Tudalen 2 o 6

Re: Problemau gyda maes-e

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 12:42 pm
gan Mwnci Banana Brown
Error page arall-

"SQL ERROR [ mysql4 ]

Table 's' is marked as crashed and should be repaired [1194]

An sql error occurred while fetching this page. Please contact an administrator if this problem persists."

Re: Problemau gyda maes-e

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 12:46 pm
gan Hedd Gwynfor
Nodwch yma os oes gwall arall yn ymddangos. Sori am y trafferthion! Cwpwl o brobleme torri dannedd. Dyle pob dim fod yn iawn nawr. :D

Re: Problemau gyda maes-e

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 5:30 pm
gan dawncyfarwydd
Dwni'm os mai jest fy mhroblem i ydi hon, ond wrth glicio 'mewngofnodi' mae 'na ffenast arall yn agor. Firefox dwi'n iwsio.

Re: Problemau gyda maes-e

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 5:45 pm
gan sian
dawncyfarwydd a ddywedodd:Dwni'm os mai jest fy mhroblem i ydi hon, ond wrth glicio 'mewngofnodi' mae 'na ffenast arall yn agor. Firefox dwi'n iwsio.

Be ti'n feddwl? Dweud "Rwyt ti wedi mewngofnodi'n llwyddiannus" yn hytrach na mynd yn syth i'r negeseuon newydd?
Mae hwnna'n dipyn o niwsans - mae'n cymryd yn hirach i gyrraedd y negeseuon newydd.

Re: Problemau gyda maes-e

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 5:54 pm
gan dawncyfarwydd
Nage - ffenest newydd yn agor. As in thing Firefox newydd.

Newydd jecio eto a ma'n ok rŵan.

Re: Problemau gyda maes-e

PostioPostiwyd: Mer 23 Ion 2008 8:52 pm
gan Mihangel Macintosh
Er gwybodaeth ma'r maes yn eiffaf clynci ar y foment wi'n ffindo. Dwi'n defnyddio porwr Firefox ar OSX ond diw'r dudalen ddim yn llwyth yn weddol aml pan dwi'n clicio ar 'negeseuon newydd' 'Panel Rheoli Personol' ac y logo maes-e.com ar ben y dudalen ar chwith.

Dwi dim ond yn cael y logo maes-e.com wedi hanner llwytho.

Rhywun arall yn cael hwn neu jyst fi sydd â cysylltiad shite/heddlu cudd yn fy monitro ???

Re: Problemau gyda maes-e

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ion 2008 12:25 pm
gan Prysor
Mwnci Banana Brown a ddywedodd:Error page arall-

"SQL ERROR [ mysql4 ]

Table 's' is marked as crashed and should be repaired [1194]

An sql error occurred while fetching this page. Please contact an administrator if this problem persists."

Ges i hwnna gwpwl o weithia dros y dyddia dwytha.

Ges i rwbath am General Error wedyn, ac yna hwn ddoe -

General Error
SQL ERROR [ mysql4 ]
User maes_hedd has already more than 'max_user_connections' active connections [1203]
An sql error occurred while fetching this page. Please contact an administrator if this problem persists.

pan grashiodd y gweinydd sy'n cynnal y Maes

Bosib fod y neges cyntaf hwnnw rywbeth i wneud efo problemau'r gweinydd.

Re: Problemau gyda maes-e

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ion 2008 12:26 pm
gan Mihangel Macintosh
Ma'r maes dal yn 'bumpy'. Tudalennau yn gwrthod llwytho bob hyn a hyn...

Re: Problemau gyda maes-e

PostioPostiwyd: Maw 25 Tach 2008 8:15 pm
gan Kez
ceribethlem a ddywedodd:
Kez a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:

Fi'n medru cyfrannu mewn modd cyffredin.

Plus ca change, plus c'est la meme chose - 'Sim byd wedi newid fan 'ny te Ceri - oes e ? :winc: :lol:

Boi cyffredin mewn byd cyffredin fues i erioed. Mae realiti ddim yn effeithio gormod arna i :winc:

Na chywirdeb ieithyddol 'chwaith Ceri - mae realiti ddim - beth ddath drosto ti 'chan yn ysgrifennu shwt beth :winc:

M'ond jocan odw i, cofia - wi'n siwr taw dylanwad dysgu plant o Gefn Craig Parc yn yr ysgol 'co yn y cwm odd yn gyfrifol am hwnna. Yr unig reswm wi'n dy dynnu di lan arno yw bo fi nawr yn cal gweld fy enw i ar dop seiat Croeso i'r Maes! - ac os aiff pethau i gynllun a'r arfer, bydda i 'na am sbelan hir ombai bod rhyw prat yn cal penblwydd a phawb yn dymuno penblwydd hapus iddo fe :ing: :lol: :winc:

Re: Problemau gyda maes-e

PostioPostiwyd: Mer 26 Tach 2008 3:56 pm
gan ceribethlem

Y theori When i Rome, yw hi gyda fi ac Ystalyfera bellach :winc: