Llais Gwynedd a John Walker

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Llais Gwynedd a John Walker

Postiogan Prysor » Sul 27 Ebr 2008 9:14 pm

GT a ddywedodd:
Prysor a ddywedodd:
Felly ti'n ffafrio system One-Party State?


Twt, twt Prys - mae honna'n un uffar o naid o beth ddywedais i.



Dim ond dy air di sydd gennym am hynny! :D

:winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Llais Gwynedd a John Walker

Postiogan rooney » Llun 28 Ebr 2008 12:08 am

Ble mae'r egwyddorion gan rai pobl yn y drafodaeth yma, ble mae'r blaenoriaethau.

Teyrngarwch tuag at blaid wleidyddol, neu cadw ysgolion yn agored? Mae mor syml a hynny.

Mae'n berffaith amlwg yr oblygiadau difrifol i ddyfodol cymunedau Cymraeg yng Ngwynedd os yw'r ysgolion yn cau. Pwy fydd yn symud mewn i'r ardaloedd? Pobl mewn oed, heb blant, o du allan i Wynedd, fydd yn cymryd mantais o dai rhad mewn ardal hardd.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Llais Gwynedd a John Walker

Postiogan gwyrfai » Maw 29 Ebr 2008 12:18 pm

Dwi wedi bod yn dilyn hynt a helynt yr etholiadau lleol ers rhai wythnosau ar y seiat yma ... ond o, och a gwae - beth sydd wedi digwydd i Aeron?? ! Dim gair ganddo ers dyddiau.. dwi di bod yn edrych ymlaen i glywed rhagor o'i straeon di-sail, a'r perlau sydd wedi bod yn ffrydio allan o'i enau fo.. !! Mae o yn sicr yn destun siarad yn yr ardal yma, y fo a'i ffrind newydd sy'n sefyll yn Montnewydd... dyna i chi ddau os bu dau erioed, ond testun gwawd ac anghrediniaeth sydd ar dafodau lleol.... bod na ddau yn gallu tynnu gymaint o sylw atynt eu huanin am y rhesymau anghywir.... tydi un ddim yn gall, a tydi'r llall ddim yn gallu.

C'mon etholwyr, anfonwch neges glir i'r ddau dydd Iau, cynghorwyr gonest, gweithgar, di-ffuant da ni isho fel sydd ganddo ni rwan, rhai sy'n fodlon sefyll i fyny i wellau ein cymuned ni - nid pobl sydd ag agenda bersonol, sy'n achub ar bob cyfle i fod yn bersonol a dillechgar at eraill i sgorio pwyntiau gwleidyddol...

Neges i'r ddau - golwch eich cegau ffiaidd, mae'n cymeryd aderyn gwyn i glochdar......
gwyrfai
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Mer 16 Ebr 2008 10:59 am

Re: Llais Gwynedd a John Walker

Postiogan Cath Ddu » Maw 29 Ebr 2008 12:38 pm

gwyrfai a ddywedodd:a'i ffrind newydd sy'n sefyll yn Montnewydd... dyna i chi ddau os bu dau erioed, ond testun gwawd ac anghrediniaeth sydd ar dafodau lleol.... bod na ddau yn gallu tynnu gymaint o sylw atynt eu huanin am y rhesymau anghywir.... tydi un ddim yn gall, a tydi'r llall ddim yn gallu.

C'mon etholwyr, anfonwch neges glir i'r ddau dydd Iau, cynghorwyr gonest, gweithgar, di-ffuant da ni isho fel sydd ganddo ni rwan, rhai sy'n fodlon sefyll i fyny i wellau ein cymuned ni - nid pobl sydd ag agenda bersonol, sy'n achub ar bob cyfle i fod yn bersonol a dillechgar at eraill i sgorio pwyntiau gwleidyddol...

Neges i'r ddau - golwch eich cegau ffiaidd, mae'n cymeryd aderyn gwyn i glochdar......


Dwi'n nabod Chris Hughes ers blynyddoedd. Mae'r ymosodiad hwn yn hyll ac yn dweud mwy am Gwyrfai na Chris. Wn i ddim be mae o wedi ddweud ar stepan drws yn Bont ond dwi'n nabod Chris fel boi caredig a chyfranwr brwd i weithgareddau cymunedol lleol (hyfforddwr tim pel droed lleol). Yn wahanol i Gwyrfai tydi o ddim wedi dewis cuddio tu ôl i ffug enw.

Ac o ran dy ddefnydd o'r hen ddywediad - gair i gall 'falle.

A chyn i ti ddweud dim, Guto Bebb ydi Cath Ddu.
Dwi DDIM yn cefnogi Llais Gwynedd.
Dwi DDIM yn amddiffyn sylwadau Aeron yma (mae nhw wedi gwneud drwg sylweddol iddo dwi'n credu).
Dwi'n ffieiddio at gyfraniad fel hwn sy'n syrthio i'r union yr un gwter o ymosodiad personnol a sylwadau rhai aelodau LLG.
Golygwyd diwethaf gan Cath Ddu ar Maw 29 Ebr 2008 1:52 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Re: Llais Gwynedd a John Walker

Postiogan Prysor » Maw 29 Ebr 2008 1:19 pm

gwyrfai a ddywedodd:Dwi wedi bod yn dilyn hynt a helynt yr etholiadau lleol ers rhai wythnosau ar y seiat yma ... ond o, och a gwae - beth sydd wedi digwydd i Aeron?? ! Dim gair ganddo ers dyddiau.. dwi di bod yn edrych ymlaen i glywed rhagor o'i straeon di-sail, a'r perlau sydd wedi bod yn ffrydio allan o'i enau fo.. !! Mae o yn sicr yn destun siarad yn yr ardal yma, y fo a'i ffrind newydd sy'n sefyll yn Montnewydd... dyna i chi ddau os bu dau erioed, ond testun gwawd ac anghrediniaeth sydd ar dafodau lleol.... bod na ddau yn gallu tynnu gymaint o sylw atynt eu huanin am y rhesymau anghywir.... tydi un ddim yn gall, a tydi'r llall ddim yn gallu.

C'mon etholwyr, anfonwch neges glir i'r ddau dydd Iau, cynghorwyr gonest, gweithgar, di-ffuant da ni isho fel sydd ganddo ni rwan, rhai sy'n fodlon sefyll i fyny i wellau ein cymuned ni - nid pobl sydd ag agenda bersonol, sy'n achub ar bob cyfle i fod yn bersonol a dillechgar at eraill i sgorio pwyntiau gwleidyddol...

Neges i'r ddau - golwch eich cegau ffiaidd, mae'n cymeryd aderyn gwyn i glochdar......


a pwy wyt ti, sgwn i? :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Llais Gwynedd a John Walker

Postiogan ceribethlem » Maw 29 Ebr 2008 1:19 pm

rooney a ddywedodd:Teyrngarwch tuag at blaid wleidyddol, neu cadw ysgolion yn agored? Mae mor syml a hynny.
Dwi ddim yn byw yng Ngwynedd, felly mae'r drafodaeth yma braidd yn amherthnasol i fi. Fodd bynnag, bydden i'n gweud fod e' ddim mor "syml a hynny". Mae llawer mwy o briff gyda cynghorau nac addysg yn unig.

Lib Dems sy'n rheoli fy nghyngor lleol, yn yr etholiad mae Llafur, Ceidwadwyr a Lib Dems (ac annibynwr) yn sefyll yn fy ardal i. Wyt ti'n awgrymu y dylwn bleidlaeisio ar sail un peth yn unig? Pleidleisio yn erbyn y Lib Dems achos bod y Leisure Centre newydd yn rhy ddrud i hen bobl efallai? :rolio:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Llais Gwynedd a John Walker

Postiogan Lals » Maw 29 Ebr 2008 1:46 pm

Cath Ddu a ddywedodd: dim Guto Bebb ydi Cath Ddu.


Wel, dw i di drysu rwan!
"ti'n gwybod be i neud pan dwisio mwytha"
Lals
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 237
Ymunwyd: Mer 08 Maw 2006 9:27 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Llais Gwynedd a John Walker

Postiogan Lals » Maw 29 Ebr 2008 1:49 pm

Cath Ddu a ddywedodd: dim Guto Bebb ydi Cath Ddu.


Be nesa? Dim Aeron ydy Manna?
"ti'n gwybod be i neud pan dwisio mwytha"
Lals
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 237
Ymunwyd: Mer 08 Maw 2006 9:27 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Llais Gwynedd a John Walker

Postiogan Cath Ddu » Maw 29 Ebr 2008 1:51 pm

Lals a ddywedodd:
Cath Ddu a ddywedodd: dim Guto Bebb ydi Cath Ddu.


Wel, dw i di drysu rwan!


Angen , ar ôl y dim fe dybiaf!

Diolch Lals :wps:
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Re: Llais Gwynedd a John Walker

Postiogan GT » Maw 29 Ebr 2008 2:47 pm

Hmm - mae'r edefyn hwn yn ymlwbro i lawr trywydd swreal - hyd yn oed o dan safonau'r maes.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 22 gwestai