Yn ôl adroddiad yn rhifyn 24 Ionawr 2008 o ‘Golwg’, mae cwmni Trinity Mirror, perchennog nifer fawr o bapurau newydd ledled Gwledydd Prydain, yn ystyried gwneud cais am arian sydd wedi ei addo, o dan gytundeb ‘Cymru’n Un’ y Glymblaid lywodraethol ym Mae Caerdydd, ar gyfer cyhoeddi papur dyddiol yn Gymraeg.
Yn ôl yr adroddiad, pe bai Rhodri Glyn Thomas, Gweinidog Diwylliant Llywodraeth y Cynulliad, yn penderfynu cynnig nawdd ariannol cyhoeddus ar gyfer papur newydd o’r fath, byddai’n rhaid i’r arian hwnnw fod yn agored i dendr o dan ddeddfau cystadleuaeth yr Undeb Ewropeaidd.
O ystyried maint yr adnoddau argraffu a dosbarthu sydd gan Trinity Mirror yng Nghymru, anodd iawn fuasai i gwmni Dyddiol Cyf., perchnogion papur newydd arfaethedig ‘Y Byd’, dendro’n llwyddiannus yn eu herbyn am yr arian.
Ac mae yna sawl rheswm dros bryderu ynglŷn â sefyllfa lle byddai Trinity Mirror yn berchen ar yr unig bapur newydd dyddiol Cymraeg.
Y cwmni hwn sydd eisoes yn berchen ar dri o’r pedwar prif bapur newydd Cymreig o ran cylchrediad — y ‘South Wales Echo’, y ‘Western Mail’ a’r ‘Daily Post’— heb sôn am y papurau lleol yng Nghymru sydd hefyd yn rhan o’u stabl. Nid yw’n beth iach fod un cwmni’n rheoli cyfran mor helaeth o’r papurau dyddiol sy’n trafod materion Cymreig.
Ar ben hynny, rhaid cofio tarddiad Trinity Mirror: ffrwyth cyfuniad ydyw rhwng cwmni Trinity plc a chwmni Mirror Group Newspapers, perchnogion y ‘Daily Mirror’.
Mae cefnogaeth draddodiadol y papur hwnnw i’r Blaid Lafur yn hysbys. Yng Nghymru, yn dilyn methiant y Blaid Lafur i ennill mwyafrif clir yn yr etholiad cyntaf i’r Cynulliad ym 1999, ac yn wyneb twf sylweddol y gefnogaeth gyhoeddus i Blaid Cymru a gafwyd yn yr etholiad hwnnw, sefydlodd Trinity Mirror bapur newydd y ‘Welsh Mirror’, a aeth ati i ymosod yn rheolaidd ar genedlaetholdeb Cymreig ac ar garedigion yr iaith Gymraeg.
Yr oedd cynnwys a thôn y propaganda mor eithafol ar brydiau fel bod y ‘Welsh Daily Mirror’ (fel yr ailenwyd y papur maes o law) wedi dod yn gryn embaras i rai aelodau blaenllaw o’r Blaid Lafur yng Nghymru erbyn etholiad 2003 i’r Cynulliad. Yn dilyn llwyddiant cymharol Llafur, a’r gwanhau a gafwyd yn sefyllfa etholiadol Plaid Cymru, yn yr etholiad hwnnw, prysurwyd i gau’r ‘Welsh Daily Mirror’ i lawr fel endid ar wahân.
Bellach, yn sgîl etholiad 2007, cafwyd clymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Yn naturiol, felly, nid yw atgyfodi’r ‘Welsh Daily Mirror’ ar y gorwel. Ond pa ffordd well o sicrhau na fyddai papur dyddiol Cymraeg yn gallu dod yn llwyfan annibynnol i farn genedlaetholgar ac i ymgyrchoedd dros y Gymraeg — dau o brif gas bethau cyfran sylweddol o aelodaeth Plaid Lafur Cymru — na sicrhau bod y papur yn ddiogel dan bawen corfforaeth sy’n gyfeillgar tuag at y blaid honno?
Mae’n bosibl, mewn gwirionedd, mai strategaeth glyfrach sydd ar waith. Yn ôl yr adroddiad yn ‘Golwg’, y rheswm pam y mae Trinity Mirror eisoes wedi “cysylltu gyda Llywodraeth y Cynulliad” yw eu bod “yn anhapus wrth weld yr holl arian yn cael ei roi ar blât i’r ‘Byd’”.
Sy’n awgrymu’r posibilrwydd y gallai Trinity Mirror wneud cais am gyfran yn unig o’r arian cyhoeddus, er mwyn creu’r argraff o hyrwyddo cystadlu agored ym maes newyddiaduraeth Gymreig. Ond effaith rhannu’r nawdd cyhoeddus yn y fath fodd fuasai ei gwneud yr un mor amhosibl i’r ‘Byd’ fod yn ariannol hyfyw â phe bai Trinity Mirror yn cael y cyfan.
Dyna roi’r farwol, felly, i’r nod o gychwyn papur newydd dyddiol Cymraeg annibynnol. Hoffwn awgrymu y buasai hynny’n fêl ar fysedd Plaid Lafur Cymru.