Ymosod ar geffyl yn enw'r Iaith!!

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Ymosod ar geffyl yn enw'r Iaith!!

Postiogan Macsen » Iau 10 Ebr 2008 11:13 am

Yr ateb amlwg yw mynd a sgwennu 'Welshmen they are being able' ar y wal, sef sut mae InterTran yn cyfieithu 'Cymry allan'. Dw i'n siwr y bydd y cyfryngau yn diawlio'r Season hiliol wedyn. ;)
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Ymosod ar geffyl yn enw'r Iaith!!

Postiogan Madrwyddygryf » Iau 10 Ebr 2008 11:38 am

Hwyrach bod hi wedi cael ffrae gyda rhywun lleol ynglŷn â rhywbeth? Ac mae’r person wedi dial drwy ymosod ar ei cheffyl a phaentio’r wal y cwt gan obeithio bydd yn cael ei weld fel ymosod gan ryw berson lleol sydd ddim yn licio mewnfudwyr.

Roedd 'na digwyddiad blynyddoedd yn ôl o gwmpas Dyffryn Conwy dwi’n meddwl, ble roedd rhywun wedi ysgrifennu ‘Sais Allan Meibion Glyndŵr’ ar wal tŷ mewnfudwr i’r ardal. Roedd yn amlwg, yn y cychwyn, mai gwaith y Meibion neu genedlaetholwyr cysylltiedig oedd tu cefn i hyn. Wedyn fe ddaeth allan ei hanes o ymddygiad ‘anti-social’ ac wedi piso i ffwrdd trigolion lleol fel canlyniad. Mewn geiriau eraill, rhywun oedd yn hollol angysylltiedig i Feibion Glyndŵr oedd eisiau codi braw neu ddysgu gwers i’r boi oedd y gwir reswm tybiwn i.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Ymosod ar geffyl yn enw'r Iaith!!

Postiogan Cwlcymro » Iau 10 Ebr 2008 12:53 pm

Gwyn T Paith a ddywedodd:Cwlcymro, wyt ti am ymateb i'r twat yma? (llythyr yn Mule heddiw).



Ha ha, prat! Peth ola dwi am neud ydi bod yn Robyn lewis wannabe a dechra dadl nol a mlaen drw dudalenna'r Mul!
Riwun arall di sgwennu hefyd, ydi hwn yn unrhywun o fama?

Incorrect Welsh
SIR – I am shocked and saddened to hear about the innocent horse “Hope” that was attacked in Pembrokeshire and anti-English graffiti sprayed on the wall.

However, I would like to point out that the slogan written in Welsh does NOT appear to be written by a Welsh speaker. When I first saw “Cai Maes Sais” I thought it was gibberish. So I did a bit of digging & came across the online translator – InterTran. If one types “Get out Englishman” and seeks to translate it into Welsh – the result you get is “Ca i Maes Sais” which is a far cry from what a Welsh speaker would write which is ‘Cer mas Sais’. Therefore it would appear that a notoriously inaccurate online translator was used. I hope the police catch the perpetrator swiftly and I would like to know where the media obtained their erroneous translation for Cai Maes Sais?
H John
Penybont ar Ogwr, Sir Penybont
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Ymosod ar geffyl yn enw'r Iaith!!

Postiogan Chickenfoot » Iau 10 Ebr 2008 1:00 pm

Gwenci, dw i'm yn meddwl roeddwn i'n cyfeirio at eich sylwadau chi, ond beth bynnag rydym ni a'r Saeson yn wyn felly o'r un dras hiliol. Hefyd, mae'n bosib i fod yn unrhyw liw a bod yn Saesneg neu'n Gymraeg, felly nid yw hiliaeth yn derm ddilys.
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Ymosod ar geffyl yn enw'r Iaith!!

Postiogan Cwlcymro » Iau 10 Ebr 2008 1:02 pm

Chickenfoot a ddywedodd:Gwenci, dw i'm yn meddwl roeddwn i'n cyfeirio at eich sylwadau chi, ond beth bynnag rydym ni a'r Saeson yn wyn felly o'r un dras hiliol. Hefyd, mae'n bosib i fod yn unrhyw liw a bod yn Saesneg neu'n Gymraeg, felly nid yw hiliaeth yn derm ddilys.


Mae'r gyfraith yn gweld ymosodiada gwrth-Gymry / gwrth-Saeson fel rhei hiliol, beth bynnag dir gwyddoniaeth.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Ymosod ar geffyl yn enw'r Iaith!!

Postiogan S.W. » Iau 10 Ebr 2008 1:11 pm

Chickenfoot a ddywedodd:Gwenci, dw i'm yn meddwl roeddwn i'n cyfeirio at eich sylwadau chi, ond beth bynnag rydym ni a'r Saeson yn wyn felly o'r un dras hiliol. Hefyd, mae'n bosib i fod yn unrhyw liw a bod yn Saesneg neu'n Gymraeg, felly nid yw hiliaeth yn derm ddilys.


Efallai nad yw'n term perffaith ond o dan y ddeddf fel y mae hi mae sylwadau yn erbyn Cymry gan Sais neu fel arall yn cael ei ystyried yn hiliaeth. Ni ddylid ei drin yn wahanol i hiliaeth rhwng du a gwyn.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Ymosod ar geffyl yn enw'r Iaith!!

Postiogan Beti » Iau 10 Ebr 2008 2:06 pm

Mae'r stori wedi cyrraedd Golwg beth bynnag (odnd be sydd ddim!!) - pwt bach ynddo fo heddiw.
Y BBC dal yn deud dim nadyn, fel arfer. Tasai neb yn newyddion ITV Wales heb sylwi nad oedd y graffiti yn neud synnwyr, dwi'n siwr y bydden nhw wedi rhedeg y stori. Newyddiadurwyr pot jam.
I futa fo!
Beti
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 706
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 12:47 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Ymosod ar geffyl yn enw'r Iaith!!

Postiogan LLewMawr » Iau 10 Ebr 2008 2:35 pm

wnes i sgrifennu y llythyr 'na yn y western.
...pleidiol wyf i'm gwlad...
Rhithffurf defnyddiwr
LLewMawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 88
Ymunwyd: Maw 08 Ebr 2008 10:47 am
Lleoliad: Penybont, De Cymru

Re: Ymosod ar geffyl yn enw'r Iaith!!

Postiogan mabon-gwent » Gwe 04 Gor 2008 2:26 pm

Mae'r stori 'ma 'di bod yn dawel iawn am sbel nawr, oes unrhywbeth newydd sy 'di digwydd yn y tri mis diwetha?
Rhithffurf defnyddiwr
mabon-gwent
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2008 4:00 am

Nôl

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron