BOT a ddywedodd:Ond dwi'n siwr dy fod yn cytuno GT tasa arweinwyr PC wedi gwrando ar reswm fydda hyn i gyd ddim wedi codi?
Mae etholwyr y sir yn siwr o weld drwy ddarpar gynghorwyr di-les, dim ots o ba blaid mae nhw.
Heb LlG ac felly gyda carte blanche gan arweinwyr PC ar Fai 2il mi fyddai wedi canu ar ysgolion Gwynedd.
Os ydi hyn i gyd yn gorfodi reshuffle yn arweinyddiaeth y sir, fel dyna fo.
Yn sicr agwedd arweinyddiaeth PC at addysg gynradd yn y sir sydd wedi creu'r gwagle gwleidyddol i LlG ddatblygu.
Yn anffodus i LlG maent wedi hau hadau eu distrywiad eu hunain reit o'r cychwyn. Yn ol un darpar gynghorydd tref sydd newydd ymuno a LLG, yr oll oedd rhaid iddi hi ei wneud er mwyn cael ymuno oedd codi'r ffon a gofyn i Aeron Jones os oedd hynny'n iawn. Cytunodd Aeron yn syth. Mae'r ddynas yn enwog yn lleol am ei hagweddau brenhinol / Prydeinllyd eithafol.
Fel 'dwi wedi dweud sawl gwaith o'r blaen, mae'r cynllun addysg yn wirion yn yr ystyr ei fod yn afresymegol. Does yna ddim dyfodol i gynllun o'r fath, a dwi'n argyhoeddiedig y gellir ei guro, neu o leiaf ei addasu'n sylweddol, trwy ymladd yr achos oddi mewn i'r Blaid, yn gymunedol ac ar lefel proffesiynol.
Gellir dadlau y byddai llwyddiant i LlG yn ei gwneud yn fwy anodd i danseilio'r cynllun. Gan fod cymaint o ddrwg deimlad rhwng PC a LlG, byddai gormod o gynrychiolaeth gan LlG yn polareiddio pethau yn siambr y cyngor, ac yn gwneud cyfaddawd yn anos.