GT a ddywedodd:Dyfrig Jones a ddywedodd:Roedd 'na lawer iawn o aelodau PC yng Ngwynedd a oedd yn credu bod y broses o ad-drefnu ysgolion (neu o drafod ad-drefnu ysgolion) wedi digwydd mewn modd byrbwyll a naif. Ond mae'n rhaid i chdi ddeallt bod 'na lawer o genedlaetholwyr sydd yn wirioneddol gefnogol i'r egwyddorion tu ol i'r cynllun. Os wyt ti'n byw mewn pentref mawr Cymraeg ei iaith, sydd yn debygol o weld cynydd yn yr arian sy'n cael ei wario ar yr ysgol leol, yna does dim rheswm i chdi wrthwynebu'r cynllun. A ti'n ddim llai o genedlaetholwr o wneud hynny.
Od iawn.
Nadi, dydi o ddim. Er nad ydw i fy hun yn cytuno 100% efo'r cynllun ac yn falch gweld PC yn cael cic yn din o'i herwydd, mi fedra i ddweud yn gwbl hyderus bod 'na lawer o bobl mewn llefydd fel Pesda sy'n actiwli eithaf pissed off gydag adnoddau yn cael eu dargyfeirio i ysgolion efo tua 7 o ddisgyblion yn hytrach na'r ysgolion mwy fel Llanllechid.
Ddim yn gwbl gytun a hynny, ond dweud ydw i. Mae 'na gefnogaeth i'r cynllun yn yr ardaloedd trefol, 'nenwedig y ffordd hhyn