Gweithio y tu mewn i'r system - neu y tu allan?

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Bygythiad arall i sylfaen ariannol ‘Y Byd’

Postiogan Muralitharan » Llun 03 Maw 2008 10:12 pm

Iawn, dallt!! Ond paid a meddwl fod dy gefndir di yn wahanol mewn unrhyw ffordd i fy nghefndir i. Mab i rywun fu'n ddi-waith am gyfnod hir iawn iawn iawn adeg Thatcher ydw i, nid rhywun a gafodd ei fagu ar aelwyd dosbarth canol cyfforddus - ac mae yna lawer iawn o rai eraill yr un fath a fi.
Wyt ti'n meddwl 'mod i'n mwynhau pwyllgora? Wyt ti'n meddwl 'mod i'n mwynhau canfasio? A deud y gwir, dwi'n teimlo'n gorfforol sal cyn mynd allan bob nos i wneud hynny. Ond os na wna i o, pwy neith? Mi faswn i'n licio cael mwy o amser i sgwennu gyda'r nos a mynd am beint wedyn hefyd ... ond dyna fo.
Mi faswn i'n licio cael ychydig o dy hyder di pan dwi ar stepan drws ambell i dwat hefyd, ond unwaith eto, dyna fo ...
Na, tydi'r Blaid ddim yn berffaith - blydi hel nac 'di - ond alla i ddim meddwl am y Blaid fel 'nhw'. Os ydi hynny'n golygu dy fod ti'n ei weld o fel " 'close ranks' en masse" does gen i ddim help am hynny.

A pham wyt ti'n meddwl/awgrymu, jyst oherwydd fod pobl fel fi yn gweithio dros y Blaid, nad ydan ni'n gneud dim byd arall yn y gymuned hefyd? Blydi hel, o'r cyfan ti wedi'i ddeud dyna'r cyhuddiad mwya' uffernol o anghywir. Nid y naill neu'r llall ydi o bellach - mae'n sefyllfa ni yn llawer iawn rhy ddifrifol i ni gael y fraint o ddewis erbyn hyn. Ond mae'r cyfleoedd yn fwy nag erioed o'r blaen hefyd...

Prysor, mae dy angen di hefyd, boi.
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Gweithio y tu mewn i'r system - neu y tu allan?

Postiogan Prysor » Maw 04 Maw 2008 11:38 am

Reit. So ti'n Bleidiwr. O'n i'n amau fod gen ti reswm dros fynd ar y defensive :winc: Dim byd yn rong yn hynny, wrth gwrs. Amddiffyna'r sefydliad wyt ti'n rhan ohono a chroeso, achos ti'n rhan ohono am ei fod o'n agos at dy galon.

Dwi ddim yn "meddwl/awgrymu", nac wedi "cyhuddo" o gwbwl, fod Pleidwyr ddim yn cymryd rhan mewn pethau cymunedol. Lle gasd di hwnna o, gyfaill? Chdi awgrymodd mod i yn "llaesu a golchi dwylo" trwy feirniadu'r Blaid yn hytrach na gwneud rhywbeth fy hun. Ymateb i hynny drwy gyfeirio at fy sefyllfa fi fy hun, wnes i - h.y. mai gweithredu cymunedol a diwylliannol ydi mhetha fi. Felna dwi'n cyfrannu i 'achos Cymru', tra mae eraill yn canolbwyntio ar yr ymdrech gyfansoddiadol. Dydio'm yma nac acw os oes'na aelodau o'r Blaid (a mae 'na, dwi'n gwbod) yn weithgar yn y ddau faes. Son amdanaf fi fy hun o'n i, fel ateb penodol i'r awgrymiad penodol nad wyf yn gwneud dim ond beirniadu (dy eiriau di), ac y dylwn ymuno a'r Blaid a gwneud rhywbeth fy hun.

Gena i bob parch i ti, o be wyt wedi ei ddeud amdanot dy hun - yn enwedig y ffaith dy fod yn barod i ddiodda gweithio trwy bwyllgorau pan nad wyt yn licio'r ffaith hynny! Dwi wedi trio gneud hynny fy hun droeon. Mae gen ti fwy o allu yn y maes yno, na fi, felly - sy'n cyfiawnhau fy newis i ddefnyddio fy egnioedd mewn meysydd lle y gallaf wneud gwahaniaeth. Ceffylau i gaeau arbennig, de? Dio'm yn rocket science, nacdi?

Ti'n Bleidiwr am dy fod wedi dewis y llwybr hynny. Dwi ddim. Dio ddim fyny i fi drio newid cyfeiriad dy long di. Dy ddyletswydd di ydi o, fel mae'n ddyletswydd ar aelodau cydwybodol o unrhyw sefydliad mae nhw'n gredu ynddo i gadw'r sefydliad hwnnw ar y llwybr cywir. Sut elli rhywun anghytuno â hynny? Yn enwedig pan mai cerbyd i nod ehangach, sef sicrhau hunanlywodraeth i Gymru a chyfiawnder cymdeithasol i'r Cymry, ydi'r sefydliad hwnnw.

Sori, ond mae neidio i'r gwely efo arch-elyn Cymru a'r Gymraeg (ac yna ymddwyn fel mouthpiece i'w bropaganda), mond er mwyn cael blas ar bŵer, yn un o'r gweithredoedd mwyaf bradwrus i arweinyddiaeth Plaid Cymru ei wneud erioed. Mae o hefyd yn un o'r camgymeriadau gwleidyddol mwyaf trychinebus wnaeth unrhyw blaid erioed. Os ti'n cymeryd hynny fel beirniadaeth o'r aelodaeth gyffredin (a doedd o ddim), yna rwyt yn derbyn cyfrifoldeb tros weithredoedd yr arweinyddiaeth, ac felly yn cydnabod fod gennyt ran i chwarae trwy geisio ail-feddiannu'r Blaid i'r gorlan genedlaethol. A dyna - yn syml iawn iawn - oedd fy mhwynt.

O ran fy sylwad uchod mai dyma "un o'r camgymeriad mwyaf trychinebus i unrhyw blaid" - dwi'n fodlon sticio efo'r geiriau yna, ac os dwi'n cael fy mhrofi'n anghywir, yna mi roi fy llaw i fyny a chyfadda. Ond cofia di a phob Pleidiwr arall fy ngeiria finna (a llawer i un arall), pan eith petha'n ffliwt. Mae Ieuan Wyn Jones wedi gamblo dyfodol datganoli yng Nghymru ar y jolly yma ar y Gwd Ship Llywodraeth, ac er mwyn cynyddu ei jansus o gyrraedd pen y daith mae o'n taflu egwyddorion Plaid Cymru dros yr ochor ar yr high seas, fel cath yn gwaredu chwain.

Fi, gynt a ddywedodd:...yn rhannol am fod selogion Plaid Cymru unai wedi meddwi ar lywodraeth, yn rhoi rhyw sosialaeth ddogmataidd, symbolaidd, amherthnasol o flaen yr achos cyfansoddiadol a hunaniaethol, neu yn cwyno eu hanfodlonrwydd dros lasiad o win mewn middle class suare, cyn cario mlaen i weithio a phleidleisio dros y disaster mwyaf sydd wedi digwydd i Blaid Cymru - a Chymru - ers iddi ddod yn rym gwleidyddol o 50'au y ganrif ddwytha ymlaen.


Mae na dri gwahanol engraifft o 'garfannau yn y Blaid' oddi fewn fy sylwad uchod am be ydi rhan o'r rheswm dros ddiffyg safiad yn erbyn yr arweinyddiaeth. Mond un engraifft oedd y "middle class suare". Dwi yn nabod aelodau gwerinol o'r Blaid, ac o be ti wedi ei ddeud, mi wyt titha'n un o'r rheiny. Derbyniaf hynny'n llawen. Sori os bigodd fy nghyfraniad dy bigo yn hynny o beth, ond fel y gweli, nes i ddim paentio pawb yn y Blaid efo'r un brwsh.

Doeddwn innau ddim yn arfer gweld Plaid Cymru fel 'Nhw', chwaith. Mae teulu mam yn Bleidwyr ers sefydlu'r Blaid. Mae Nhad hefyd yn Bleidiwr 'o'r fawnog'. Plaid Ni fuodd Plaid erioed. I ryw radda, dwi'n dal i feddwl amdani efo'r hen emosiwn yna... ond... yn anffodus, y gwir amdani ydi, emosiwn yn unig ydi o bellach, achos does'na fawr ddim ar ôl yn gyffredin rhwng daliadau ac egwyddorion fy rhieni a minnau, a'r Blaid.

A dim fy rhieni a minnau sydd wedi newid...

O weld agwedd y Blaid tuag at ei chefnogwyr grass roots, tuag at ysgolion, cymunedau a thenantiaid tai cyngor Gwynedd, ac - yn fwy perthnasol i'r edefyn yma - ei hagwedd tuag at Y Byd, ac o weld Rhodri Glyn ar y news neithiwr yn clodfori'r Olympics fel gemau i'r "UK i gyd, yn cynnwys Cymru" (propaganda Unoliaethol y Blaid Lafur), mae hi bron iawn yn amhosib, bellach, i mi allu ei chyfri yn blaid i fi. Dim dy fai di ydi hynny, wrth gwrs, ond yn sicr dydio ddim yn fai arna finna chwaith, nacdi? Mae beio fi i ac eraill sy'n "beirniadu o'r tu allan" ar y lleiaf yn methu'r pwynt yn gyfangwbl. Dim bai cefnogwyr/pleidleiswyr traddodiadol y Blaid ydio eu bod wedi eu dadrithio. Claddu pen yn y tywod ydi meddwl hynny.

Ddudis i yn gynharach yn yr edefyn yma y byddai peidio pleidleisio i'r Blaid yn cyfrannu ar orchestrated demise y Blaid. Ymatebodd cwpwl o bobol mewn camddealltwriaeth. Nid datgan oeddwn i, y dylid parhau i bleidleisio i'r Blaid am nad oedd gennym ddewis arall. Yn hytrach, datgan oeddwn i 'ei bod wedi dod i hyn' - fod rhywun yn wynebu'r dewis trist hwnnw o bleidleisio i blaid sydd wedi taflu pob egwyddor oeddem yn gredu ynddo o'r neilltu, neu beidio pleidleisio iddi, gan gyfrannu i'r chwalfa y mae'r Blaid Lafur wedi ei chynllunio ar ei chyfer.

Falla ei bod yn hawddach i mi wneud fy meddwl i fyny, gan nad ydw i'n byw mewn etholaeth ymylol. Ond mi ydw i wedi gwneud fy meddwl i fyny. Ac mi allaf ddweud yn bendant y bydd fy nghydwybod yn glir.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Gweithio y tu mewn i'r system - neu y tu allan?

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 04 Maw 2008 12:14 pm

Prysor a ddywedodd:Falla ei bod yn hawddach i mi wneud fy meddwl i fyny, gan nad ydw i'n byw mewn etholaeth ymylol. Ond mi ydw i wedi gwneud fy meddwl i fyny. Ac mi allaf ddweud yn bendant y bydd fy nghydwybod yn glir.


Dw i'n cael trafferth ofnadwy efo hyn. Arfon y byddwn i yn pleidleisio, os gwnaf, sydd mwy na thebyg am fod yn etholaeth ymylol. Ond er yr hoffwn i weld Hywel yn lle Martin, dw i ddim yn teimlo y byddwn i'n gallw bwrw X drws nesaf i enw Plaid Cymru ar funud, Hywel Williams ai peidio. Dw i'n licio Hywel Williams, a ddim yn licio Martin Eaglestone.

Yn barod dwi'n ystyried be ddylwn i wneud. Dw i ddim yn siwr a ellir pleidleisio dros gwleidydd ond nid ei blaid, fel petai. Dw i ddim isio arnodi Plaid Cymru, ond byddai dychweliad Llafur i Arfon yn gryn drychineb.

Dw i'n siwr fod lot o genedlaetholwyr yn teimlo'n un benbleth.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Gweithio y tu mewn i'r system - neu y tu allan?

Postiogan sian » Maw 04 Maw 2008 12:41 pm

Ydi aelodau etholedig y Blaid - ar bob lefel - yn sylweddoli faint o anniddigrwydd sydd yna ymhlith etholwyr cyffredin?
Ydyn nhw'n hapus? Ydyn nhw'n eisie neud rhywbeth amdano?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Gweithio y tu mewn i'r system - neu y tu allan?

Postiogan Muralitharan » Maw 04 Maw 2008 1:07 pm

Prysor,

Mae'n ffasiynol iawn y dyddiau hyn, ac yn hwylus, i weld pawb fel rhan o'r 'sefydliad'. Tydi o ddim bob amser yn gwneud lot o synnwyr, mae'n gwneud i'r person hwnnw deimlo'n well amdano'i hun trwy ei gadw ei hun yn 'bur, ac wrth gwrs yn ei gwneud hi'n haws ymosod arnyn nhw. Aelod o'r Blaid ydw i - a hynny am un rheswm, sef 'mod i'n credu yng Nghymru. A dyna fo.
Un cwestiwn: be' ddylai'r Blaid fod wedi ei wneud ar ol yr etholiad dwytha - peidio ymuno ag unrhyw glymblaid? Ymuno a chlymblaid oedd yn cynnwys y Toriaid? Neu ymuno a Chymru'n Un? Dim ond gofyn ydw i, oherwydd mi faswn i'n licio cael clywed.
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Bygythiad arall i sylfaen ariannol ‘Y Byd’

Postiogan Madrwyddygryf » Maw 04 Maw 2008 1:57 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Mae 'na bethau dwi'n eu hedmygu am Lafur a'r Toriaid, ond mae 'na bethau dwi'n eu casau hefyd. A dwi jyst yn casau'r Democratiaid Rhyddfrydol. Petai'r hen blaid ryddfrydol yn dal i fodoli........


Pam ti'n casau ni tybed?
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Gweithio y tu mewn i'r system - neu y tu allan?

Postiogan Prysor » Maw 04 Maw 2008 2:02 pm

Muralitharan...

Sefydliad efo 's' fach dwi wedi ei gyfeirio ato. Hynny yw, cymdeithas, plaid, clwb ieuenctid, yr Urdd, cyngrhair beldroed... sefydliadau ydi rhain. Dwi heb ddechrau trafod Y Sefydliad eto, a diolcha am hynny! :winc:

Cadw at y pwynt, gyfaill, a paid a chwilio am ymosodiadau - personol neu beth bynnag - pan does dim yma ond beirniadaeth deg o gyfeiriad Plaid Cymru.

Be ddylai Plaid Cymru wedi ei wneud wedi'r etholiad dwytha? Wel, tra byddai clymblaid enfys wedi bod yn newid iachusol i wleidyddiaeth Cymru, fedrai ddallt ofnau rhai ar y chwith y byddai hynny'n colli lot o bleidleisiau yn y Cymoedd. Mae nhw'n nabod eu pobl yn well na fi.

Ond aros yn wrthblaid rymus, cynnal y momentwm, a cicio Llafur - eto ac eto ac eto - dros y bedair mlynedd nesaf, ddylai'r Blaid fod wedi ei wneud. Naifrwydd - ar y gorau - oedd neidio i'r gwely efo'r diafol.

Plaid genedlaethol ydan ni angen yng Nghymru, nid New Welsh Labour Mark II. Os ti'n cyflwyno dy hun fel plaid sydd fawr ddim gwahanol i blaid arall, mae'r bobol yn mynd i ddewis y blaid mae nhw wedi ei arfer efo.

Better the devil you know, ydi'r dywedaid yn Susnag.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Bygythiad arall i sylfaen ariannol ‘Y Byd’

Postiogan Garnet Bowen » Maw 04 Maw 2008 2:08 pm

Madrwyddygryf a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd:Mae 'na bethau dwi'n eu hedmygu am Lafur a'r Toriaid, ond mae 'na bethau dwi'n eu casau hefyd. A dwi jyst yn casau'r Democratiaid Rhyddfrydol. Petai'r hen blaid ryddfrydol yn dal i fodoli........


Pam ti'n casau ni tybed?


Gan mai plaid ddi-bwrpas, ddi-amcan a di-werth yw'r Democratiaid-Rhyddfrydol. Mae'n gweithio drwy geisio medi cefnogwyr anfodlon y ddwy blaid fawr arall, sydd yn golygu ei bod hi'n ceisio bod yn bopeth i bawb. O bleidleisio i Lafur - hen neu newydd - dwi'n gwybod be dwi'n debygol o'i gael. Mae'r un fath yn wir am y Ceidwadwyr. Pleidleisio yn y tywyllwch mae unrhywun sydd yn cefnogi'r Lib Dems. Problem Plaid Cymru yw eu bod nhw'n mynd i lawr y trywydd hwn hefyd, yn hytrach na cheisio llunio hunaniaeth iddyn nhw eu hunain.

Ond beth bynnag am hynny, y prif reswn na fedra i byth bleidleisio i'r Lib Dems eto (fe wnes i eu cefnogi yng Nghonwy yn '97) yw eu methiant trychinebus yn ystod trafodaethau clymbleidio'r haf diwethaf. Mae'r ffars honno yn dangos pam mor ddi-werth yw pleidlais i'r Lib Dems. Roedd ganddyn nhw'n cyfle i drawsnewid gwleidyddiaeth Cymru, a methon nhw a chymeryd y cyfle hwnnw. Does gan y Lib Dems ddim mo'r weledigaeth i lywodraethu, ond yn fwy damniol, daeth hi'n amlwg yr haf dwythaf nad oes gennych chi'r balls i wneud, chwaith.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Re: Gweithio y tu mewn i'r system - neu y tu allan?

Postiogan Muralitharan » Maw 04 Maw 2008 2:16 pm

Tydw i ddim yn trio bod yn bersonol - sori os dwi'n dod drosodd felly.
Tydw i ddim isio bod yn wrthblaid am byth - dwi'n dechrau mynd yn hen yn un peth!! Ac mae'r syniad 'ma mai trwy fod yn wrthblaid effeithiol y mae rhywun yn dod i rym yn y pen draw yn un anodd iawn cytuno a hi - yn enwedig yma yng Nghymru, ac yn enwedig hefo system bleidleisio gyfrannol a nifer cymharol fychan o aelodau.
Ti'n iawn Prysor, mae o'n ddewis anodd - cadw ein hunain yn bur trwy gyd-weithio hefo neb byth, neu ddal ein trwynau a thrio gwneud rhywbeth na ddigwyddodd yng Nghymru erioed o'r blaen ...
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Gweithio y tu mewn i'r system - neu y tu allan?

Postiogan Garnet Bowen » Maw 04 Maw 2008 2:30 pm

Prysor a ddywedodd:Doeddwn innau ddim yn arfer gweld Plaid Cymru fel 'Nhw', chwaith. Mae teulu mam yn Bleidwyr ers sefydlu'r Blaid. Mae Nhad hefyd yn Bleidiwr 'o'r fawnog'. Plaid Ni fuodd Plaid erioed. I ryw radda, dwi'n dal i feddwl amdani efo'r hen emosiwn yna... ond... yn anffodus, y gwir amdani ydi, emosiwn yn unig ydi o bellach, achos does'na fawr ddim ar ôl yn gyffredin rhwng daliadau ac egwyddorion fy rhieni a minnau, a'r Blaid.


Dwi'n dallt yn union sut ti'n teimlo. Dwinna wedi fy magu gan deulu o genedlaetholwyr, ac mae gan Blaid Cymru apel emosiynnol i mi. Ond pan dwi'n edrych ar bolisiau presennol y blaid, dwi'n anobeithio. A'r dewis sy'n fy ngwynebu fi, fel chdi a sawl un arall, yw cefnogi plaid am resymau emosiynnol, neu peidio pleidleisio.
Dwi wedi dewis aros o fewn y blaid, am y tro. Ond dwi hefyd wedi dewis gwneud mwy na hynny. Dwi wedi dechrau mynychu cyfarfodydd fy nghangen leol, a dwi'n sefyll yn etholiadau Cyngor Gwynedd mis Mai. Fe fydda i'n dal i fwrw pleidlais i Alun Ffred a Hywel Williams (a fi fy hun). Ond fe fydda i'n gneud mwy na hynny.
Hanfod plaid yw ei haelodau. Y nhw sydd yn dewis pwy sy'n cael ei yrru i Lundain a Bae Cardydd, a nhw sydd - i raddau - yn llywio polisi. Yn y pen draw, mae aelodaeth Plaid Cymru yn gymharol fach - rhyw ddwy neu dair mil, dwi'n credu. Ac o blith yr ychydig filoedd yna, lleiafrif bach sydd yn weithgar o fewn y blaid ei hun. Prin dwsin o bobl sydd ar bwyllgor fy nghangen leol i, ac mae'r pwyllgor hwnnw yn cael gyrru 2 gynrychiolydd i bob Cyngor Cenedlaethol - hynny yw, i bob un o'r cyfarfodydd sydd yn gwneud penderfyniad ar gyfeiriad strategol y blaid. A dwi'n credu mod i'n iawn i ddweud mai fy nghangen i yw un o'r mwyaf yng Nghymru. Mae'r sefyllfa yr un fath mewn sawl ardal arall.
Fy mhwynt i, felly, yw bod modd i unigolion fel ni wneud gwahaniaeth go iawn i gyfeiriad Plaid Cymru. Os oes 'na ddigon ohonom ni yn ail-ymaelodi a Phlaid Cymru, ac yn gwthio ein syniadau yn y fan honno, yna mae posib newid polisiau. Yn y pen draw, mae modd ei gwneud hi'n blaid sydd yn haeddu ein cefnogaeth rhesymegol ni, unwaith eto, yn hytrach na bod yn blaid sydd yn dibynnu ar deyrngarwch teuluol.
Beth yw'r dewis arall? Ffurfio plaid newydd? Dwi'n credu mai breuddwyd wag yw hon. Byddai plaid newydd, yn anorfod, yn ceisio apelio at gefnogwyr presennol Plaid Cymru. Gallai hyn arwain at un o dri peth - methiant y blaid newydd, rhannu'r bleidlais rhwng y blaid newydd a Phlaid Cymru, neu ddinistr Plaid Cymru. Pa un sydd fwyaf tebygol o ddigwydd? Y cyntaf, dybiwn i.
Dwi'n cynnig bod tri dewis arall o'n blaenau. Gadael i Blaid Cymru ddilyn y trywydd trychinebus presennol, rhoi'r gorau i'w chefnogi, a chefnu ar y broses etholiadol; ceisio ffurfio plaid newydd, gan dderbyn efallai mai methu y gwnaiff hi; neu geisio diwygio Plaid Cymru o'r tu fewn, er mwyn ei gwneud hi'n blaid genedlaetholgar go iawn, unwaith eto. Dwi'n deallt pam y byddai unrhyw un yn dewis un o'r ddau ddewis cyntaf. Ond yn bersonol, dwi'n credu mai'r trydydd dewis yw'r mwyaf realistig, a'r mwyaf tebygol o ddwyn ffrwyth.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 11 gwestai

cron