Tudalen 3 o 3

Re: Benthyciadau Myfyrwyr (cyfradd llog wedi dyblu eleni!)

PostioPostiwyd: Maw 03 Maw 2009 10:08 am
gan ceribethlem
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:o, ma hunna mor dipresing. ma pobol fy oed i'n gorffan 'u talu nhw... a dwi'm hyd yn oed 'di dechra. :(

Paid a phoeni 'chan, fi dal heb dalu'r un geiniog eto chwaith :winc:

Re: Benthyciadau Myfyrwyr (cyfradd llog wedi dyblu eleni!)

PostioPostiwyd: Iau 19 Maw 2009 7:24 pm
gan H Huws
Dal i aros am ad-daliad - hirach na'r disgwyl. Rhywun arall yn dal i aros fyd?

Re: Benthyciadau Myfyrwyr (cyfradd llog wedi dyblu eleni!)

PostioPostiwyd: Maw 21 Ebr 2009 8:35 pm
gan Iwan Rhys
Wel, mae'r RPI (Retail Price Index) ar gyfer mis Mawrth 2009 yn negatif, -0.4%. Felly, rhywbryd rhwng nawr a mis Medi cawn ddatganiad yn nodi beth fydd cyfradd y llog ar fenthyciadau myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn Medi 2009 - Awst 2010.

I fod yn hollol deg, dylai'r llog fod yn -0.4%, gan leihau'r ddyled o £4 am bob £1,000 o ddyled sydd 'da chi dros y flwyddyn. Ond sai'n gweld y llywodraeth yn gwneud hynny. Rwy'n tybio yr ewn nhw am gyfradd llog o 0%. Sydd yn fenthyciad rhad iawn, rhaid dweud, er nad yn deg. Holl bwynt dilyn yr RPI, wedi'r cyfan, yw bod y ddyled yn aros yr un peth mewn termau real dros y blynyddoedd. Felly, os ydy'r RPI yn mynd yn negatif, dylai'r ddyled fynd i lawr hefyd.

Cawn weld!

Gan gymryd y bydd y llog yn 0%, i'r rhai sydd wedi bod yn holi fan hyn a yw hi'n werth gwneud gordaliadau, neu ad-dalu'r ddyled mewn un swm, yr ateb yn syml ac yn bendant yw NA! Os gellwch chi fforddio gwneud gordaliad neu ad-daliad, sdiciwch yr arian mewn cyfri banc yn lle. Falle na chewch chi rhyw lawer o log arno, ond fe gewch chi fwy na 0%, just! Ac mewn cyfnod economaidd ansicr, dy'ch chi byth yn gwbod pryd y bydd angen yr arian arnoch chi, unwaith y byddwch chi wedi gwneud ad-daliad, chewch chi ddim ohono fe nôl wedyn.