Dwi ddim yn gwbod be di perfformiad y BNP dros Gymru - ond hyd yn oed sa nhw ddim yn ennill yr un sedd, dwi yn poeni yn arw am ei bygythiad. Ro ni di gweld rhai o ganlyniadau wardiau yn Abertawe, ac er ddim yn ennill, mewn rhai or wardiau roedd y BNP yn cael pleidleisiau mor uchel a 600/700 - sydd yn uffernnol o lot.
Da ni gyd yn cofio y llynnedd yn etholidau y cynulliad - BNP o fewn swing o 2500 o bleidleisiau o ennill sedd ar y rhestr yn Ngogledd Cymru.
Mae yn hen bryd ir 4 prif plaid yng Nghymru,(ac eraill), rhoi ei gwahaniaethau i'r ochr ac uno yn ei herbyn - dwi ddim yn gwbod sut, rhaid cyfadde - ond mae angen gneud rhywbeth.
Dim platfform falle iddynt? Yn gallu gweld pros a cons ir ddadl
Dwi yn poeni am hyn, rhaid dweud