Tudalen 3 o 6

Re: Problemau gyda maes-e

PostioPostiwyd: Iau 15 Hyd 2009 1:22 pm
gan Hedd Gwynfor
Mes-e wedi bod lawr ers dros 24 awr. Sori am hyn, roed rhywbeth MAWR yn bod. Dwi ddim yn deall yn iawn beth yn union oedd y broblem, ond er mwyn ceisio ei ddatrys, dwi wedi diweddaru i'r fersiwn diweddaraf o phpBB sef 3.0.5. Mae hyn yn go9lygu fod nifer o'r nodweddion wedi cael eu colli am y tro e.e. Calendr, tipyn o'r dolenni defnyddiol ar y brig a mwy... Gobeithio asil gyflwyno cymaint o rhain ag sy'n bosibl dros y diwrnodau, wythnosau, misoedd nesaf... :crechwen:

Re: Problemau gyda maes-e

PostioPostiwyd: Gwe 16 Hyd 2009 12:14 pm
gan Hedd Gwynfor
Helo. Yn anffodus mae'r problemau yn parhau. Gobeithio y gallwn ddatrys y problemau yn fuan. Yn y cyfamser, dim ond pobl sydd wedi cofrestru bydd yn gallu darllen y maes am y tro...

Re: Problemau gyda maes-e

PostioPostiwyd: Llun 05 Gor 2010 9:15 pm
gan Hedd Gwynfor
mmm... probleme mawr iawn yn ddiweddar... ond gobeithio y bydd 'Duw' yn gallu datrys pob dim! 8)

Re: Problemau gyda maes-e

PostioPostiwyd: Maw 06 Gor 2010 6:16 pm
gan Duw
Huh! Ti ddwedodd hi Hedd. Caiff y fforwm ei brofi yma am nawr i weld os yw'n sefydlog. Yn anffodus, cafodd rhai o'r negeseuon mwyaf diweddar eu colli. Ymddiheuriadau am hynny.

NB am broblem plîs. :rolio:

Os ydych angen postio i'r cyhoeddiadau - ewch i ryw is-seiad fel 'Croeso a Chyfarchion' yn gyntaf, yna myned i'r cyhoeddiad. Fel arall, posib na fydd botwm 'Ymateb' yn ymddangos.

Re: Problemau gyda maes-e

PostioPostiwyd: Mer 07 Gor 2010 12:33 am
gan xxglennxx
Dwi newydd geisio darllen ambell i byst dim ond i gael yr ymateb, "Dyw’r pwnc yna ddim yn bodoli."

Jyst ichi wybod :)

Re: Problemau gyda maes-e

PostioPostiwyd: Mer 07 Gor 2010 8:36 am
gan sian
Diolch Duw a Hedd!

Re: Problemau gyda maes-e

PostioPostiwyd: Mer 07 Gor 2010 9:32 am
gan Orcloth
Helo ers stalwm! Braf eich cael yn ol yn un darn! Diolch Duw, ti'n jiniys! :D

Re: Problemau gyda maes-e

PostioPostiwyd: Mer 07 Gor 2010 4:20 pm
gan Duw
xxglennxx a ddywedodd:Dwi newydd geisio darllen ambell i byst dim ond i gael yr ymateb, "Dyw’r pwnc yna ddim yn bodoli."

Jyst ichi wybod :)


Os allet ti roi wybod pa rai / p'un?

Re: Problemau gyda maes-e

PostioPostiwyd: Mer 07 Gor 2010 4:24 pm
gan Hedd Gwynfor
Duw a ddywedodd:
xxglennxx a ddywedodd:Dwi newydd geisio darllen ambell i byst dim ond i gael yr ymateb, "Dyw’r pwnc yna ddim yn bodoli."

Jyst ichi wybod :)
Os allet ti roi wybod pa rai / p'un?


Newydd ddarganfod rhai hefyd lle mae'n dweud neges ddim yn bodoli. Pob un yma:

http://www.maes-e.com/fforwm/viewforum.php?f=14 'Croeso a Chyfarchion' e.e. hwn http://www.maes-e.com/fforwm/viewtopic.php?f=14&t=28376

Re: Problemau gyda maes-e

PostioPostiwyd: Mer 07 Gor 2010 7:40 pm
gan Duw
Rhyfedd :ofn: - dwi wedi ymchwilio'r gronfa ddata ac mae'r neges yna. Wrth edrych ar y data yr unig peth a welais oedd bod dim ymateb i'r post. Felly triais rai eraill heb ymatebion - r'un broblem.

OK, ymddiheuriadau am hyn pawb, af ati i weld os ydy hyn yn broblem gyffredin ac os oes datrysiad iddo. Wylle gwnaiff gymryd ychydig o amser. Diolch am fflagio hwn glenn a hedd.

//GOLYGU

Na, dyw hwnna ddim yn iawn chwaith. Hmm. Edrych yn weddol 'random'.