Tudalen 2 o 3

Re: Benthyciadau Myfyrwyr (cyfradd llog wedi dyblu eleni!)

PostioPostiwyd: Maw 17 Chw 2009 12:19 pm
gan iwmorg
Wel bobl ydych chi'n barod i'r llywodraeth dalu chi am fod hefo benthyciad myfyrwyr? :D

http://news.bbc.co.uk/1/hi/business/7893873.stm

RPI heddiw i lawr i 0.1% !! RPI mis Mawrth fydd yn cael ei gymryd fel llog dyled myfyrwyr o fis Medi ymlaen, ac mae'n bosib iawn y bydd yn negyddol erbyn hynny. (Bron yn sicr o gysidro fod y RPI yn ystyried cost llog morgeisi, a'r toriadau sydd wedi bod yn y gyfradd sail dros y misoedd diwethaf.)

Mae'n bosib iawn fod 'llawr' o 0% ar y llog sy'n daladwy, ond byddai'n ddidorol gweld beth fydd y sefyllfa os yw RPI yn mynd yn negyddol - amser chwilio am fy nghytundeb benthyciad myfyriwr dwi'n meddwl.......

O.N. Wrth gwrs, mae dadchwyddiant yn dod hefo'i broblemau ei hun hefyd (gwglwch 'economy' 'japan' a '90s' am esboniad!!)
ond o safbwynt benthyciadau myfyrwyr - happy days!! :D

Re: Benthyciadau Myfyrwyr (cyfradd llog wedi dyblu eleni!)

PostioPostiwyd: Maw 17 Chw 2009 12:48 pm
gan Ray Diota
fel rhywun uchod, dwi'm di talu ceiniog ers ache...

on i'n talu whac reit fawr yn y flwyddyn gyntaf ar ol gadel coleg - a finne'n ennill mwy bryd 'ny nag ydwi wedi ers 'ny... ond ar ol newid swydd unwaith, gollon nhw fi, ymddengys, a sai di talu ers 'ny... :?

ar y foment dwi'n exempt, dwi'n meddwl am bo fi'n byw dramor?

duw a wyr... dim siap...

Re: Benthyciadau Myfyrwyr (cyfradd llog wedi dyblu eleni!)

PostioPostiwyd: Maw 17 Chw 2009 2:16 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
be sy'n bod ar dalu mewn lwmp? dwi rioed di talu ceiniog, nag wedi bod mewn seflyllfa i neud hynny mewn gwirionedd. ond gan mod i'n llawrydd dwi'n ennil pres mewn lwmp, a 'sa 'n lot haws gin i roi rywfaint iddyn nhw cyn i fi wario fo... ond na, na? a be sy'n digwydd eniwe? ydi'r tacsman yn dynnu fo allan yn awtomatic, neu ydi o i fyny i fi i roi gwbod i'r studant loan company? o, ma' hwn yn un o'r petha 'na dwi di bod yn cuddio 'mhen yn y tywod oddi wrtho fo ers gymaint... :?

Re: Benthyciadau Myfyrwyr (cyfradd llog wedi dyblu eleni!)

PostioPostiwyd: Mer 18 Chw 2009 3:50 pm
gan Ap Corwynt
ma'n bosib talu lump sums ond ma'n dipyn o niwsans- os nei di ffonio nhw gei di wneud, ma jest yn cymryd yn hiiiir iawn fel bob dim arall efo'r giwed!

Re: Benthyciadau Myfyrwyr (cyfradd llog wedi dyblu eleni!)

PostioPostiwyd: Mer 18 Chw 2009 5:34 pm
gan Ray Diota
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:be sy'n bod ar dalu mewn lwmp? dwi rioed di talu ceiniog, nag wedi bod mewn seflyllfa i neud hynny mewn gwirionedd. ond gan mod i'n llawrydd dwi'n ennil pres mewn lwmp, a 'sa 'n lot haws gin i roi rywfaint iddyn nhw cyn i fi wario fo... ond na, na? a be sy'n digwydd eniwe? ydi'r tacsman yn dynnu fo allan yn awtomatic, neu ydi o i fyny i fi i roi gwbod i'r studant loan company? o, ma' hwn yn un o'r petha 'na dwi di bod yn cuddio 'mhen yn y tywod oddi wrtho fo ers gymaint... :?



y pwynt yw bod talu lump sum fel taflu arian lawr ffynnon... ma'r gyfradd llog mor isel fel bod dim pwynt talu fe'n gynt na sy rhaid, rili...

Re: Benthyciadau Myfyrwyr (cyfradd llog wedi dyblu eleni!)

PostioPostiwyd: Mer 18 Chw 2009 5:41 pm
gan Llefenni
Arglwydd mawr, peidiwch a thaflu pres at y buggers! Mae'n wirion talu mwy na sy'n dod allan o'r siec pae bethbynnag.. sneb yn gwrando ar Martin Lewis dyddie yma neu be?

http://www.moneysavingexpert.com/loans/student-loans-repay

Hefyd tips tramor i Ray fana hefyd.

(yndw, dwu'n credu bod y Monwy Saving Expert yn rhyw fath o Dduw ar y ddaear yma :D )

Re: Benthyciadau Myfyrwyr (cyfradd llog wedi dyblu eleni!)

PostioPostiwyd: Iau 19 Chw 2009 9:44 am
gan Tracsiwt Gwyrdd
dwi dal 'im yn dallt. nai jyst cario mlaen i beidio talu ta... pen nol yn y tywod. :?

Re: Benthyciadau Myfyrwyr (cyfradd llog wedi dyblu eleni!)

PostioPostiwyd: Iau 19 Chw 2009 10:37 am
gan ffwrchamotobeics
y llog newydd fynd lawr i 2%. Y benthyciad rhata bosib. Talwch y cerdie/overdraft i ffwrdd gynta.

Re: Benthyciadau Myfyrwyr (cyfradd llog wedi dyblu eleni!)

PostioPostiwyd: Llun 02 Maw 2009 11:42 pm
gan H Huws
Rhybudd i'r di-drefn fel fi - Mae’r cwmni benthyciadau myfyrwyr yn parhau i gymryd arian allan o’ch cyflog am hydoedd ar ôl gorffen yr ad-dalu - dydi o ddim yn stopio'n awtomatig. Ganddynt 6 mis o or-daliad gennyf - deud eu bod yn gorfod aros tan ddiwedd y flwyddyn ariannol i unioni’r cam, neu raid danfon copïau o’r slipiau cyflog fel tystiolaeth. Wedi gwneud hyn – gobeithio daw'n fuan.

Re: Benthyciadau Myfyrwyr (cyfradd llog wedi dyblu eleni!)

PostioPostiwyd: Maw 03 Maw 2009 9:58 am
gan Tracsiwt Gwyrdd
o, ma hunna mor dipresing. ma pobol fy oed i'n gorffan 'u talu nhw... a dwi'm hyd yn oed 'di dechra. :(