Wrth ddarllen rhai o'r negeseuon'ma, rhaid dweud, dwi rioed wedi dod ar draws unigiolion sydd mor pesimistaidd!!!
Wrth gwrs bod na ddyfodol disglair i Gymru! Os - nad i ni yn meddwl fel'na, wel fe fydd y dyfodol yn ddu. Nawr, dewch mlaen bois!
Y realiti yw fe fydd Senedd gyda pwerau llawn yn cael ei wireddu (cofier y geiriau 'Devolution is a process, not an event'..) - ffaith, ddim yn gwbod pryd, ond fe fydd yn digwydd...
A gyda gwaith caled, fe fydd yr iaith Gymraeg yn cryfhau a datblygu. Wrth gwrs, mae'n rhaid bod yn wliadwrus a pido bod yn complecent, ond rhaid bod yn posotif hefyd !!! Sut felly gall y dyfodol fod yn ddu?
Rhaid stopio hunan dosturi,a ffindo bai ac yn lle, edrych ir dyfdodol yn llawn gobaith a gyda brwdfrydedd!
Sori - i spwylo fe i rhai. ond MAE yna ddyfodol i Gymru