gan Foel Gornach » Llun 14 Ion 2008 10:50 am
Mae pawb yn gytûn fod ynni niwclear yn beryglus. Daw’r anghytundeb ynglŷn â’n gallu i reoli’r perygl, a hynny am gannoedd o filoedd o flynyddoedd i’r dyfodol.
Mae gan rai ffydd anhygoel yn natblygiad gwyddoniaeth. Os nad yw’r gallu gennym heddiw i ddatrys problem gwastraff niwclear, meddant, fe ddaw’r dydd pan fydd y gallu hwnnw gennym; ac yna, hei presto, dim problem. Er mwyn dal y safbwynt hwn mae’n rhaid i berson gael ymddiriedaeth lwyr yng ngrym anorfod ‘datblygiad’ dynol.
Yn bersonol nid wyf yn rhannu’r optimistiaeth honno, fe’i hystyriaf yn ddall gan ddangos diffyg ymwybyddiaeth o’r natur ddynol a thueddiadau hanesyddol.
A yw’n gwareiddiad presennol yn mynd i barhau am gannoedd o filoedd o flynyddoedd i’r dyfodol? Ar hyn o bryd y mae’n rhyw bum mil o flynyddoedd oed; ac yn ystod y cyfnod hwnnw bu bron iddi gael ei chwalu’n llwyr ar sawl achlysur. Os digwydd hynny yn y dyfodol pwy sydd yn mynd i ofalu am y technoleg angenrheidiol i gadw’r gwastraff niwclear yn ddiogel?
Os oes sicrwydd y bydd ein gwareiddiad yn parhau, a yw llywodraeth(au) y gwledydd hyn yn mynd i barhau i fod yn un ‘ddemocrataidd ryddfrydol’ am gannoedd o filoedd o flynyddoedd i’r dyfodol? Pe byddai llywodraeth gormesol yn cymryd drosodd gellir gwneud defnydd hynod ddinistriol o’r dechnoleg hon. Dyma’r ddadl yn erbyn Iran ar hyn o bryd.
Os yw’r dechnoleg yn newydd a diogel ar hyn o bryd, fe fydd yn hen ymhen canrif neu lai. Ni fydd yr hyn sy’n cael ei ystyried yn ddiogel heddiw o reidrwydd yn cael ei ystyried yn ddiogel y pryd hynny. Dirywio yw’r drefn. A fydd yr adnoddau economaidd gennym ymhen canrif i gynnal yr adweithyddion; a fydd yn rhaid torri nôl? Gwyddom o brofiad taw ‘diogelwch’ yw un o’r pethau cyntaf i ddioddef pan fydd toriadau yn cael eu gorfodi ar gwmnïau.
Os taw claddu’r gwastraff a wneir (a dyna’r unig ‘ateb’ sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd); a oes sicrwydd 100% na fydd daeargrynfeydd a phethau cyffelyb yn digwydd dros y cannoedd o filoedd o flynyddoedd nesaf?
Nid yw ynni niwclear yn lân. Mae cloddio’r wraniwm angenrheidiol yn waith peryglus a brwnt ac yn defnyddio llawer o ynni. A beth ddigwydd pan fydd y ffynhonnell wraniwm yn peidio?
Agwedd hunanol ac anfoesol yw’r un sy’n barod i roi problemau enbyd i genedlaethau’r dyfodol er mwyn i ni gael rhyw faint rhagor o foethusrwydd nawr.