niferus o ran rhedeg caeau campio ac ati, sydd yn rhan o arallgyfeirio, ond nid mewn busnes sydd yn gwbl debynol ar dwristiaeth.
Mae ffigyrau yn creu darlun eitha llym o sefyllfa Cymru. Ar hyd yr arfordir o Aberdyfi i Harlech, mae dros 70% o bobl wedi cael eu geni yn Loegr! Gorllewin Cymru ydi hwn i fod! Mae archwyliad arall wedi dangod bod 33% o'r poblogaeth ddim yn ystyried eu hunain fel Cymry. Saeson yw rhan helaeth o'r ganran yma mae'n siwr. Mae hyn dros chwarter y wlad! A gyda pethau yn mynd o ddrwg i waeth o ran y niferoedd o Saeson yn dod yma i fyw, dwin siwr mi eith y ffigwr yma fyny. Mae'r Cymry yn lleiafrif mewn aml i ardaloedd yn barod, ydi hin bosib i'r Cymry ddod yn lleiafrif yng Nghwlad eu hunain? A pam dwin dweud 'Cymry' mae hyn yn golygu Cymru Cymraeg a Chymru di-Gymraeg. Rydym i gyd yn Gymry ar diwedd y diwrnod a mae angen ymuno fel un er mwyn lles Cymru.
Rydym i gyd yn dadlau a oes dyfodol ir iaith, ond mewn gwirionedd, mi ddylan ni feddwl, 'A oes dyfodol i Gymru?' Mae'r sefyllfa yn wahanol yn Iwerddon ac yr Alban. Er bod yr iaith Gaeleg dim ond yn cael ei siarad gan % isel iawn, nid ydi hyn yn golygu mai dim ond y % isel hyny sydd yn Wyddel neu'n Albanwr. Ond mae'r sefyllfa yn fwy cymleth yng Nghymru. Yn ardaloedd diwydiannol y De, er bod y iaith yn ennill tir yno, Saesneg yw iaith pob dydd. A ydi hyn yn eu gwneud yn Saeson? Na! Mae acen cryf y cymoedd yn nodweddiadol o fod yn un Cymraeg, ynghyd a diwylliant Rygbi, sydd wrth gwrs, yn nodweddiadol o ddiwylliant Cymru. Ond yn y Fro Gymraeg, i siarad Cymraeg i'w fod yn Gymro. Yn yr ardaloedd hyn, os ydych dim ond yn medru siarad Saesneg, y siawns yw eich bod yn Sais sydd wedi dod yno i fyw. Mae rhan helaeth o bobl sydd yn ystyried eu hunain yn Gymreig yn y Fro yn siarad Cymraeg. Er, erbyn heddiw, mae hi'n drist iawn mynd drwy'r Fro Gymraeg a chlywed mor gymaint o Saeson o gwmpas. Ambell i weithiau nid un gair o Gymraeg i'w glywed. Mae ardaloedd arfordirol fel rhannau bach o Dudley a Wolverhampton ac ambell i lefydd eraill fel Coronation Street. Sut all Cymru parhau i fod yn wlad, os ydi'r elfannau sydd yn ei wneud yn unigryw e.e. Iaith, diwylliant ar Cymry fel pobl, yn cael eu disodli gan elfennau Saesnigaidd ar Saeson?
(Sori am unrhyw wallau sillafu!)