Cymuned mewn trafferth

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Cymuned mewn trafferth

Postiogan Aran » Gwe 23 Mai 2008 5:25 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Ti'n son am greu marchnad dai leol, a chreu arian lleol. Mae cyrraedd sefyllfa lle mae'r pethau hyn yn gwreiddio, ac yn chwarae rhan ym mywyd bob dydd trwch y boblogaeth, yn mynd i gymeryd cenedlaethau.


Mae hyn yn hollol, hollol anghywir. Mewn llefydd lle mae'r fath o newidiadau dan ni wedi bod yn eu cynnig wedi'u gweithredu, maen nhw fel arfer wedi cymryd blwyddyn neu ddwy i wneud gwahaniaeth sylweddol.

Garnet Bowen a ddywedodd:Dysga ddameg King Canute.


Wyt ti'n ceisio swnio'n ffroenuchel yn fan hyn? Neu ydy hyn jesd y ffordd ti'n arfer siarad efo pobl eraill?

Garnet Bowen a ddywedodd:Yn syml, ia. Mae o'n swnio yn galon galed, ond dwi'n credu mai un o'r gwersi sy'n rhaid i Cymuned ei ddysgu yw sut i ddweud 'na'. "Whilst Cymuned supports your aims, we are a group that exists specifically to campaign for communities where the Welsh language is still spoken by the majority. Providing you with material support would divert resources unecessarily from our own campaigns. However, we wish you the best of luck". Rhywbeth i'r perwyl hynny fyddai wedi bod yn addas.


Fedra i ddim anghytuno'n fwy efo hyn. Tra bod pwrpas bodolaeth Cymuned ydy ennill dyfodol i gymunedau Cymraeg, dydy'r rhai sydd wedi bod yn fodlon cadw'r mudiad i fynd ddim wedi credu bod anwybyddu gweddill Cymru yn ffordd lwyddiannus i wneud hynny. Ar ran trafodaethau rydym wedi cael ar lefel y Cynulliad sydd wedi esgor ar bwyntiau gweithredol mewn cynnigion ar gyfer LCOs, mae wedi bod yn hollol glir na fyddai'r trafodaethau wedi llwyddo pe byddai ein syniadau wedi bod yn berthnasol i'r Fro Gymraeg yn unig.

Hefyd, ar ran gweithrediad y mudiad, byddai'r agwedd yma wedi gwneud niwed real iawn. Ar ein gwannaf, tua diwedd 2004, roedd gynnon ni gwta 6 neu 7 o wirfoddolwyr roedd yn fodlon gwneud unrhyw fath o waith ymarferol. Pan mae 2 neu 3 unigolyn yn dod i fewn i helpu mewn sefyllfa fel hynny, yn gweithio'n galed iawn, yn helpu gyda phethau yn y Fro (nid jesd yn eu hardal eu hunain) ac yn ail-godi hyder ac egni y llond llaw sy'n dal wrthi, byddai ffolineb o'r fath waethaf i'w troi i ffwrdd.

Pe tasen ni wedi dewis gwneud hynny, dw i'n eithaf sicr y byddai'r rhai oedd ar ôl yn 2005 wedi alaru ar bob dim erbyn diwedd y flwyddyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Nôl

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 36 gwestai

cron