S.W. a ddywedodd:Rhys Llwyd a ddywedodd:A phob parch i gwmniau fel Tinopolis ond bydde nhw ddim yn breuddwydio am wneud cais oni bai eu bod nhw'n gweld y peth fel menter i neud pres.
Sori Rhys ond nonsens di hyn ti'n ei ddweud. Be fyddai o'i le a Tinopolis yn neud hyn ermwyn neud arian?
Ella mae fy Nghristnogaeth ydy hyn yn siarad ond fedri di ddim fod yn was i ddau feistr. Maen gwbl amlwg i mi fod gweledigaeth sydd wedi dod cyn gwbod am arian (dyddiol) bownd o fod yn iachach na gweledigaeth sydd wedi dod ar ol gwbod fod chance am arian (tinopolis et. al.) - dwyt ti ddim yn gweld hyn?
A beth am gymharu y gwaith sydd wedi ei wneud mewn paratoad. Mae dyddiol cyf wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil gan dîm arbennigol (a hynny heb gyllideb fawr, sy'n profi i mi eu cymhellion) i mewn i'r peth ers blynyddoedd - dwi'n meddwl mae nol yn 1998, ddeng mlynedd yn ôl, yr edrychodd Ned a Mercator i mewn i'r posibiliadau yn gyntaf. Beth am y cwmniau eraill? Chwe mis ar y mwyaf ac os hynny o waith maen nhw wedi ei roi i mewn i'r prosiect - does dim cymhariaeth felly o ran ymchwil, paratoad ac ymrwymiad i'r gwaith rhwng Dyddiol Cyf. ar gweddill.