Bygythiad arall i sylfaen ariannol ‘Y Byd’

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Bygythiad arall i sylfaen ariannol ‘Y Byd’

Postiogan Sosban Fach » Maw 04 Maw 2008 9:34 pm

Diom yn "gachu" falshy, mae o'n edrych reit neis... ma pa mor ddrud ydio i''w gynhyrchu mor ddel a trwchus yn swnion gachu.. pam lai dechra'n fach a gwithio fynnu ydi'r cwbwl dwin ddweud fel be welesh i ar y byd ar bedwar de- :lol: haha dwi swnio tha real idiot ma ond wyddoch chi be dwi'n feddwl? Gellir dal gyhoeddi "y byd" yn lot rhatach petai nhw'n meddwl lle i dorri nol a.y.y.b ar weddil dy ymateb sori ond fedraim deud os ti yn cytuno neu anghytuno efo fi. :S y ffaith ydi bo rhan fwya o gymru cymraeg dwin nabod ddim efo mynadd ddarllen pethe syn son am ddim ond materion cymraeg yn unig, neu ma nhw fel fi a ddim wedi rhoi siawns teg i;r papur o'r blaen gan dyna be ma ein nainiau a taidiau yn darllen os welwch chi pwynt fi....
Sosban Fach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Sul 02 Maw 2008 8:24 pm

Re: Bygythiad arall i sylfaen ariannol ‘Y Byd’

Postiogan Sosban Fach » Maw 04 Maw 2008 9:39 pm

Prysor a ddywedodd:Dyna ni - popeth yn sorted, felly! Arian i bapur newydd Cymraeg, erbyn ganol wythnos. Job done, a 'hwre' fawr. :winc:

Sori de ond olia ma nhw'n neud wbath... ti'm yn union yn cicio a strancio i'r jel dros y peth dy hyn cyn belled a dwi gwbo..
Sosban Fach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Sul 02 Maw 2008 8:24 pm

Re: Bygythiad arall i sylfaen ariannol ‘Y Byd’

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Maw 04 Maw 2008 10:14 pm

Sosban Fach a ddywedodd:y ffaith ydi bo rhan fwya o gymru cymraeg dwin nabod ddim efo mynadd ddarllen pethe syn son am ddim ond materion cymraeg yn unig, neu ma nhw fel fi a ddim wedi rhoi siawns teg i;r papur o'r blaen gan dyna be ma ein nainiau a taidiau yn darllen os welwch chi pwynt fi....

Y Byd- mae yna gliw bach yn enw'r papur yn fan hyn :D
Mae rhai pethau yn e.e. Papurau Bro a Y Cymro yn iawn, ond braidd yn ddiflas e.e. pwy gafodd gydradd 3ydd yn y gystadleuaeth eisteddfodol mewn rhyw bentref. Maharan yn cael ei chneifio. Waw wi de??
Dwi YN hoffi pethau sy'n hiraethu am yr oes a fu ac yn gadael i'r cloc dician mewn ffordd llesmeiriol (pethau mae hen bobl yn ei mwynhau). Ond dwi hefyd eisiau darllen pethau "NORMAL"- pethau bara menyn pob dydd yn y Gymraeg. Achosion llys. Gwleidyddiaeth yr UDA. Canlyniad etholiad Brasil (os ydyn nhw yn cael un o dro i dro 'lly).
Y wasg Gymraeg- MWY. AMRYWIAETH. AMLACH. POBLOGEIDDIO. BYWIOGI.
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Bygythiad arall i sylfaen ariannol ‘Y Byd’

Postiogan Sosban Fach » Maw 04 Maw 2008 11:25 pm

ia dwin totaly cytuno de, dyna pam onin deud bo y cymro dipyn o bapur nain a taids- jest ma "nhw"(heb swnio tha conspirasy nyt) isho unrhyw esgus i beidio busoddi yn y Gymraeg... a ma nhw wedi ffeindio rheswm sy ar yr arwyneb yn un dilys dros ddim busoddi mewn papur dyddiol sa bod pobol yn cymyd mantais o be sy genyn nhw yn wsnosol sy'n swnion deg i ddeud y gwir....
ma holl beth ma d rhoi chydig o cic yn tin i fobol (fel fi) sy heb fynadd darllen yn gymraeg ers tro- newydd ddechra darllen y cymro ydw i a mae o lot gwell na o ni'n ddisgwyl.. i ddeud y gwir am na ambell o erthygla digon difyr bod ei ddelwedd o braidd yn hen ffash, be dwin deud ydi ma lot o fobol ddim yn rhoi siawns teg idda fo- neshi ddim eniwe.
Sosban Fach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Sul 02 Maw 2008 8:24 pm

Re: Bygythiad arall i sylfaen ariannol ‘Y Byd’

Postiogan Prysor » Mer 05 Maw 2008 12:29 am

Sosban Fach a ddywedodd:
Prysor a ddywedodd:Dyna ni - popeth yn sorted, felly! Arian i bapur newydd Cymraeg, erbyn ganol wythnos. Job done, a 'hwre' fawr. :winc:

Sori de ond olia ma nhw'n neud wbath... ti'm yn union yn cicio a strancio i'r jel dros y peth dy hyn cyn belled a dwi gwbo..


Sori de ond ella mod i ddim yn gweld neb arall yn cicio a strancio i jel am y peth chwaith...

Sori de ond ella mod i'n cyfeirio at dueddiad y Cymry i wneud rhy chydig rhy hwyr...

Sori de ond ella mod i'n cymryd pop diangen at y Gymdeithas (er na allai weld fod gen i unrhyw reswm i wneud hynny, ac yn enwedig a finna wedi arwyddo'r ffycin ddeiseb [tudalen 11 o 22] )....... :?

Sori de ond ella mod i'n cyfeirio at lywodraeth orllewinol yn rhoi fewn i alwadau deiseb am y tro cynta mewn hanes...

Sori de ond ella dylat titha dynnu dy sosban oddar y tân cyn dechra teipio...

Sori de...

:P

:winc:
Golygwyd diwethaf gan Prysor ar Gwe 07 Maw 2008 11:27 am, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Bygythiad arall i sylfaen ariannol ‘Y Byd’

Postiogan Sosban Fach » Mer 05 Maw 2008 11:26 am

haha nais won! Mae'n iawn sti dwin madda i ti boi! :lol:

Just pwynt fi oedd -pam barnu CYI sa bod neb arall gallu meddwl am syniad gwell a'i wneud o?? :? :?

Os ma pobol cymru gymint o gachwrs a hynnu wedyn da ni'm yn haeddu "y byd" wedi'r cwbwl??? A ddyla ni gyd stopio swnio am y peth??? Neu ydwi wedi mwydro pen yn hyn?
Sosban Fach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Sul 02 Maw 2008 8:24 pm

Re: Bygythiad arall i sylfaen ariannol ‘Y Byd’

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Mer 05 Maw 2008 9:01 pm

Hei, Sosban- ti 'di llofnodi deiseb CYIG? Ynteu a wyt ti wedi mynd off the boil?
Gyda llaw (heb ei anelu at Sosban):
http://www.ybyd.com/maw08.html
Difyr tu hwnt.
Yndi, mae hi'n ddidorol iawn darllen y rhestr o enwau sydd wedi llofnodi deiseb CYIG. Y rhai a ddylai wybod yn well. Neno'r Tad: Deffrwch!
Nifer o gyfenwau di-Gymraeg ar y rhestr- diolch yn fawr am hyn. Gobeithio fod hyn yn codi cywilydd ar y rhai a ddylai wybod yn well :!: :!: :!:
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Bygythiad arall i sylfaen ariannol ‘Y Byd’

Postiogan Sosban Fach » Mer 05 Maw 2008 10:06 pm

Do dwi d llofnodi o- pam baswn in sharad wrthoch chi mewn ton mor hunaingyfiawn taswn i ddim??? :lol: Wthgwrs dwi d mynd off the boil... neu basa sgwrs ma reit ddiflas basa fo? Gewch chi fod mor off the boi a liciwch chi ar y tinternet, gai ferwi'n sych os mynnai! :ing: :gwyrdd: Hyd yn oed os dwi yn swnio tha dipyn o ffwl :ffeit:
Sosban Fach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Sul 02 Maw 2008 8:24 pm

Re: Bygythiad arall i sylfaen ariannol ‘Y Byd’

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Gwe 07 Maw 2008 10:53 am

Newydd sylwi- Golwg ar yr edefyn yma-254. Sut all hyn fod yn gywir?
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Bygythiad arall i sylfaen ariannol ‘Y Byd’

Postiogan sian » Gwe 07 Maw 2008 11:10 am

Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Newydd sylwi- Golwg ar yr edefyn yma-254. Sut all hyn fod yn gywir?


Wps, sori, fy mai i dwi'n meddwl. :wps:
Roedd y drafodaeth yn mynd oddi ar y pwnc ac felly fe wnes i rannu'r drafodaeth yn ddwy gan alw'r llall yn "Gweithio y tu mewn i'r system - neu y tu allan".
Mae'r Golwg ar yr edefyn yma ar gyfer hwnnw yn 4685 - gyda dim ond 22 o negeseuon - felly mae'n ymddangos mod i wedi gwneud rhyw gamgymeriad wrth rannu'r edefyn. Oes posib newid y rhifau rownd? Dim amser i edrych i mewn i'r peth nawr. Sori eto.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 30 gwestai

cron