Bygythiad y BNP

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Bygythiad y BNP

Postiogan huwwaters » Gwe 02 Mai 2008 6:40 pm

Mae'r BNP a mudiadau erill ma nhw'n cyd-weithio yn cymyd lluniau o'r unigolion sydd cymyd rhan mewn protestiade gwrth-ffasgiaeth er mwyn eu herlyn. Cafodd un cynghorydd y Democratiaid Rhyddfryol ei stabio ar Lannau Merswy am siarad yn eu herbyn yn gyhoeddus.

Be sy'n frawychus yw er na wnaethon nhw neud yn dda o gwbwl, nath nifer dal cael o leiaf 100 pleidlais yr un. Pwy yw'r 100 person yma sy'n rhannu'r un meddylfryd a nhw?
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Bygythiad y BNP

Postiogan Mihangel Macintosh » Gwe 02 Mai 2008 6:41 pm

Yr un stori am yr ymgeisydd BNP yn Llundain o'r Morning Star.

A 5 per cent share of the vote is all that is needed for a BNP candidate to be elected.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: Bygythiad y BNP

Postiogan Mihangel Macintosh » Gwe 02 Mai 2008 6:43 pm

huwwaters a ddywedodd:Mae'r BNP a mudiadau erill ma nhw'n cyd-weithio yn cymyd lluniau o'r unigolion sydd cymyd rhan mewn protestiade gwrth-ffasgiaeth er mwyn eu herlyn. Cafodd un cynghorydd y Democratiaid Rhyddfryol ei stabio ar Lannau Merswy am siarad yn eu herbyn yn gyhoeddus.


Mae'r sgymbags yn ei gosod ar y we.

Mae'n cynnwys adran ar gyfer Cymru hefyd.
Golygwyd diwethaf gan Mihangel Macintosh ar Gwe 02 Mai 2008 7:00 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: Bygythiad y BNP

Postiogan huwwaters » Gwe 02 Mai 2008 6:45 pm

Mihangel, doeddwn i ddim isio deud enw'r peth achos mi wneith ddangos i fyny yn pethe fel Google. Peth ola dwi isio yw bod nhw'n cymyd enwau pobol yma ac yn ceisio gwneud rhywbeth gyda nhw.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Bygythiad y BNP

Postiogan Mihangel Macintosh » Gwe 02 Mai 2008 7:02 pm

Wedi golygu fy neges Huw ac wedi tynnu enw'r wefan allan.
Serch hynnu os ydi nhw yn gwglo BNP ma nhw yn mynd i ddod ar draw yr edefyn hyn yn y pendraw...
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: Bygythiad y BNP

Postiogan huwwaters » Gwe 02 Mai 2008 8:05 pm

Mihangel Macintosh a ddywedodd:Wedi golygu fy neges Huw ac wedi tynnu enw'r wefan allan.
Serch hynnu os ydi nhw yn gwglo BNP ma nhw yn mynd i ddod ar draw yr edefyn hyn yn y pendraw...


Ie, mae cymaint yn barnu'r BNP mi fydd hyn dim ond ryw wefan arall. Mae'r gwefan arall ne yn debycach i'r SA a oedd yn yr Almaen.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Bygythiad y BNP

Postiogan Seonaidh/Sioni » Gwe 02 Mai 2008 8:38 pm

Chawsom ni ddim etholiadau yn yr Alban. Y llynedd, fel y gwyddys, bu tipyn o swing tuag at yr SNP yma - ar draul y Blaid Werdd a'r SSP/Solidarity. Y peth na wyddys yn eang ydy fod swing cyfartal tuag at y BNP yma y llynedd. Dim digon iddyn nhw ennill dim byd ond, petasai'r sustem "list" yn un restr dros yr Alban i gyd, mi fasen nhw'n ennill dwy sedd yn Holyrood. Mae'n erchyll. Hefyd, rydw i wedi clywed fod siawns difrifol iddyn nhw ennill sedd ym Mrwsel yn yr etholiadau nesa i Ewrop - rhyw sedd yn Lloegr, dim yn sicr am ble, efallai Swydd Caerhirfryn neu Lundain (maen nhw'n gryf ym Molton , Blackburn. Burnley ac hefyd yn Ardal Eastenders).
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Bygythiad y BNP

Postiogan Tegwared ap Seion » Sad 03 Mai 2008 6:29 am

Mihangel Macintosh a ddywedodd:Yr un stori am yr ymgeisydd BNP yn Llundain o'r Morning Star.

A 5 per cent share of the vote is all that is needed for a BNP candidate to be elected.


Mi gafodd 'i ethol. 1 aelod o'r BNP yng nghynulliad Llundain.
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Re: Bygythiad y BNP

Postiogan sanddef » Sad 03 Mai 2008 5:25 pm

Diddorol nad ydy'r cyfryngau (yr hen gyfyngau cymaint â'r rhai newydd) yn dangos llawer o ddiddordeb yn y ffaith fod yna ffasgydd bellach ar Gynulliad Llundain...brush it under the carpet 'de?
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Nôl

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai