Ray Diota a ddywedodd:y nionyn a ddywedodd:sian a ddywedodd:Yr hyn ro'n i'n treio'i awgrymu oedd bod hyn naill ai jest yn fandaliaeth greulon neu'n fater personol.
Wrth gwrs, ar nodyn mwy cyffredinol, yr un yw effaith pobl ddi-Gymraeg ar gymunedau o ble bynnag y maen nhw'n dod.
Saesneg yw eu hiaith.
Cytuno 'fo hyn yn bendant.
sdim lot o ffydd yn eich cyd-gymru fynna ose? hynny yw, nagych chi'n agored i'r ffaith fod cymro di-gymraeg yn mynd i fod yn fwy agored at yr iaith/ ei dysgu/ ei dysgu i'w plant...?
gofyn yn hytrach na gweud ydwi...
ta beth, ma adroddiad y WM a'r BBC yn warthus o gamarweiniol... be ddiawl ma nhw'n meddwl ma nhw'n neud yn dweud mai slang yw hyn - gibberish yw e 'chan 'sbosib!
Ti di ateb y cwestiwn i mi!