Prysor a ddywedodd:Dyna ni - popeth yn sorted, felly! Arian i bapur newydd Cymraeg, erbyn ganol wythnos. Job done, a 'hwre' fawr.
Dwi'n derbyn nad yw 'deiseb' yn ddull cyffrous iawn o weithredu, OND gyda dyfodiad y Pwyllgor Deisebau, mae'n gallu bod yn ddull effeithiol. Gan ein bod wedi cyflwyno'r ddeiseb yn swyddogol i'r pwyllgor deisebau, ac mae wedi cael ei dderbyn fel deiseb dilys, bydd rhaid i'r pwyllgor drafod y mater yn eu cyfarfod nesaf ar Ebrill 10 2008. Byddant wedyn yn penderfynu ble i ddanfon y ddeiseb nesaf (mwy na thebyg y pwyllgor Cymunedau a Diwylliant) ac felly mae'n gorfodi Aelodau'r Cynulliad i drafod y mater, ac yn cadw'r pwnc ar yr agenda wleidyddol lawr yng Nghaerdydd.
Aelodau'r pwyllgor yw:
Val Lloyd (Cadeirydd) - Llafur - Dwyrain Abertawe
Andrew RT Davies - Plaid Geidwadol Cymru - Canol De Cymru
Michael German - Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - Dwyrain De Cymru
Bethan Jenkins - Plaid Cymru - Gorllewin De Cymru
Felly byddai'n syniad i chi gysylltu gyda nhw yn nodi eich cwyn, a gofyn iddynt ystyried y pwnc yn ofalus yn y cyfarfod Pwyllgor nesaf.