Cymedrolwr: Mr Gasyth
Jac Glan-y-gors a ddywedodd:Siom mawr colli Penri James.. ond fe gollodd Cynog etholiad Cyngor Sir ac ennill Etholiad Cyffredinol!
Fe fuodd Mark Williams AS yn canfasio ward Penri yn galed - a gyda mwyafrif mor fach mae'n siwr bod modd dweud ei fod wedi ennill y sedd i'r LD.
krustysnaks a ddywedodd:Jac Glan-y-gors a ddywedodd:Siom mawr colli Penri James.. ond fe gollodd Cynog etholiad Cyngor Sir ac ennill Etholiad Cyffredinol!
Fe fuodd Mark Williams AS yn canfasio ward Penri yn galed - a gyda mwyafrif mor fach mae'n siwr bod modd dweud ei fod wedi ennill y sedd i'r LD.
Fel rhywun sy'n byw yn Nhirymynach, ward Penri, dyw hyn ddim yn wir. Fuodd Mark Williams ddim yn agos ata i.
Arhosodd pleidlais Penri'r un fath ag arfer, ond roedd cyfanswm y bleidlais yn uwch (57%). Dwi'n meddwl bod Penri yn cynrychioli'r dosbarth canol Cymraeg sydd i'w gael yn Bow Street, pobl sy'n gweithio yn sefydliadau mawr y dref a bod Paul Hinge yn cynrychioli pobl mwy dosbarth gweithiol (+canol isel) stadau tai gwaelod y pentref a phobl ddŵad Seisnig ardal Clarach. Mae rhieny'n fwy niferus na'r dobarth canol Cymraeg > Penri yn colli.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai