Aran a ddywedodd:
I hyn fod yn wir, byddai angen enghreifftiau o gymunedau na fuasai'n gallu cynnal ysgol o dan y patrwm a awgrymwyd uchod.
Ar drothwy dirwasgiad, ac mewn sefyllfa lle mae cyfartaledd incwm mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru gryn dipyn yn is na'r cyfartaledd Prydeinig cyffredinol, buaswn yn tybio na fyddai rhestr o enghreifftiau o'r fath yn anodd ei llunio.
Aran a ddywedodd:
Gan fod mwyafrif helaeth ein cymunedau wedi gallu cynnal ysgol o dan drefn debyg iawn i hyn ganrif a hanner yn ôl, dwi'n credu y byddai'r mwyafrif helaeth yn medru gwneud yr un peth heddiw.
Ganrif a hanner yn ôl, roedd y rhan fwyaf o ysgolion gwledydd Prydain yn cael eu cynnal naill ai gan yr eglwysi neu gan y wladwriaeth ganolog. Trosglwyddwyd rhan helaeth o'r gwaith i ddwylo'r cynghorau lleol newydd-anedig ym mlynyddoedd olaf y 19eg ganrif (sylwer ar y dyddiadau a ddangosir ar lawer o adeiladau hynaf ysgolion yng Nghymru heddiw).
Hynny yw,
sefydliadau oedd yn ariannu addysg wledig, nid trigolion y cymunedau fel unigolion neu grwpiau o unigolion -- er bod rhai felly wedi gwneud cyfraniadau cyfyngedig yn y dyddiau cynnar o bosib.
Yn y bôn, yr un yw'r sefyllfa heddiw. Ystyrier natur aelodaeth cyrff llywodraethol ysgolion: ar wahân i gynrychiolwyr rhieni'r disgyblion cyfredol (ychydig iawn o rieni sy'n parhau yn y rôl unwaith bod eu plant wedi gadael yr ysgol), mae'r rhan fwyaf o lywodraethwyr yn cynrychioli sefydliadau cyhoeddus neu wirfoddol, gan gynnwys y cynghorau lleol.
Mae hynny'n adlewyrchu agwedd bwysig ar realiti gweinyddiad addysg mewn unrhyw oes, sef mai dim ond sefydliadau gyda chyllidebau sylweddol sy'n gallu ariannu estyniadau, ychwanegiadau, adnewyddiadau, atgyweiriadau, a buddsoddiant mewn datblygiadau cwricwlaidd newydd, mewn modd sy'n trin gwahanol ysgolion yn gyson ac yn weddol gyfartal.
Un agwedd ar y sefyllfa bresennol sydd heb gael digon o sylw cyhoeddus yw'r gyfran o ddisgyblion mewn rhai ysgolion gwledig sy'n dod o gartrefi y tu allan i'r gymuned y mae'r ysgol wedi ei lleoli ynddi.
Effaith y rhyddid i ddewis ysgol a roddwyd i reini gan ddeddfau addysg cyfnod Thatcher yw hynny. Ond fe wn i am un achos lle mae ysgol wedi manteisio ar y drefn honno i sicrhau ei goroesiad. Mewn un o'r ysgolion gwledig a fu dan fygythiad yn ystod helynt mawr cynllun cau ysgolion Sir Ddinbych, rwy dair blynedd yn ôl, un o amryw o fesurau a fabwysiadwyd gan yr ymgyrchwyr lleol i wrthsefyll y bwriad i gau oedd darbwyllo rheini mewn tref cyfagos y buasai'n llesol i anfon eu plant i'r ysgol wledig i gael addysg 'wledig', Gymraeg.
Cymaint fu llwyddiant y ddadl hon (ymysg camau eraill) fel bod nifer y plant yn yr ysgol wedi codi o lai nag ugain i oddeutu hanner cant erbyn canol y llynedd.
Tybed oni fuasai strategaeth o'r fath yn un fwy cynhyrchiol (a llai ymrannol) i Cymuned ei hyrwyddo?