gan Dewin y gorllewin » Llun 12 Mai 2008 12:34 pm
Mae unrhyw un sy'n dweud fod Ynni niwclwar yn rhad yn byw ar planed arall. Cymerwch Trawsfynydd - mae'n defnyddio mwy o ynni i gadw'r lle'n cwl a fydd e yn am y can mlynedd nesa, os nad mwy; na wnaeth e gynhyrchu yn ei oes cynta. Mae'n edrych fel fydd rhaid cael rhywbeth yn Wylfa - dim ond i gyflenwi ynni i cadw'r un presennol yn cwl pan fydd yn dod i diwedd ei fywyd cynhyrchiol.
Beth yw'r opsiynau eraill? Yr un amlwg yw ynni gwynt. Rhoi fferm wynt anferth allan ar y mor - cyflenwi ffatri alwniniwm a cadw Wylfa yn cwl. Ond, mae cymaint o alw am tyrbeini, bod prinder yn dod i'r amlwg, a mae eu prisiau yn codi trwy'r amser. Beth am pwer tonnau? Bydd yn cymeryd amser hir i adeiladu, ac erbyn hyn fydd Wylfa di cae a dim byd yn barod i gymeryd ei lle. Pwer hydro - mae'n gweithio ar ambell i argau yng Nghymru, ond mae angen adeiladu un ar pob argau yng Nghymru, a'i defnyddio i gyflenwi pwer yn lleol, felly'n torri lawr ar pris cludo. Ond ymateb lleol fydd hyn nid ateb i anghenion y wlad. Y broblem fawr yw nad oes neb wedi meddwl am beth sydd yn digwydd pan fydd cenhedlaeth cynta y gorsafoedd niwclear yn dod i ben. Gyda'r problemau uchod, dim ond dau posibilrwydd realistig sydd i gael, niwclear, sydd yn annghynaladwy, neu technoleg glo glan, lle mae carbon yn cael ei ddal cyn ei fod yn mynd i'r awyr.
Ond, fel mae pethau wedi mynd nawr, y problem fwya, dros dim un problem arall yw'r NIMBY's! A diwedd y gan fydd ddim digon o drydan i gyflewnwi'r gwlad a fydd na 'blackouts'. Wedyn , pwy fydd yn achwyn? Dim fi, achos fydda i'n iawn gyda tyrbein bach gwynt, un tyrbein dwr i gadw fi a'r teulu'n hapus.
Teimlaf yn flin dros pobl nad ydynt yn yfed - pan ddeffrasant yn y bore, ni fyddan nhw'n teimlo yn well na hyn am weddill y dydd!