Denu mwy o bobl cyffredin i'r Steddfod Genedlaethol

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Denu mwy o bobl cyffredin i'r Steddfod Genedlaethol

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Iau 03 Ebr 2008 6:03 pm

Mae Dic Jones wedi dweud sawl gwaith ei fod eisiau denu mwy o bobl sydd yn mynychu'r Sioe Frenhinol i'r Steddfod Genedlaethol. Syniad da. Rhai ffermwyr yn bobl iawn siwr.
Faint o aelodau maes-e sydd wedi crwydro'r maes a wedi meddwl- digon o bobl y pethe, athrawon, darlithwyr, cyfryngis a.y.y.b.
Llawer o bobl diwylliedig iawn (pobl clen iawn) eisioes yn mynychu'r Steddfod yn flynyddol.

Ai fi sy'n rhamantu ynteu a oedd yna adeg pan oedd y Genedlaethol yn atyniad mawr i filoedd ar filoedd o'r werin ffraeth?
Yndi, mae cymdeithas a'r oes wedi newid.

Y caswir ydi fod nifer o Gymry Cymraeg cyffredin yn gweld ein Prifwyl fel rhywbeth braidd yn sych. Problem delwedd... Crachach a.y.y.b. Eitha annheg efallai- ond mae'n siwr gen i fod yna binshad o wirionedd yn hyn hefyd.

Reit ta- ein Prifwyl eleni. Nid oes gen i syniadau simplistig yn fy mhen yngŷn â Chymry Cymraeg (rhan fwyaf yn ddosbarth canol- yn ddiymwad) Caerdydd, ond mae yna beryg i'r ddelwedd waethygu ym meddyliau nifer o Gymry Cymraeg cyffredin Ceredigion, Mon, Gwynedd, Shir Gâr... "ryw hen Steddfod elitaidd, boring- bob dim yn mynd i Gaerdydd math o beth"- afresymegol efallai, ond dyna ni.

Felly, fy nghwestiwn i ydi: sut y gellir poblogeiddio y Genedlaethol ym mysg trawsdoriad cyflawn o'r boblogaeth sy'n siarad Cymraeg? Yn arbennig y bobl cyffredin- sef, GWIR GALON CYMREICTOD! Ia, ffwcio'r tywysogion (sori Ein Llyw Olaf!), boneddigion, a phobl neis, neis, di-fflach...
Onid dyma'r math o beth y dylai mudiad fel Cymuned boeni yn ei gylch (yn lle malu cachu am y busnas Barclays yma)?
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Denu mwy o bobl cyffredin i'r Steddfod Genedlaethol

Postiogan Macsen » Iau 03 Ebr 2008 6:27 pm

Dwi'n siwr bydd agosrwydd siopau Caerdydd yn denu ambell un...

Fel un o'r 'werin ffraeth' dwi wedi mynychu'r Steddfod bob blwyddyn. Cynfas yw'r Eisteddfod, cae wag i'r pobol sy'n mynd yno wneud beth bynnag mae nhw ei eisiau gyda hi. Felly os nad yw'n cynnwys ryw stondin neu weithgaredd y mae rywun yn ei hoffi, mater o drefnu'r peth yw hi.

Ond mae yna lot o amrywiaeth yno yn barod a mae hi i fyny i'r unigolyn beth mae'n dewis ei wneud. Dw i byth bron yn mynd ar gyfyl y Pafiliwn blaw i wylio seremoniau Coroni, Cadeirio ayyb... ond alla'i ffeinio digon ar y amrywiol feysydd i lenwi diwrnod neu ddau.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Denu mwy o bobl cyffredin i'r Steddfod Genedlaethol

Postiogan 7ennyn » Iau 03 Ebr 2008 6:31 pm

Dwi ddim yn siwr os ydi'r broblem yma yn bodoli. Fedrai ond siarad o fy mhrofiad fy hun, ond o'r bobl dwi'n nabod sydd yn mynd i'r Eisteddfod yr unig beth sydd ganddynt yn gyffredin ydi ymwybyddiaeth go gryf o'u Cymreictod. Pobol digon cyffredin ydyn nhw i gyd gan gynnwys fy hun. Ond mi welai dy bwynt di i ryw raddau. Dwi yn nabod un neu ddau sydd a rhagfarn di-sail am y brifwyl. Dwi'n meddwl bod eu barn wedi cael ei liwio gan or-bwyslais gan y cyfryngau ar y seremoniau a'r digwyddiadau uchel ael - sydd i fod yn onest yn reit isel ar restr blaenoriaethau y rhan fwyaf o Eisteddfotwyr.

Dwi ddim yn meddwl bod angen newid rhyw lawer ar yr Eisteddfod ei hun, ond mae angen newid ar y ffordd y mae'r wasg a'r cyfryngau yn ei ddarlunio. Beth am atgyfodi'r rhaglenni 'Swigs'? Hefyd dwi'n meddwl y bysa chwaraeon yn gallu chwarae rhan mwy blaenllaw yn ystod yr wythnos.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Re: Denu mwy o bobl cyffredin i'r Steddfod Genedlaethol

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Iau 03 Ebr 2008 7:03 pm

Ond a oes yna ddigon o HWYL ar y maes? Bandiau yn chwarae'n fyw yn yr awyr agored- syniad da iawn. Diwylliant mwy 'anffurfiol', ymlaciedig. 'Rwyf hefyd yn hoff o fynd mewn i'r pafiliwn am ryw hanner awr bach, busnesu... gweld y prif seremoniau a.y.y.b.
Ond hufen iâ neu peint a gwrando ar fand da hefo tywydd rhagorol- be gewch chi'n well? Efallai y dylid hysbysebu yr ochr yma fwy?
Trefnu pasiant ar y maes- a gobeithio y bydd y tywydd yn sych? Pennod o hanes Cymru hefo digon o liw?
Welodd rhywun y rhaglen 'Lle Aeth Pawb' yn ddiweddar ar es-ffor-si? Band Ceffyl Pren- meistri PR? Yr hofrennydd... wow :D
Hoffwn weld un o sêr yr SRG yn cychwyn dadl a bod yn gegog (ffys a stwr) er mwyn creu mymryn o heip- dim llawer o ots gen i, cyn belled fod yr artist yn haeddu galw ei hunan yn artist (h.y. mymryn o dalent 'lly).

Seindyrf, dawnsio disgo- nid pawb sy'n cyffroi wrth brynu'r ffrigin Cyfansoddiadau. Rhai cystadlaethau yn cael gormod o sylw. Eraill ddim yn cael digon? Dim ond gofyn.

Un peth sydd wedi fy ngwylltio- S4C yn gwastraffu amser yn holi rhyw arbenigwr yn y stiwdio- tra bod cystadleuwyr sydd wedi ymarfer llawer i gael llwyfan ddim yn cael llawer o air time.

Selwyn Iolen, Dic Jones- dilyniant iach i'w groesawu. Dau foi iawn. Llawer gwell na'r un...wel, a oes angen dweud mwy?
Cerddais unwaith am tua hanner awr oddi amgylch y maes, 'roedd fel petai fy mod yn adnabod gwynebau 50% o'r bobl a welais- pobl adnabyddus S4C... (na, sgin i ddim syniad simplisitg yn fy mhen parthed hyn)- mwy o Joe Bloggs ein pentrefi, trefi a'n dinasoedd os gwelwch yn dda. Mae'r maes fel Who's Who o'r diwylliant Cymraeg.
Ail-gysylltu. Ni cheir ateb syml. Ond at ei gilydd, tydi'r profiad jesd ddim digon cyffredin i mi.
7ennyn- syniad gwych- rhaglen 'Swigs'. Un o lwyddiannau mawr S4C. Doniol...
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Denu mwy o bobl cyffredin i'r Steddfod Genedlaethol

Postiogan Macsen » Iau 03 Ebr 2008 7:11 pm

Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Ond a oes yna ddigon o HWYL ar y maes? Bandiau yn chwarae'n fyw yn yr awyr agored- syniad da iawn. Diwylliant mwy 'anffurfiol', ymlaciedig. Ond hufen iâ neu peint a gwrando ar fand da hefo tywydd rhagorol- be gewch chi'n well?

Ym, pryd yw'r tro diwetha i ti fod i'r Steddfod? Mae'r holl bethau uchod yn digwydd er blynyddoedd bellach.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Denu mwy o bobl cyffredin i'r Steddfod Genedlaethol

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Iau 03 Ebr 2008 7:18 pm

Macsen- sut wyt ti'n credu y dylid cynyddu yr elfen o HWYL? Ti'n credu bod yna le i wella?
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Denu mwy o bobl cyffredin i'r Steddfod Genedlaethol

Postiogan Huw T » Iau 03 Ebr 2008 8:33 pm

Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Ond a oes yna ddigon o HWYL ar y maes? Bandiau yn chwarae'n fyw yn yr awyr agored- syniad da iawn. Diwylliant mwy 'anffurfiol', ymlaciedig. 'Rwyf hefyd yn hoff o fynd mewn i'r pafiliwn am ryw hanner awr bach, busnesu... gweld y prif seremoniau a.y.y.b.
Ond hufen iâ neu peint a gwrando ar fand da hefo tywydd rhagorol- be gewch chi'n well? Efallai y dylid hysbysebu yr ochr yma fwy?
Trefnu pasiant ar y maes- a gobeithio y bydd y tywydd yn sych? Pennod o hanes Cymru hefo digon o liw?
Welodd rhywun y rhaglen 'Lle Aeth Pawb' yn ddiweddar ar es-ffor-si? Band Ceffyl Pren- meistri PR? Yr hofrennydd... wow :D
Hoffwn weld un o sêr yr SRG yn cychwyn dadl a bod yn gegog (ffys a stwr) er mwyn creu mymryn o heip- dim llawer o ots gen i, cyn belled fod yr artist yn haeddu galw ei hunan yn artist (h.y. mymryn o dalent 'lly).

Seindyrf, dawnsio disgo- nid pawb sy'n cyffroi wrth brynu'r ffrigin Cyfansoddiadau. Rhai cystadlaethau yn cael gormod o sylw. Eraill ddim yn cael digon? Dim ond gofyn.

Un peth sydd wedi fy ngwylltio- S4C yn gwastraffu amser yn holi rhyw arbenigwr yn y stiwdio- tra bod cystadleuwyr sydd wedi ymarfer llawer i gael llwyfan ddim yn cael llawer o air time.

Selwyn Iolen, Dic Jones- dilyniant iach i'w groesawu. Dau foi iawn. Llawer gwell na'r un...wel, a oes angen dweud mwy?
Cerddais unwaith am tua hanner awr oddi amgylch y maes, 'roedd fel petai fy mod yn adnabod gwynebau 50% o'r bobl a welais- pobl adnabyddus S4C... (na, sgin i ddim syniad simplisitg yn fy mhen parthed hyn)- mwy o Joe Bloggs ein pentrefi, trefi a'n dinasoedd os gwelwch yn dda. Mae'r maes fel Who's Who o'r diwylliant Cymraeg.
Ail-gysylltu. Ni cheir ateb syml. Ond at ei gilydd, tydi'r profiad jesd ddim digon cyffredin i mi.
7ennyn- syniad gwych- rhaglen 'Swigs'. Un o lwyddiannau mawr S4C. Doniol...


Na, na, na. Yr Eisteddfod yw pinacl y diwylliant 'uchel' Cymraeg. Beth sydd gan ddawnsio disgo i wneud a diwylliant Cymraeg? Dim byd o gwbl, dyna'r ateb. Dwi'n sicr ddim o blaid rhyw geisio "trendeiddio'r" Steddfod i geisio ennill rhyw dyrfa fawr newydd, ond ryfeddol anweladwy! Y canlyniad yw fod neb yn hapus - dyw'r gynulleidfa newydd ddim yn troi lan, a ma'r gynulleidfa draddodiadol yn cael ei 'alienato'.

Bydden ni'n synnu dim taw'r gwir reswm tu ol i boblogrwydd y Sio Frenhinol yw'r cwrw a'r rhyw. Yn bersonnol, bydde'n well gen i gadw'r Steddfod fel mae ar y funud, fel un o wyliau hynaf a mwyaf diwylliedig Ewrop. Neu fydde'n well gen ti weld ffermwraig noeth, feddw, dew yn dawnsio ar y Maen Llog.
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Re: Denu mwy o bobl cyffredin i'r Steddfod Genedlaethol

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Iau 03 Ebr 2008 9:04 pm

Huw T a ddywedodd:Na, na, na. Yr Eisteddfod yw pinacl y diwylliant 'uchel' Cymraeg. Beth sydd gan ddawnsio disgo i wneud a diwylliant Cymraeg? Dim byd o gwbl, dyna'r ateb.

Y pwyslais ar ragoriaeth. Mae hyn yn bwysig. Ffenestr siop- y gorau sydd gan y diwylliant Cymraeg i'w gynnig. Hyn yn bwysig iawn.
Dawnsio disgo- wedi bod yn gystadleuaeth swyddogol ers o leiaf ychydig o flynyddoedd. Pam lai?! Mae'n bosib cyrraedd lefel o ragoriaeth yn y maes yma. Ti eisiau dileu a chael gwared ar y gystadleuaeth? Nid dyma fy hoff gystadleuaeth o bell ffordd! Ond pe bawn i yn dadlau o blaid codi dau fys iddi yna efallai y byddem braidd yn snobyddlyd?
Y pwyslais ar ragoriaeth. Cymharu perfformwyr hefo safonau Ewropeaidd a rhyngwladol. Llai o or-ganmol...safon sy'n bwysig, nid bod yn gul a dweud "tydi hyn ddim yn fitio i gategori y pethe- felly mas".
Danwsio disgo- hawdd cael dadl athronyddol, hanesyddol... Ond hels bels- dwi'n siwr fod dawnsio disgo yn fwy poblogaidd yn y Gymru gyfoes na dawns y glocsen.
Ni ddylid byth cael gwared ar ddawns y glocsen yn y Genedlaethol (www- traddodiad!), ond rhaid peidio bod yn gul hefyd! Dawnsio hefo graen ac arwyddion clir o ymarfer am oriau lawer.

Dic Jones (nid fi) sydd wedi sôn gynta (am wn i) am y Sioe Frenhinol parthed ail-gysylltu hefo pobl sydd ddim yn mynychu'r Steddfod yn reolaidd. Ond byddai gen i fwy o ddiddordeb mewn sbio ar darw mawr tew am hanner awr na aros mewn ambell i stondin ar y maes. Ond dyna ni- pawb a'i chwaeth.

Safon. Dychymyg. Wythnos hollbwysig ym mywydau mwy o Gymry o sawl wahanol gefndir. Nid oes gen i brainwave, ond mae'r ymateb yn ddifyr hyd yn hyn...
Ac os ydi dawnswyr disgo yn defnyddio traciau Cymraeg ar y llwyfan, yna beth yw'r ots?
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Denu mwy o bobl cyffredin i'r Steddfod Genedlaethol

Postiogan krustysnaks » Gwe 04 Ebr 2008 1:16 am

Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:hawdd cael dadl athronyddol,

ymm...
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Denu mwy o bobl cyffredin i'r Steddfod Genedlaethol

Postiogan Kez » Gwe 04 Ebr 2008 1:31 am

Huw T a ddywedodd:

Bydden ni'n synnu dim taw'r gwir reswm tu ol i boblogrwydd y Sio Frenhinol yw'r cwrw a'r rhyw. Yn bersonnol, bydde'n well gen i gadw'r Steddfod fel mae ar y funud, fel un o wyliau hynaf a mwyaf diwylliedig Ewrop. Neu fydde'n well gen ti weld ffermwraig noeth, feddw, dew yn dawnsio ar y Maen Llog.


Ymm.... cwestiwn anodd - 'tasat ti heb ddisgrifio'r ffermwraig fel un dew, bysa hi'n rhwyddach.

Wedi meddwl, pawb at y peth y bo er 'bod hi'n dal yn gwestiwn anodd (Pa mor dew wt ti'n meddwl wrth weud tew - odyn ni'n siarad am rywun fel Dawn French neu rywun fel Godzilla :?)
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Nesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron