Tudalen 1 o 11

Ymosod ar geffyl yn enw'r Iaith!!

PostioPostiwyd: Llun 07 Ebr 2008 11:11 am
gan y nionyn

Re: Ymosod ar geffyl yn enw'r Iaith!!

PostioPostiwyd: Llun 07 Ebr 2008 11:25 am
gan Llefenni
Mae hyn yn uffernol o dwp / creulon.

Di'r Mabinogi ddim RILI angen eu cymeryd yn llythrennol gan plebs o bennau bach chwaith :x

Re: Ymosod ar geffyl yn enw'r Iaith!!

PostioPostiwyd: Llun 07 Ebr 2008 11:29 am
gan S.W.
Be ma Cai Maes Sais yn feddwl? Swnio fatha gobldigwc

Re: Ymosod ar geffyl yn enw'r Iaith!!

PostioPostiwyd: Llun 07 Ebr 2008 11:32 am
gan Rhodri Nwdls
she also noticed graffiti written in slang Welsh saying "English out".

Nadi ffwc. Dydi Cai Maes Sais ddim yn slang yn unrhyw iaith.

Fasa ti'n meddwl fasa BBC Wales weei checkio'r cyfieithiad cyn cyhoeddi?

Re: Ymosod ar geffyl yn enw'r Iaith!!

PostioPostiwyd: Llun 07 Ebr 2008 11:42 am
gan Manon
'Dwi 'di 'sgwennu at wefan y biiib i gwyno am eu cyfeithu cachu. Tydi Cai Maes Saes ddim yn golygu dim byd o gwbl, a dwn i ddim am unrhyw Gymro 'sa'n gwneud ffasiwn gymeriad ieithyddol...

Re: Ymosod ar geffyl yn enw'r Iaith!!

PostioPostiwyd: Llun 07 Ebr 2008 12:16 pm
gan sian
rhywbeth yn od yma - mae Saeson wedi bod yn symud i ffermydd a thyddynod yr ardal 'ma ers o leia 40 mlynedd.

Re: Ymosod ar geffyl yn enw'r Iaith!!

PostioPostiwyd: Llun 07 Ebr 2008 12:19 pm
gan Jon Bon Jela
sian a ddywedodd:rhywbeth yn od yma - mae Saeson wedi bod yn symud i ffermydd a thyddynod yr ardal 'ma ers o leia 40 mlynedd.


Ond Siani, Cymraes yw'r fenyw 'ma! Mae'r holl beth yn stupid.

Re: Ymosod ar geffyl yn enw'r Iaith!!

PostioPostiwyd: Llun 07 Ebr 2008 12:26 pm
gan mabon-gwent
Ond mae rhywbeth yn niwylliant "hiraeth" rwy'n credu sy'n creu delwad o bobl sy ddim yn gallu siarad y gymraeg fel gelynion y cymry gymraeg, nid jyst y saeson (rhywbeth sy'n ddigon drwg) ond gyda'r cymry di-gymraeg hefyd.

Re: Ymosod ar geffyl yn enw'r Iaith!!

PostioPostiwyd: Llun 07 Ebr 2008 12:43 pm
gan Dafydd Iwanynyglaw
Ydi "cai" yn golygu rwbath mewn unrhyw dafodiaeth? Yr agosa fedra i gael at sens ydi "Cer Mas Sais".

Neu "Gai'r maes, Sais?" - rhywun yn gofyn i brynu'r cae?

Fallai fod yr FWA (1st Battalion Dyslexic Bayonetters) ar waith.

Re: Ymosod ar geffyl yn enw'r Iaith!!

PostioPostiwyd: Llun 07 Ebr 2008 12:49 pm
gan Hogyn o Rachub
Tasa hwn yn ymosodiad yn enw amddiffyn y Fro Gymraeg, sydd efallai'n bosib, fydda fo'n eithriadol o niweidiol. Druan ar y ceffyl, wn i ddim be' sy ganddo fo i wneud efo'r holl beth. Dyn ag wyr beth a olygir wrth 'Cai Maes Sais' hefyd (dw i'n siwr bod y Western Mule wedi dyfynnu hyn fel "cer mas Sais" :rolio: ). Od iawn, ddudwn i.

Hefyd, tra gellir deall yn llawn rhwystredigaeth pobl o ran pobl ddi-Gymraeg (o be le bynnag y dônt) yn symud i ardaloedd Cymraeg a pheidio â dysgu'r iaith (a hynny'n ddadl arall ynddi'i hun) mae ymosod ar anifail diamddiffyn yn beth afiach i'w wneud, at ba ddiben bynnag.

Ond tybiwn i mai'r ddynes wedi ypsetio rhywun yn lleol rhywsut a'u bod nhw isio cael dial, neu jyst ryw fandals sydd allan i achosi difrod heb reswm, sydd y tu ôl i hyn. Yn wahanol i'r BBC a'i thebyg dwi 'n siwr fod pawb yma'n ddigon call i wybod na fyddai rhywun yn ymosod ar geffyl i achub yr iaith :rolio: