5 cwmni yn trio am £200,000 i sefydlu 'rhywbeth' Cymraeg

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: 5 cwmni yn trio am £200,000 i sefydlu 'rhywbeth' Cymraeg

Postiogan Rhods » Iau 01 Mai 2008 2:28 pm

Mi wyt yn iawn Prysor, rwyf yn derbyn be ti yn ddweud..yn diwedd tho, llywodraeth Geidwadol gwaneth delifran y sianel achos nhw oedd mewn llywodraeth a sicrhaodd hi.(achos pwysau etc)
Yn y run modd, mae'r run peth yn wir am Lafur - gas gennai'r blaid , ond y gwir yw, nhw oedd y llywodraeth gwnath delifran datganoli - oce mi oedd ar ol refferemdwm, ond y gwir yw, nhw gwnaeth delifran e (gyda pwysau wrth gwrs) Mae hynny yn ffaith.

Y cwestiwn yw, be ma Plaid di neud ir iaith dors y 12 mis diwetha? Wel torri addewid yn un peth, stolan ar rhoi deddf iaith, coleg ffedral....ond hei, well i ni'r Cymry pido cwyno gormod - da ni di cael y £200,000 ma, rhaid bod yn ddiolchgar, fel ma rhai o hierachy Plaid yn dweud :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: 5 cwmni yn trio am £200,000 i sefydlu 'rhywbeth' Cymraeg

Postiogan Ray Diota » Iau 01 Mai 2008 2:36 pm

Rhods - allwn ni gadw'r ddadl 'Maggie Was a Taffy' i rwle mwy priodol a ca'l yr edefyn yma i drafod y gwahanol geisiadau sydd wedi'u cyflwyno a'r posibiliadau, plis? Ti a dy ffycin sgorio pwyntiau... :drwg:
Golygwyd diwethaf gan Ray Diota ar Iau 01 Mai 2008 2:38 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: 5 cwmni yn trio am £200,000 i sefydlu 'rhywbeth' Cymraeg

Postiogan Rhods » Iau 01 Mai 2008 2:37 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Do, mi sefydlon nhw S4C heb unrhyw fath o bwysau cenedlaetholgar a nath Magi ddim mynd nôl ar ei haddewid a newid ei meddwl achos cafodd ei gorfodi ac eniwe mae pawb yn gwybod y bod llywodraethau Toriaidd i gyd yn caru'r iaith o waelod calon ... :rolio:


Dwi ddim yn gwadu ni - ond fel wedes i gynne fach, nhw oedd y blaid gwnaeth delifran yn diwedd FFAITH...a deddf iaith 93, a sicrhau bod Cymraeg yn ran o'r cwriwlwm yng Nghymru a oedd yn sicrhau bod POB plentyn yn astudior' Gymraeg (penderfyniad hanesyddol), ac hefyd wrth gwrs y Bwrdd Iaith.(heb son am y grantiau sywleddol gwaneth mudiadau Cymraeg derbyn oddi wrthi) Dwi ddim ar unrhyw cyfrif, yn dweud bod hi yn record ffantastig, ond dyw hi ddim yn bad hefyd..cant deny that! (well na un Llafur eniwei .....a Plaid falle ???(wrth meddwl am y peth, rhy gynnar i ddweud, dim ond 12 mis ma nhw wedi bod mewn llywodraeth, ond rhowch e fel hyn, dyw hi ddim yn ddechreuad da o gwbl)

Eniwei, falle bod ni yn mynd off y pwynt braidd -

Jyst gobitho bydd yna revival yn yr ymgyrch i cael papur dyddiol Cymraeg - ar diwedd y dydd, hawliau da ni yn siarad fan hyn wedi'r cyfan....
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: 5 cwmni yn trio am £200,000 i sefydlu 'rhywbeth' Cymraeg

Postiogan sian » Iau 01 Mai 2008 2:49 pm

Rhods a ddywedodd:
Eniwei, falle bod ni yn mynd off y pwynt braidd -


Wyt! Gwranda ar Ray, da ti.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: 5 cwmni yn trio am £200,000 i sefydlu 'rhywbeth' Cymraeg

Postiogan S.W. » Iau 01 Mai 2008 2:54 pm

Rodders ti methu gweld y gwendiau hiwj yn dy ddadleuon di?

I ddechrau does neb wedi dweud (yn sicr ddim yn yr edefyn yma) bod y Blaid Geidwadol hefo agwedd negyddol tuag at yr iaith.

Mae Plaid Cymru wedi bod mewn clymblaid llywodraethol yn y Cynulliad ers LLAI na 12 mis.

Roedd y Blaid Geidwadol yn Llywodraethu yn San Steffan o 1979, roedd hynny 3 blynedd cyn sefydlu S4C a 14 blynedd cyn tynnu eu bys allan o cyflwyno'r Ddeddf Iaith wan sydd gennym rwan a sefyldu Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Roedd y Ceidwadwyr yn gafael yn mwy neu llai holl awennau grym Cymru ar eu pen eu hunain (roedd holl rymoedd (ag eithio llywodraeth leol) Cymru yn San Steffan. Nae Plaid Cymru ar y llaw arall yn 'junior partner' i'r Blaid Lafur mewn llywodraeth sydd ddim hyd yn oed hefo'r hawl i gyflwyno ei Ddeddf Iaith ei hun?

Felly gad i ni gymharu Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr pan fyddant di bod yn llywodraethu am gyfnod o 18 o flynyddoedd mewn senedd a'r hawl dros pob agwedd o'r iaith Gymraeg ia?

Sgorio pwyntiau fel dywedodd Ray!
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: 5 cwmni yn trio am £200,000 i sefydlu 'rhywbeth' Cymraeg

Postiogan Mr Gasyth » Iau 01 Mai 2008 3:16 pm

Sgorio pwyntiau fel dywedodd Ray!


A tithe'n run modd! Nol at y pwnc bobl...
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: 5 cwmni yn trio am £200,000 i sefydlu 'rhywbeth' Cymraeg

Postiogan Rhods » Iau 01 Mai 2008 3:20 pm

Rhods a ddywedodd: .....a Plaid falle ???(wrth meddwl am y peth, rhy gynnar i ddweud, dim ond 12 mis ma nhw wedi bod mewn llywodraeth, ond rhowch e fel hyn, dyw hi ddim yn ddechreuad da o gwbl)

.


Wyt ti di darllen hwn SW? :rolio: ...


Ar dy bwyntiau ti di nodi, wel, dwi yn amheus bydd Plaid erioed yn llywodraethu am 18 mlynedd - byddai optomist mwya Plaid yn cyfadde ni, dwi yn meddwl ...dim dig, jyst dweud, anhebygol eniwei.

O ran cyfadde ei bo hi yn 'junior partner', cytnuo i raddau, does dim equality yn y glymblaid ma - er gall Plaid ddim cael er ddwy ffordd. Cymryd y clod pam ma pethe yn mynd yn dda, a pam ma pethe yn mynd yn wael, dweud bod hi yn junior partner, a rhyw awgrynu mai dim bai nhw yw e. Dim mudiad/plaid pwysau yw Plaid rhagor, mae yn blaid llywodraethol, a rhaid cymryd y cyfrifoldebau sydd yn mynd da hynny.

Ac ar pwynt Ray Diota - dwi'n sori am dy ypsetio, rili sori.

Nol at y pwnc tho - 200K yn token gesture i ddweud y lleia ...
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: 5 cwmni yn trio am £200,000 i sefydlu 'rhywbeth' Cymraeg

Postiogan Ray Diota » Iau 01 Mai 2008 3:42 pm

Rhods a ddywedodd:
Ac ar pwynt Ray Diota - dwi'n sori am dy ypsetio, rili sori.

Nol at y pwnc tho - 200K yn token gesture i ddweud y lleia ...


NAGE! Nid dyna'r pwynt 'chan!! Ma 'na edefynnau eraill yn trafod annigonolrwydd y swm sydd ar gael - dyna'r lle i ti gwyno am y swm. Dyna lle gei di ailadrodd dy ddadleuon di-sail di-glem diflas am 'Gymrectod' y Ceidwadwyr.

Edefyn am y ceisiadau am yr arian yw hwn.

Edrych di drwy'r edefyn a dangos i fi UN GAIR ganddot ti sy'n briodol i'r pwnc. Ti'n gneud yr un dadleuon ym mhob edefyn! Pam set ti'n mynd i'r seiat chwareaon i frolio am Maggie???

dwi yn amheus bydd Plaid erioed yn llywodraethu am 18 mlynedd - byddai optomist mwya Plaid yn cyfadde ni, dwi yn meddwl ...dim dig, jyst dweud, anhebygol eniwei.


be s'a hyn i neud efo UNRHYWBETH??

does dim equality yn y glymblaid ma


be s'da hyn i neud da'r ceisiadau am y £200,000???

Dim mudiad/plaid pwysau yw Plaid rhagor, mae yn blaid llywodraethol, a rhaid cymryd y cyfrifoldebau sydd yn mynd da hynny


Sori - beth yw'r edefyn yma 'to??? Ti'n ddigon o ffycin boen pan ti'n sticio at bwnc, ond ti'n anioddefol pan ti'n sbwylio edefyn am bwnc hollol wahanol.

Ti fel ton ffacin gron achan...

diwrnod anodd :wps:
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: 5 cwmni yn trio am £200,000 i sefydlu 'rhywbeth' Cymraeg

Postiogan Rhods » Iau 01 Mai 2008 4:04 pm

Wppsss...sori, rili sori Raydiota!!! (Agresif or wot tho??? Os angen fod yn gas?? Na gyd o ni yn dweud oedd ymateb i sylwadau SW - na gyd :rolio: )

Na, na , wrth feddwl am y peth, ti yn hollol iawn Raydiota - plis maddau imi... :crio: ..

Nol at y pwnc nawr, fel ie, ie, heb son am y diffyg maint, ond ynglyn a sefydlu'r 'rhywbeth' Cymraeg ma (fel ma pwnc yr edefyn yn son...)...Dwi ddim yn gweld e yn ddigon i greu rhywbeth effeithiol (odi en iawn i mi ddweud hwnna Raydiota? Jyst gofyn na gyd, ddim ishe ypsetio ti ... :rolio:)
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: 5 cwmni yn trio am £200,000 i sefydlu 'rhywbeth' Cymraeg

Postiogan Ray Diota » Iau 01 Mai 2008 4:16 pm

Rhods a ddywedodd:Wppsss...sori, rili sori Raydiota!!! (Agresif or wot tho??? Os angen fod yn gas?? Na gyd o ni yn dweud oedd ymateb i sylwadau SW - na gyd :rolio: )


doeddet ti ddim yn ymateb i neb pan ddest ti mewn i'r edefyn 'da hyn...

Dal yn anodd credu tho yn dyw e? Y Toriaid cas horibyl yna yn sefydlu S4C, ond eto Plaid Cymru, y blaid sydd allegedly fod cynrychioli y Cymry Cymraeg yn methu hyd yn oed cyflwyno papur dyddiol Cymraeg..how embarasing. ...


Dyw e'm yn iawn bo ti'n cael rhwydd hynt i dynnu pob sgwrs yn ol i dy agenda di. Give it a rest.

Ta beth, oni ddylai'r cynigion gael eu gwneud yn gyhoeddus? H.y. ma bownd bo hawl 'da ni weld beth sy'n cael ei gynnig? Sai'n gwbod shwt ma'r pethe ma'n gwitho... :?:
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai