Tudalen 1 o 3

Gweithio y tu mewn i'r system - neu y tu allan?

PostioPostiwyd: Iau 28 Chw 2008 10:41 am
gan Prysor
[Gol: Pwnc wedi'i hollti o'r edefyn "Bygythiad arall i sylfaen ariannol 'Y Byd']

Horwth ap Ffrwchnedd a ddywedodd:Mae etholiadau lleol ar y gorwel...cyfle i ddangos i Blaid Cymru beth a feddyliwn am dorri addewidion maniffesto


a chyfrannu i orchestrated demise Plaid Cymru a gobaith olaf cenedlaetholdeb Cymreig...

('Seen you coming Ieuan!' - y print mân yng ngwaelod cytundeb Cymru'n Un)

Re: Bygythiad arall i sylfaen ariannol ‘Y Byd’

PostioPostiwyd: Iau 28 Chw 2008 11:28 am
gan Rhys Llwyd
Prysor a ddywedodd:
Horwth ap Ffrwchnedd a ddywedodd:Mae etholiadau lleol ar y gorwel...cyfle i ddangos i Blaid Cymru beth a feddyliwn am dorri addewidion maniffesto


a chyfrannu i orchestrated demise Plaid Cymru a gobaith olaf cenedlaetholdeb Cymreig...


Yn hollol. Cymaint ag y mae'r Blaid wedi fy ypsetio yn ddiweddar mi fyddai dal yn pleidleisio drostyn nhw (er ddim yn ymgyrchu y tro hwn maen debyg) am y rhesymau canlynol:

1. Yr unig Blaid sydd a'i ganolbwynt disgyrchiant yng Nghymru
2. Yr unig Blaid sydd (ar bapur) yn galw am Annibyniaeth fel nod tymor hir
3. Yr unig Blaid sy'n left-leaning

Nid oes dewis amgen. Nid yw'r Ceidwadwyr yn apelio ataf i am ddau reswm syml:

1. Er y camau pwysig i'w Chymreigio Plaid unoliaethol yw'r Ceidwadwyr ac unoliaethwyr yw eu harweinwyr. Mae unrhyw son sydd gyda nhw am ddatganoli yn cael ei wneud yng nghyd destun unoliaeth y DG.

2. Er nad ydw i'n Sosialydd caled nid ydw i chwaith ar y dde, dwi'n credu bod angen ffrwyno busnesau, dwi'n credu fod angen gorfodaeth ar y sector breifat nid yn unig ar fater iaith ond hefyd ar faterion fel anabledd, hawliau gweithwyr, cyflogau teg, torri monopoliau i lawr etc... a diwedd y dydd nid yw trwch arweinwyr deallusol y Ceidwadwyr yn credu hynny fel fi.

Felly, er eu beiau, y Blaid sy'n parhau i fod agosaf at fy ngwerthoedd i.

Re: Bygythiad arall i sylfaen ariannol ‘Y Byd’

PostioPostiwyd: Iau 28 Chw 2008 11:54 am
gan Rhods
Rwyf yn deall ac yn parchu dy rhesymau di yn llwyr Rhys. Rydym ni'n dau wedi trafod am oriau maith a dwys am wleidyddiaeth yng Nghymru, a dwi yn meddwl bo ni yn y bon, a'r r'un credodau - gyda Chymru ar iaith Gymraeg ar top agenda y ddau ohonom.

Mae'r Ceidwadwyr wedi cymryd camau enfawr dros y blynyddoedd diwetha o ran ei chymreigio a hyd yn oed yn yn fwy byth ers etholaid 2007. Er hynny, rwy'n cydnabod fod yna lot mwy o waith iw wneud.

Re: Bygythiad arall i sylfaen ariannol ‘Y Byd’

PostioPostiwyd: Iau 28 Chw 2008 4:02 pm
gan Rhods
Garnet Bowen a ddywedodd: I mi, dau ddewis sydd - ail-feddianu Plaid Cymru, neu troi cefn ar y broses ddemocrataidd.


Yn anffodus mae Plaid weid bod yn nwylo y sosialwr ers yr 80au cynnar, amser reit hir. Sosialaeth sydd yn bwysigach iddi bellach yn hytrach na chymreictod. Wyt ti yn teimlo bod e yn bosib i ail-gafael ynddi, neu odi e yn rhy hwyr? Ac wrth son am 'troi cefn ar y broses ddemocrataidd', be wyt ti yn meddwl wrth hynny? Be wyt ti yn teimlo bydd yr alternative wedyn?

Re: Bygythiad arall i sylfaen ariannol ‘Y Byd’

PostioPostiwyd: Iau 28 Chw 2008 4:38 pm
gan Rhodri Nwdls
Huw Lewis in I supported a Welsh language daily shocker!

...As has been reported elsewhere, I have been won over by the case for a Welsh Language daily newspaper, but clearly there was no commitment made to Y Byd directly. Personally, I thought it seemed like common sense to build on a project already well advanced, but I recognise it must have been another difficult call, the flak aimed at the Minister from members of his own party is testament to that...


Cefnogi petha Cymraeg? Mêts efo RGT? Begoblin?

Ma'n dysgu Cymraeg hefyd dwi'n clywad...ella taw nid dim ond cefnogwyr papur dyddiol Cymraeg sy'n byw yng ngwlad y gwcw wedi'r cyfan...deud y gwir glywish i'r gwcw diwrnod o'r blaen...

Re: Bygythiad arall i sylfaen ariannol ‘Y Byd’

PostioPostiwyd: Iau 28 Chw 2008 8:10 pm
gan Garnet Bowen
Rhods a ddywedodd:Yn anffodus mae Plaid weid bod yn nwylo y sosialwr ers yr 80au cynnar, amser reit hir. Sosialaeth sydd yn bwysigach iddi bellach yn hytrach na chymreictod. Wyt ti yn teimlo bod e yn bosib i ail-gafael ynddi, neu odi e yn rhy hwyr?


Dyw hyn ddim cweit yn wir. Hynny yw, mae'n wir bod Plaid Cymru yn gyffredinol ar y chwith, ond dim ambell un sydd yn rhoi sosialaeth o flaen cenedlaetholdeb. Mae'r gweddill yn dueddol o fod - fel fi - ar y chwith gymhedrol. Problem fawr y blaid yw bod gormod o bobl o lawer yn credu bod modd iddi ennill mwyafrif cenedlaethol, ac mai'r ffordd o wneud hyn yw drwy droi cefn ar y cefnogwyr traddodiadol. Dwi'n credu mai twpdra llwyr ydi hyn, ac mai'r strategaeth bragmataidd orau yw pwysleisio cenedlaetholdeb y blaid er mwyn cryfhau'r base traddodiadol, a gwneud Plaid Cymru yn arweinydd hir-dymor ar yr hanner o Gymru sydd ddim yn pleidleisio Llafur. Ac wrth gwrs nad yw hi'n rhy hwyr i wneud hynny - trwch blewyn oedd rhwng dewis y trywydd hwn a dewis y trywydd presennol ar ol etholiadau llynedd.

Rhods a ddywedodd:Ac wrth son am 'troi cefn ar y broses ddemocrataidd', be wyt ti yn meddwl wrth hynny? Be wyt ti yn teimlo bydd yr alternative wedyn?


Dwi ddim yn gweld, yn bersonol, y gallwn i gefnogi unrhyw blaid heblaw am Blaid Cymru. Mae 'na bethau dwi'n eu hedmygu am Lafur a'r Toriaid, ond mae 'na bethau dwi'n eu casau hefyd. A dwi jyst yn casau'r Democratiaid Rhyddfrydol. Petai'r hen blaid ryddfrydol yn dal i fodoli........

Re: Bygythiad arall i sylfaen ariannol ‘Y Byd’

PostioPostiwyd: Iau 28 Chw 2008 8:52 pm
gan Rhys Llwyd
Rhaglen ddogfen ddifyr iawn am y Ceidwadwyr ar BBC iPlayer, clec yma, fydd hi yna am rai diwrnodau eto.

Re: Bygythiad arall i sylfaen ariannol ‘Y Byd’

PostioPostiwyd: Llun 03 Maw 2008 12:05 pm
gan Prysor
deiseb, protest, cydweithio?
yng Nghymru??!
get real, ys dywed y Sais......

Eniwe, maddeuant am ymddangos yn fflipant (beirniadaeth trwy ddychan yn hen grefft y dylid ei harfer fwy yn y Gymru gyfoes), ond y gwir ydi fod dyfodol Cymru yn gadarn yn nwylo'r broses ddemocrataidd, gyfansoddiadol. Hyd yn oed cyn datganoli, roedd hyn yn wir. Yn chwarter olaf yr 20ed ganrif, dim ond yn ystod yr ymgyrch losgi tai hâf y gwelwyd unrhyw arwyddion y gallai cenedlaetholdeb Cymreig ddilyn y llwybr chwyldroadol.

Rwan mai'r broses ddemocrataidd sydd yn deyrn, a bod natur diwylliannol cenedlaetholdeb Cymru yn ei gwneud yn anoddach nag erioed i galfaneiddio gweithredu torfol, radicaleiddio ffocws y mudiad democrataidd ddylai'r nod fod.

Bu ymdrech ddechrau'r ganrif hon i sefydlu ail blaid genedlaetholgar, ond daeth i ddim. Mae'r angen am ail blaid yn gliriach heddiw nag erioed. Serch hynny, wnaiff o ddim digwydd, ynrhannol am fod selogion Plaid Cymru unai wedi meddwi ar lywodraeth, yn rhoi rhyw sosialaeth ddogmataidd, symbolaidd, amherthnasol o flaen yr achos cyfansoddiadol a hunaniaethol, neu yn cwyno eu hanfodlonrwydd dros lasiad o win mewn middle class suare, cyn cario mlaen i weithio a phleidleisio dros y disaster mwyaf sydd wedi digwydd i Blaid Cymru - a Chymru - ers iddi ddod yn rym gwleidyddol o 50'au y ganrif ddwytha ymlaen.

Mae'n bryd i aelodau'r Blaid wrthryfela, a meddiannu'r arwinyddiaeth oddiwrth y llipriaid llwydaidd sy'n arwain achos Cymru i'r wal. Neu, o leiaf, dylai ffigyrau amlwg a dylanwadol oddifewn y Blaid ddechrau siarad allan, trefnu grwp mewnol, rhoi rhaglen radical, genedlaetholgar (gan gadw at egwyddorion cymdeithasol chwith rhydd, cyfoes) ger bron yr aelodaeth, a gwneud ymdrech i ddisodli'r drefn yn y gynhadledd nesaf. Er mwyn popeth.

Mae 'na ddatblygiad diddorol yng Ngwynedd ar y funud, efo Llais Gwynedd (Llais y Bobl gynt) yn rhoi ymgeiswyr yn etholiadau'r cyngor sir yn mis Mai. Mewn lle arall mae trafod yn fanwl, wrth reswm, ond rhaid dweud y bydd hi'n ddiddorol i weld be ddaw o hyn. Tybed a welir plaid genedlaethol newydd yn codi o'r ffenics leol hon? Mae gen i amheuon mawr, ond pwy a ŵyr?

Re: Bygythiad arall i sylfaen ariannol ‘Y Byd’

PostioPostiwyd: Llun 03 Maw 2008 12:25 pm
gan Muralitharan
Iawn Prysor, digon teg, ond pam wyt ti'n disgwyl i bobl eraill wneud hyn? Mae yna lawer iawn gormod o hyn bellach yn fy marn i ... sef mynnu fod yn rhaid i'r Blaid wneud hyn a hyn a hyn ... a bod rhaid i bobl y Blaid (amlwg neu beidio) wneud hyn a hyn a hyn. Ac wth gwrs pan fydd y Blaid neu bobl y Blaid yn methu, mae yna bob math o alw enwau a datgan brad ac ati.
Yn y bon, disgwyl i eraill wneud y gwaith caled ydi hyn, ac yna eistedd yn ol er mwyn cael eu condemnio nhw wedyn ... Rhyw fath o gyfuniad o laesu dwylo a golchi dwylo.
Ond, Prysor, mi rwyt ti'n siarad lot o sens y dyddiau hyn hefyd ...

Re: Bygythiad arall i sylfaen ariannol ‘Y Byd’

PostioPostiwyd: Llun 03 Maw 2008 6:18 pm
gan Prysor
Ond mae'n rhaid i rywun ei ddeud o hefyd, Mularitharan. Hyd yn oed os ydio'n rhyw agitator controfyrsial/heretig fel fi! :winc:

Mae 'na wir yn be ti'n ddeud wrth gwrs. Ond fyswn inna'n gallu troi dy ddadl ar ei phen a deud mai dyma'r typical ymateb rydan ni'n gael yng Nghymru pan fo rhywun yn codi'r pwynt dwi'n neud. A mae 'na bobol wedi trio sefydlu pleidiau eraill, a cwbwl wnaeth y Pleidwyr oedd 'close ranks' en masse. A dwi'n cofio furore mewn cynhadledd mudiad cenedlaetholgar ychydig flynyddoedd yn ôl, pan godwyd y posibiliad o roi ymgeiswyr i fyny ar gyfer seddi'r cyngor. Llwyddodd teyrngarwyr y Blaid oddifewn y mudiad, i ennill y dydd. A mae rhai ohonyn nhw bellach yn sefyll yn enw Llais Gwynedd... Y goleuni a welsant. :syniad:

Horses for courses ydio. Yn fy achos i, fysa pluan eira yn para mwy mewn popty na fyswn i mewn gwleidyddiaeth pleidiol. Yn un peth, o ran ennill pleidleisiau, mae fy natur amrwd, fy mywyd 'amgen', fy niddordebau, arferion cymdeithasol, daliadau radical a gorffennol eitha controfyrsial, yn yr un categori a codi treth ar guide-dogs! Ac yn ail, mae gwleidyddiaeth pleidiol, a pholitics ffurfiol, cyfansoddiadol yn rhywbeth mae gen i'r aversion mwya uffernol iddo. Fedrai ddim diodda'r math yna o fywyd, na be mae'n sefyll drosto. Dwi'n siwr mod i'n dod i fyny mewn rash pan dwi'n gwatsiad y news!

Dyn gonast dwi de. Di hynna ddim yn compatible efo bod yn wleidydd nacdi. Party line, twyllo pobol efo sbin, gwisgo colar a tei, defnyddio iaith 'ddiplomataidd' a protocol, a gweithio efo pwyllgorau! No wê hosê! Bod yn rhan o system sy'n gosod rheolau a chyfyngiadau ar fywydau bobl? Tyngu llŵ i frenhinas Lloegar? Nefar. Cymysgu efo politisians? Efo llond dwrn o eithriadau, dwi gweld gwleidyddion ymysg y mathau mwyaf ffiaidd o'r ddynolryw, a'r unig bartis dwi'n licio ydi rhai sy'n digwydd yn spontaneous ar benwythnosa, sydd efo'r posibilrwydd i unrhyw beth ddigwydd ar unrhyw adeg.

A coelia fi, fyswn i ddim yn gneud job dda arni, beth bynnag. Bardd a breuddwydiwr, sgwennwr, meddyliwr. Da i ddim byd arall.

Ar ddiwadd y dydd, dwi ddim yn rhan, nac erioed wedi bod yn rhan, o genedlaetholdeb cyfansoddiadol. Dwi'n credu mewn agenda chwyldroadol di-drais. Nid jesd oherwydd ei fod o'n fwy gonest, 'agored' ac egwyddorol, ond am ei fod o - o'i wneud yn iawn - yn fwy effeithiol o beth uffarn. Dyna ydi nghefndir i, full stop. Does gen i ddim math o ddiddordeb yn y trywydd cyfansoddiadol. Pawb at y peth y bo.

Dyma pam nad ydw i'n cymryd rhan yn yr 'mudiad genedlaetholgar' erbyn hyn (dwi ddim yn weithredol efo unrhyw fudiad cenedlaetholgar ers 3 mlynedd). Does ond y llwybr cyfansoddiadol ar ôl - a hynny am y dyfodol rhagweladwy. Does dim llwybr arall. Felly, count me out. (A phe byddai llwybr arall, falla fyswn i'n ffendio nad oes gen i ddiddordeb mewn wastio mwy o mywyd yn hitio mhen yn erbyn wal.)

Ac ar ôl tros 21 mlynedd o fod yn rhan o un mudiad, ymgyrch, breuddwyd, neu'r llall - dwi'n meddwl fod gen i ddigon o brofiad i allu dod i'r casgliad nad oes gan y llwybr chwyldroadol ddim hôps mul o gydio yng Nghymru, a nad yw'r llwybr cyfansoddiadol yn un y medraf i ei ddilyn o gwbl (fysa'n well genai fod yn fynach jinjyr efo genital warts).

Dyna pam mod i wedi setlo i ganolbwyntio ar brosiectau gwirfoddol yn y gymuned (dwi'n rhan o 4 ar y funud - ac oes mae 'na blydi pwyllgorau arnyn nhw!), trefnu digwyddiadau diwylliannol (cyfoes, cynhenid ac addysgol) yn y gymuned, a chynhyrchu a hyrwyddo agweddau o ddiwylliant poblogaidd trwy gyfrwng y Gymraeg - rhywbeth yr ydw i'n ei weld yn hanfodol os am gael trwch siaradwyr y Gymraeg i uniaethu â'r iaith a rhoi gwerth mwy na 'cyfrwng cyfathrebu' iddi. Dwi'n gweld hybu hynny yn rhan amhrisiadwy o unrhyw ymdrech i gynnal hunaniaeth cenedlaethol Cymreig. Wedi'r cwbl, wnaiff y broses wleidyddol gyfansoddiadol byth lwyddo i wneud y gwaith hanfodol yma - y gwaith caib a rhaw tu mewn i feddyliau'r werin, ar lawr gwlad. Heb hunaniaeth, heb ddim.

Ceffylau i gaeau arbennig, Mularitharian. Hwnna ydio. Mae 'na gannoedd o bobol sydd wedi cyfrannu mwy i wleidyddiaeth (yn sicr!) a chymdeithas sifig (hollol bendant sicr!) Cymru na fi. Ond ffwc o bwys gena i, achos dwi wedi/yn chwarae fy rhan i, a mae fy nghydwybod i môr glir a'r gloch.

Dyletswydd i Gymru a Chymry sydd gan Bleidwyr, nid i blaid wleidyddol. A mae 'na ddyletswydd ar Bleidwyr i ail-feddiannu eu plaid eu hunain. Nid am mai nhw sydd wedi sbaddu ymgais i sefydlu ail blaid genedlaethogar ar adegau allweddol (o weld be sydd wedi digwydd i Blaid Cymru ers hynny), ond am mai Pleidwyr sydd gan y gallu i wneud hynny.

Mae'r ffaith mai pobl o du allan y Blaid sy'n gweld hyn yn dweud mwy am ddiffyg gweledigaeth, dychymyg ac egni presennol y rhai sydd oddifewn iddi, nag am unrhyw duedd o "laesu dwylo a golchi dwylo" o du rhywun fel fi.